|
|
|
'Da ni'n chwilio am bobol i ysgrifennu a chyfieithu ar gyfer Bandiau Cymreig Wythnosol...
Mae tîim Bandiau Cymreig Wythnosol yn tyfu a hoffen ni glywed wrth unrhywun sydd isho ysgrifennu adolygiadau a chyfweliadau neu helpu allan efo cyfieithu erthyglau newydd ar gyfer y wefan. Yn anffodus 'da ni methu talu chi am eich gwaith, ond mae 'na bethau eraill 'da ni'n gallu neud yn lle. Ar ôl cael eich derbyn i'r tîm, wnawn ni setio fyny cyfeiriad ebost eich-enw@welshbandsweekly.com - dim ond aelodau'r tîm sy'n cael y cyfeiriadau yma. Gallwch chi gadw unrhwybeth 'da chi'n adolygu, so os 'da chi'n gwirfoddoli am lot o adolygu, mae'n bosib y bydd gennych gasgliad mawr o CDs am ddim. Weithiau mae'n bosib y gallen ni drefnu tocynnau gigs, ond does dim gwarant ar hyn o bryd. Os 'da chi isho datblygu gyrfa mewn newyddiaduriaeth cerddorol ac isho adeiladu'ch portffolio, bydd ysgrifennu ar gyfer Bandiau Cymreig Wythnosol yn cynnig cyfle i wneud hyn. Yn bellach, bydd eich tudalen proffeil ar welshbandsweekly.com yn lle dda i hysbysebu'ch hun a lincio i erthyglau eich bod chi 'di ysgrifennu ar gyfer Bandiau Cymreig Wythnosol a wefannau eraill. Mae 'na rheolau i ystyried cyn ymgeisio i ymuno â thîm Bandiau Cymreig Wythnosol:
Pe hoffech chi ymuno â thim Bandiau Cymreig Wythnosol fel ysgrifennydd neu gyfieithydd (neu'r ddau), plîs anfonwch ebost i iawncont@welshbandsweekly.com efo ychydig o fanylion am eich hun ac unrhyw profiad perthnasol sydd gennych (peidiwch â phoeni os does gennych chi ddim profiad - mae 'na tro cyntaf i bopeth). Os mae'n bosib, hoffen ni weld enghreifftiau o'ch ysgrifennu - plîs anfonwch nhw efo'ch ebost neu ddarparwch dolennau os mae'ch gwaith arlein. |
||