Away with the fairies: noson cartref gyda Anweledig

 

 

 

hysbysebwch yma
 

Ysgrifennwyd y cyfweliad yma gyda aelodau hyfryd Anweledig yn Haf 2001, gyda’r bwriad o’i gyhoeddi ar dudalennau dirgel Rhifyn 9.5 o Bandiau Cymreig Wythnosol.

Cyfweliad gan Debs. Lluniau byw gan Lewis yn Woofstock.  Cyfieithu gan Huw Morg.

 

Rhagor o Anweledig:

Anweledig ar MySpace
Gai Toms ar MySpace
Anweledig ar last.fm
Anweledig ar Wikipedia
Anweledig ar y BBC

Anweledig yn Amazon

Amser maith yn ôl, yng nghanol y mynyddoedd uchel ger pentref tawel Llanfrothen yng ngogledd Cymru, roedd dyffryn dirgel hud – dyffryn ag oedd yn amhosib i’w ffeindio unwaith y byddai rhywun yn ei adael. Yng nghefn y dyffryn hwn, ar lwybr serth a troellog uwchben clogwyni peryglus a byddai’n bygwth marwolaeth gyda phob cam, roedd casgliad bler o hen adfeilion fferm, yn rhannu y cefn gwlad mawreddog gyda moch daear, llwynogod, adar a chwningod.

Uwchben yr hen adfeilion safai twmpath gwelltog. O gylchi’r twmpath, bydde un yn ffeindio sedd siap pedol a bwrdd carreg wedi’u cerfio, yn gwynebu Môr Iwerddon a felly’r machlud fin nos.

Mae’r stori hudol hon yn un hynod, ond nid stori tylwyth teg mohoni, nag hyd yn oed breuddwyd: mae’r dyffryn hud yn bodoli. Paradwys ar y ddaear yw’r man, a mae’r diawled lwcus Anweledig yn byw yno.

Ewch i’w tŷ, ac er yn gyfforddus, nid yw’n berffaith; cewch eich rhybuddio wrth myned i Chez Anweledig: “Gwyliwch y stafell molchi – mae’n fyw!”. Ystafell fawr yw’r gegin, gyda bwrdd yng nghanol llawr a dim llawer arall. Heblaw am brwsion o fwyd o amgylch y lle, bydde’n hawdd dod i’r casgliad mai nid gegin oedd yna. Mae waliau’r ystafell fyw wedi eu gorchuddio a phosteri a darluniau Sunshine Dan y Bongo Man. Mae un wal wedi ei drawsnewid i llyfr cyfeiriadau a dyddiadur anferthol, trwy’r defnydd crefftus o magic marker, a mae llygoden wedi ei biclo yn teyrnasu ar y bwrdd coffi.

“Ffeindio’n ni e wedi boddi mewn glasied o ddwr,” rwy’n cael gwybod, “felly dyma ni’n ei preserfio fe am byth!”

Ond bechgyn yw Anweledig, a, fel y gwyddom ni oll, dydi gwaith tŷ a bechgyn ddim yn bartneriaid naturiol. Trwy lyged dynes, mae gan y cartref botensial arbennig – bydde ymweliad gan Carol Smillie a Lawrence Llywelyn-Curtain-Suit-Double-Barelled-Suave-Peacock-Bowen yn trawsnewid y man i baradwys, paradwys mor hyfryd a gwên direidus Ceri Cunnington.

I ddechrau o’r dechrau, beth am hedfan nôl awr neu ddwy i dafarn lleol yr hogia, Y Ring yn Llanfrothen. Rwy’n cyrraedd fel mae amryw o aelodau Anweledig a’i ffrindiau yn rhawio bwyd tafarn i’w cegau, wedi diwrnod caled yn trafeilio o wyl Parti Ponty ym Mhontypridd. Mae dwy awr yn hedfan cyn i ni adael y dafarn – y band yn feddw dwll ac yn cario bocs o gwrw – a mewn grwpiau bach o dri neu pedwar yn dechrau nôl i’r tŷ. Mae’r cwrw efo Joe a Ceri, ond rwy’n yrrwr tacsi i Rhys a Gai. Wrth droelli lan y ffordd i’r mynydd, mae Gai yn gollwng un o’r rhechfeydd mwyaf drewllyd i mi erioed brofi, a rwy’n treulio’r daith gyda’m mhen yn hongian allan o’r ffenest.

Gat pren yw’r mynedfa i Parc Newydd, a mae wedi cau. O flaen y gat mae grid gwartheg. Mae haid o ddefaid (neu ‘llygod mynydd’ fel mae Dan yn ei galw) fel pe baent yn syllu ar rhywbeth a fel rydym yn cyrraedd mae’r haid yn gwasgaru, gan ddatgeli achos eu diddordeb: mae un ohonynt yn y grid gwartheg, yn rhedeg yn eu unfan mewn panic, ei goesau yn chwyrlio heb gyffwrdd y llawr. Mae gwyneb y ddafad yn bictiwr yn ngolau lampau’r car, a dwi’n gallu ei chlywed yn ynghanu: “O ffwc, chi’n mynd i fwyta fi yn dydech?”

Dwi’n stopio’r car.

“Gwell symud y ddafad neu mae mynd i torri ei goesau yn trio dianc,” meddai Rhys, yn gofidio. Dim problem. Er syndod i Rhys, rwy’n brasgamu at y ddafad, llenwi’m dwylo a’i chnu a codi’r anifail o’i charchar. Dwi ddim yn siwr pwy sydd mewn mwy o sioc – Rhys neu’r ddafad – ond mae’r ddafad yn edrych arnaf yn ddiolchgar wrth rhedeg at ei ffrindiau ar y mynydd. Mae Rhys ar y llaw arall yn giglo fel ffwl.

“Beth?! Hahaha! Welest ti be nath hi? Cario dafad! Hahaha! Nei di wraig fferm dda!”

Rydym yn cyrraedd pen y daith dim ond i ffeindio fod Dan a cwpwl o ffrindiau y band – Gwydion a Mark – wedi ein curo at y tŷ. Rwy’n dadbacio fy magiau i ddatgelu fy rhoddion tuag at y parti: bag o donyts, botel o fodca, dwy litr o lemonêd a dwy litr o soda hufen. Does dim hol o Ceri a Joe, felly mae Gwydion yn ffonio mobeil ei chwaer (mae hi hefyd ar goll) a rydym yn dechrau canu “Dewch a’r cwrw, dewch a’r cwrw!” at y ffôn i gyfeiliant gitar fflamenco Gai.

Erbyn i’r lleill gyrraedd mae’n eithaf hwyr, rydym ni’n ffwcd, ac yn amlwg does dim cyfweliad ar y gweill. Cytuno gadael hwnna tan y bore, a treulio’r oriau man yn siarad, chwerthin a chanu.

Yn raddol mae pobl yn syrthio i gysgu. Rwy’n deffro yn y gader esmwyth am 6:30am i ffeindio Ceri ar ei luniau yn cofleidio fy nghoesau, y wên enwog dal ar ei wyneb, a côr o ddefaid yn canu clod i’r bore bach tu allan ffenest y stafell fyw. Rwy’n estyn am y dictaffôn a recordio’r defaid; chi byth yn gwybod efo’r farchnad recordio dyddie ma. Mewn tamed, mae Ceri yn ôl yn cysgu a rwy’n ymlusgo i’r llawr i orwedd.

Oriau yn ddiweddarach a mae’r bechgyn yn deffro un wrth un. Ceri sydd lan gyntaf, yn edrych yn grêt yn ei slipers gwyn, anrheg answyddogol o Hotel Jury yng Nghaerdydd, lle bu y band yn aros y noson cyn Parti Ponty. Mae’n rhoi llond ceg i mi am gysgu yn y gader esmwyth.

“Nes ti gysgu yn eistedd? Dyle ti wedi cymryd fy stafell i!”

Ie, diolch Ceri – byse clywed hynny cyn cysgu wedi bod yn dda...

Mae’n debyg fod trip Anweledig i Bontypridd wedi bod yn un cymleth. Torrodd y ‘Bws Serch’ ar y ffordd i Gaerdydd a collodd hyd yn oed y dihymongar Sunshine Dan ei dymer.

“Fel arfer bydde fo ddim yn rhoi niwed i wybedyn,” esbonia Ceri, “ond aeth o bach yn dreisgar ddoe. Roedd o eisiau tynnu’r croen ffwrdd o’n ngluniau a gwneud brechdan! Roedd hynny ar ol iddo fo dyrnu fy ngwyneb i fewn! Roedd o wedi bod yn gyrru am rhy hir, fel road rage...”

Mae Joe yn ymuno â ni yn y stafell fyw. “Pan mae’n cael road rage dy ni’n cael laff achos mae’n digwydd mor anaml!”

Ceri: “Un bore nath o ddweud, ‘Pam dwi wastad yn gyrru? Dwisio cael yn pissed!” Ond mae o’n seren, dyn bonheddig.”

Dy chi gyd yn ymddangos fel pobl hapus ddo.

“Act yw e ar dy gyfer di Debs!” chwardda Joe.

Ceri: “Unwaith ti allan o’r drws dy ni fel: [rhuo] ‘Gyd nath hi adael ni oedd soda ffycin hufen!’”

Mae gan Joe bwynt am wisgo gwyneb hapus yn gyhoeddus. Dydi o ddim yn cymryd llawer o holi i ffeindio allan fod y bechgyn yn ddigon anhapus i gymryd hoe o’r band fis Medi. Yden nhw wedi ‘laru ar eu gilydd?

“Mewn ffordd da,” gwena Joe.

“Dy ni heb bod yn mwynhau gigs,” esbonia Ceri. “Dy ni’n trio gwneud bywoliaeth ond dydi o ddim yn hawdd. Ond nos Sadwrn yn Conwy roedd torf hollol gwahanol a roedd yr hen feib yno, o ni jyst yn byssio arno fo.”

“Oedd y pobl jyst yna i glywed y gerddoriaeth ac yn gwerthfawrogi,” ychwanega Joe. “Roedd llai o yfed. Fel arfer mae pobl yn cyrraedd ac yn dechrau yfed, a fel mae’r amser yn mynd mae pawb yn feddw dwll.”

“Mae hynny’n beth da weithiau,” mae Ceri yn gwneud pwynt.

“Ie,” medd Joe, “ond mae’n neis cael ymateb gwahanol weithia. Ni’n mynd i Lerpwl dydd Iau a bydd e’n dorf gwahanol eto.”

“Dy ni heb mwynhau’r gigs y dwy fis diwethaf,” mae Ceri yn cyfaddef. “Dy ni ddim yn cael dim ceiniog o dôl, a dim ond Anweledig sy’n ein cynnal dros y misoedd diwethaf.”

Pam ddim dôl?

“Achos dy ni fod yn fusnes,” esbonia Ceri. “Gaethon ni grant o Dywysog Cymru...” Mae’n chwerthin mewn ffit o eironi.

Oedd e’n sioc cas nad oedd o’n hawdd byw o enillion y band?

“Wel, ddim ‘cas’, ond ie...” medd Ceri.

Mae Dan ar ddihun ac yn ymuno yn y sgwrs.

“Lwc gwael oedd o mewn ffordd, cyn gynted penderfynom ni gwneud e, yn sydyn stopiodd y gigs radio a theledu a bydde fel arfer yn digwydd bob tua mis,” esboniodd. “Ni’n dechrau cael rhai nawr, ond mae wedi bod yn amser caled. Canslwyd lot oherwydd clwy traed a gennau. Dy ni’n gwneud lot o gigs achosion da hefyd, mwy nag erioed o’r blaen, a mae hynny’n ein blino ychydig, gwneud gigs a gwneud dim pres ohonyn nhw. Ond nawr ni wedi penderfynu cael brêc, mae pethau yn dod yn haws.”

“Dwi’n meddwl bod ni gyd am gyfnod yn teimlo nad oedd o’n gweithio,” dywed Ceri, “ond doedd neb yn barod i agor ceg. Yna’n sydyn naethon ni gyd ddweud fod ni’n mynd liwt ein hunan. Ni’n mynd i fwynhau yr Haf, yna yn Medi cael brec. Clirio’n pennau a gweld beth i’w wneud. Achos roedd hi’n od mynd ar lwyfan a dim cael y teimlad. Pan nes ti ddod i’r gigs cyntaf oeddet ti’n dweud ‘Waw, mae rhain yn rili mwynhau eu hunan’. Ond mae’r gigs diwethaf heb bod run fath. Roedd Gai a fi yn cweryla bob gig, o ni’n cweryla efo pobl... O ni ddim yn mwynhau yn bersonol, jyst esgus. Ond yna Conwy – torf hollol wahanol – ffycin noson gwych. O ni gyd yn gwenu.”

Mae’r band yn cynllunio ffeindio swyddi yn Medi, unwaith mae gigs yr Haf allan o’r ffordd. Bydd Gai yn ‘thespian’, a mae swydd sydd gen Ceri mewn golwg yn swnio’n ddiddorol:

“Rwy’n dechrau job dydd Llun,” gwena Ceri. “Dymchwel carchar yn Rhuthin! O ni’n meddwl fod ni’n adeiladu o o’r tu fewn – scam gan Tony Blair i wella statistics dôl: adeiladu’r carchar o’r tu fewn a cadw nhw fewn na!”

Roedd Anweledig wedi gobeithio gigio mwy tu allan i Gymru a cynhyddu’r dilyniant drwy ffeindio ffans Seisnig, er hyn, does dim bwriad ganddynt i ganu yn Saesneg, ond nid oherwydd rhesymau gwleidyddol.

“Dy ni ddim am newid ein egwyddorion,” mynna Ceri. “Se ni’n hoffi newid rhai pobl eraill. Dydi o ddim yn wleidyddol ddo. Mae’n mynd ar ein nerfau tamed bach, fel pan chwaraeom ni yn Aberystwyth ychydig wythnosau yn ôl, roedd pobl yn dweud ‘Chi yw’r unig band ar ôl sy’n canu’n Gymraeg’, ond dydi o ddim am hynny, dim o gwbl. Roedd Maharishi a Topper yn chwarae hefyd a rhyw foi yn taflu boteli a pethau oherwydd eu caneuon Saesneg. Mae ein sengl newydd am y fath yna o beth. Felly pan chwaraeom ni yna, gofynnon ni ‘Pwy oedd y boi nath boteli Topper?’ a dyma ni’n cael go arnynt... oedd o’n ffycin mental. Yna dyma ni’n dechrau canu God Save the Queen nerth ein pennau, gyda angerdd, gyd o ni! O nhw’n mynd yn mental, yn aros amdanon ni tu allan!”

“Oedd hi mor agos i droi’n fler!” gwena Joe.

Felly nid yw canu yn Gymraeg yn rhywbeth gwleidyddol? Chi dim ond yn gwneud e oherwydd Cymraeg yw’ch iaith gyntaf ac yn beth naturiol i chi ei wneud?

“Ie!” mae Ceri yn cytuno. “Ond mae pobl yn troi o’n beth wleidyddol...roedd rhywun yn dweud wrtha i fod canu yn Gymraeg yn act wleidyddol yn ei hun erbyn hyn, oherwydd fod y Gymraeg mor bwysig. Ond i ni, siarad yn naturiol yw. [canu] ‘Here’s to you Mrs Robinson, you can stick your foot back in your mouth, you fucking cow…’

Mae rhai o’u geiriau yn cynnig negeseuon cymysglyd gwleidyddol. Mae Hunaniaeth a 6.5.99 yn cynnig ton goddefgar, tra bod Graffiti Cymraeg yn galw Saesneg yn iaith frwnt.

“Dydi Graffiti Cymraeg ddim yn oddefgar,”eglura Ceri. “Lle ges i fy magu, yn Tanygrisiau, roedd yna ystad dai ac mewn graffiti ar un o’r waliau oedd y gair ‘SLAG’, mewn llythrennau mawr iawn. Sgwennodd Gai y gân. Son am dyfu fyny yn Tanygrisiau yw e, yn gwrando i Marley...sylw ar beth mae’r graffiti yn ei ddweud, na gyd. Dy ni ddim yn wrth-ddim byd, heblaw gwrth-sefydliad falle,” mae’n gwenu.

Ar bwnc geiriau, dwi methu help cyfeirio at Ieithydd Cyfrwys – mae’r geiriau mor ddrygionus!

Chwardda Ceri. “Roedd Kate Crockett yn meddwl taw can brotest oedd e am bobl ddim yn ysgrifennu porn yn Gymraeg! Mae hynny’n beth da. Welest ti’r adolygiad sgwennodd hi? ‘Gwell na Stereophonics a mwy pwysig na Catatonia,’ dywedodd hi.”

Mae barn Kate yn adlewyrchu nifer o ieunctid Cymreig sy’n mynd i’r gigs – am nifer o’r deg mlynedd o’u bodolaeth, mae Anweledig wedi bod yn un o’r bands mwyaf poblogaidd yn fyw yng Nghymru. Ychydig iawn o gigs Anweledig sydd ddim yn llawn dop o gyrff arddegwyr chwyslyd, a mae’r achlysuron hynny yn ffordd o fyw i gynifer o ieuenctid a fydd yn drist o glywed o Anweledig yn cymryd hoe, er gymaint mae nhw’n haeddu’r hoe yna.

Mae’r ffans mwyaf yn ymweld yn gyson â safle wê y band, anweledig.com, lle mae nifer yn holi ar y llyfryn ymweld ble fydd y gigs ar gyfer rhai dan ddeunaw. Ond fel bydde unrhyw un sydd wedi gweld y band, mae’r torfeydd ar gyfartaledd yn bymtheg oed ac yn feddw. Mae’n nhw’n ffeindio’i ffordd i fewn rhywsut...

“Pan chwaraeom ni yng Nghonwy dydd Sadwrn roedd na llwyth o kids na,” myfyria Ceri. “Oedden nhw hyst ddim yn cael diodydd wrth y bar. Roedd yr atmosffer yn wych. Nid pobl meddw 15 oed, ond mwy fel oed fy chwaer fach, tua 12. Mae’n hawdd – gadwch nhw fewn, ond peidiwch â rhoi diod iddyn nhw!”

Mae’r band ei hunan yn defnyddio’r llyfryn ymweld ar y safle wê yn achlysurol, yn rhoi tamed o newyddion a taweli neu gwirio suon, yn ogystal â dweud straeon gigio fel sandalau Ceri yn cael eu dwyn o gefn llwyfan un gig (gyrrodd y sandalau nifer o gerdiau post electronig i’r safle we o bob cwr o’r byd) ac aelod o fand arall yn torri fewn i’r Bws Serch a cachu ar eiddo’r band. Mae rhai o’r straeon mwyaf diddorol (a poenus) o ffan ifanc sy’n dweud ei bod yn dilyn Ceri.

“Dwi wedi cwrdd â hi,” chwardda Ceri. “Nath hi ddilyn fi o Penrhyndeudraeth i’r Ring Llanfrothen, yn chwibannu gyd o’r ffordd. Dim ond tua 16 ydi hi. Yna nath hi ysgrifennu’r hanes ar y llyfryn ymwelwyr: ‘Nes i ddilyn ti! Ti’n gwybod pwy ydw i!’ Tro arall, es i i Borthmadog i torri’n ngwallt, yna mynd i dy mam i edrych ar y safle wê. O fewn dwy awr roedd hi wedi rhoi o yn y llyfryn ymwelwyr: ‘O dwi’n hoffi dy wallt nawr... ti di torri e a mae’n neis!’ Ffycin hel! Mond newydd ei dorri o ydw i!”

Er fod y band yn cymryd hoe mis Medi, mae nhw’n cynllunio lot o hwyl a gemau ar gyfer yr Haf, yn cynnwys gigs Eisteddfod, taith wythnos yn Llydaw a noson arbennig ar gyfer gwyl Miri Madog yn Awst.

“Pryd fydd y cyfweliad ma allan?” mae Ceri yn holi. “Ar ôl Miri Madog? Wel, allai ddweud wrtho ti de... mae genno ni syrpreis wedi ei drefnu. Bydd na gant o bobl noeth ar y llwyfan efo ni! Nid exhibitionists, ond naturwyr go iawn, pobl fydde’n noeth yn naturiol.” Mae’n chwerthin wrth feddwl am hyn.

Naethoch chi ddim chwarae yn noeth yn Sesiwn Fawr llynedd?

“Na, dau foi nath neidio ar y llwyfan yn noeth,” esbonia Ceri. “O ni yng nghanol 6.5.99: ‘All this Welsh shit is a waste of time...’, a roedd pobl yn gweiddi, ‘Ie! Www!’ Nes i feddwl, ‘Ie, grêt, mae’n nhw’n dallt...’, troi rownd a roedd na ddau dyn noeth tu ôl i fi!”

“Dyna’r rheswm mwyaf dy ni ddim yn chwarae Sesiwn Fawr eleni,” dywed Dan heb gysgod gwên ar ei wyneb.

Mae dillad coll yn chwarae rhan fawr yn stori Anweledig, un ffordd neu’r llall. Pan gwrddes i a Ceri gyntaf roedd rhaid iddo fe fenthyg fy nghrys i adael y cawodydd yn yr Eisteddfod oherwydd roedd y band wedi cuddio ei ddillad. Yn y gig i lawnsio ei albwm Gweld y Llun ym Mhetws y Coed fis Mawrth, cododd y band arian ar gyfer Comic Relief trwy chwarae’r gig gyda’u trowsusau lawr rownd eu traed, gyda Ceri yn gweiddi “Pants i poverty! Pants i poverty! Taflwch arian i ni a bydd y pants yn dod ffwrdd!” Cwpwl o gigs yn ddiweddarach, costiodd yr un tacteg noson yn y celloedd i Ceri – cafodd ei arestio am yr act a’i gloi i fyny fel roedd o’n dod i fyny ar E. O o...

Falle nad yw Anweledig yn gweld o ei hun ar y foment, ond mae nhw yn wych o hwyl, a mae’n nhw’n bobl parti 24 awr. Falle bod gwirionedd yng ngeiriau joclyd Ceri a Joe: act yw e a ffwrdd o lyged y cyhoedd dydi nhw ddim yn gwenu a ddim mor hapus a mae nhw’n ymddangos. Ond os taw hwn yw’r gwir, mae nhw’n gwneud job diawl o dda yn actio. Mae cwmni Anweledig yn rhoi gwên barhaus ar eich gwyneb.

A does dim amheuaeth mai efo gwên, yng nghwmni Anweledig, yw un o’r ffyrdd orau o fod.

Cyfweliad efo Anweledig: Rhys

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfweliad efo Anweledig: brass section

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfweliad efo Anweledig: Joe

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfweliad efo Anweledig: brass section

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfweliad efo Anweledig - Ceri

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfweliad efo Anweledig - Sunshine Dan

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfweliad efo Anweledig - Gai