Adolygiad: mr huw / Pwsi Meri Mew / Amheus / Slapar
Y Cŵps, Aberystwyth, 30/11/07

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

Adolygiad gan Angharad Griff

 

 

“Dim gigs yn y Cŵps?” “Na, no we, nefar!” Yn anffodus, roedd hyn yn realiti am rhan helaeth o 2007. Ond, hwrê, ma nhw nôl!

Ar nôs wener gwyntog a glawiog yn Aberystwyth, roedd Cymdeithas yr Iaith yn trefnu gig i cyd fynd gyda protest yn Morrisons oedd i’w ddilyn y diwrnod nesa.

Ma fe wastad yn arwydd da pan ma’r lle bron iawn yn llawn dop cyn i’r bandiau gorffen sound checio. Doedd y trefnydd druan heb gael amser i setio’r bwrdd wrth y drws (ac i fod yn deg iddo fe, doedd y gig heb ddechrau’n swyddogol) ond roedd tîn ar pob un cadair cyn 8 o’r gloch.

Yn dechrau’r noson roedd band newydd o Gaernarfon, Slapar. Yn amlwg yn mwynhau ar bod ar lwyfan, o nhw’n edrych fel plant ar noswyl Nadolig.
Ocê, odd hi yn amlwg mai dechrau mas ma Slapar, ond odd un neu ddau cân bach da iawn gyda nhw.  Nathon nhw orffen ei set gyda Methu Cofio sy'n enw eironig i gân sy dal ar fy ‘internal jukebox’ dyddiau ar ôl y gig.

Nesa lan oedd Amheus o Lanamddyfri, gyda'r allweddellau mwyaf fi wedi gweld mewn gig erioed.  O nhw'n cymryd lan tri chwarter o'r llwyfan. Rywsut, nath gweddill y band ffitio ar y llwyfan hefyd.  Odd ei set nhw bach fel gêm dyfalu - pa fath o gerddoriaeth bu nhw'n canu yn y can nesa?  Rhaid rhoi clod i band sy'n gallu mynd o piano ffync fel Y Panics i roc clasurol Meatloaf.  Un peth sy’n sicr roedd y basydd, Heledd, yn gachboeth!. Gwyliwch mas am ferch ddawnus yma.

Dwi’m yn beio’r John Travolta wannabe’s oedd yn y gig yn safio’i mŵfs i Pwsi Meri Mew. Pleser i wylio o’r nodyn cyntaf. Er i rhain cael y problemau gyda’r system sain sain mwyaf ar y noson, odd e heb neud gormod o niwed i'w set gwych.  Doedd dim un cân gwan.  Ma nhw’n arbrofol, seicadelic ac yn chwarae gyda’r gynulleidfa.  Roedd hi’n braf cael gweld melodica yn cael ei ddefnyddio hefyd – rhwbeth prin iawn.

Y tro diwethaf i mr huw chwarae’n y Cwps dim ond 6 person oedd yna (yn cynnwys fe a’r trefnydd). I fod yn deg, roedd hi yn ystod eira mawr Chwefror 2007. Felly, y tro yma, death mr huw a 2/3 o’i fand gyda fe fel cwmni. Erbyn hyn roedd y John Travoltas yn neidio i bob gyfeiriad ac yn canu pob cân gair am air.   Yn amlwg ma lot o gopîs o Llond Lle O Hŵrs A Lladron di mynd yn Aberystwyth!  

Ma na wastad awyrgylch da i gigs y Cŵps a doedd heno ddim yn eithriad.   Diolch byth bod y traddodiad yma nôl.