Cyfweliad efo Brian Wright, awdur To Hell and Back with Catatonia

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

Ar ôl cyfres o drychinebau personol, roedd Brian Wright eisiau yfed ei hun i farwolaeth.  Ond roedd ei fywyd ar fin newid, achos oedd o ‘di darganfod y band a rhoddodd y bodd i fyw.  Catatonia yw’r band yna.

Cyfweliad a ffoto: Lewis. Cyfieithu: Debs.

Brian Wright  

Dim yn aml mae bywgraffiad band yn cael ei ysgrifennu efo cymaint o basiwn â To Hell and Back with Catatonia, stori arwraidd Brian Wright o gerddoriaeth, adenilliad a brwydro’n erbyn yr ots.  Yn arferol, mae rhyw two-bit-hack neu ‘ffan’ eisiau cashio mewn ar lwyddiant rhywun arall... maen nhw’n rhoi cwpwl o ddyfyniadau o hen gyfweliadau gyda’u gilydd, yn cloddio hen ffotos, ac efallai yn perswadio ‘hen ffrind’ o’r band i rhannu dirgelion.  Wedyn, maen nhw’n gwerthu nifer o lyfrau i ffans sydd yn newynog am wybodaeth, heb erioed ‘di checkio os mae’r hyn eu bod nhw ‘di cyhoeddi’n gywir yn y lle cyntaf.

Er bod Catatonia ‘di chwalu’n ddiweddar, mae To Hell and Back dal yn berthnasol achos tydi o ddim yn kiss-and-tell, tydi o ddim am fywyd serch Cerys, neu am ddatguddio y “Catatonia go iawn”.  Mae’r llyfr hon am y daith hir, anodd o un ffan o defynderoedd anobaith yn ôl i’r byd arferol, taith sydd mor ddiddorol rŵan ag oedd hi pan roedd Catatonia’n derbyn gwobrau a gwrthod chwedlau.  Mae’r llyfr yn sefyll yn uchel uwch bennau y mwyafrif o fywgraffiadau o fandiau sydd ar werth ar y foment, achos ‘da chi’n gwybod y gafodd ei ysgrifennu gyda gofal ac ystyriaeth; a ‘da chi’n coelio Brian yn llawn, achos mai stori Brian ydi’r llyfr ‘ma, nid jyst stori Catatonia.

Roedd Brian Wright ‘di gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth ers talwm cyn cwympodd ei fywyd rownd ei glustiau.  Roedd o ‘di chwarae mewn bands roc a phop, a fel artist solo gwerin oedd o ‘di gweithio mewn feniws a helpu rheoli bandiau yn ardal Sheffield.  Roedd cerddoriaeth yn ei waed, yn rhan enfawr o’i fywyd, tan i gyfres o ddigwyddiadau achosi iddo rhoi’r gorau iddi bron yn llwyr.

“Ar ôl marwolaeth fy ail wraig,” esbonia Brian yn ei ddull agorol ac uniongyrchol, “mi ges i ddiferlif gwaed yn fy mrên, a wedyn marwodd fy mam.  Pan o’n i’n trio adenill o’r rheiny, nes i sylweddoli’n sydyn ‘mod i ‘di colli popeth, a dechreuais yfed yn drwm, er mwyn dianc.”

Yn lwcus, cyn gallai Brian yfed ei hun i farwolaeth, clywodd rhywbeth yng ngherddoriaeth rhyw fand adnabyddus Cymreig, ac achosodd adwaith yn ddwfn yn ei is-ymwybyddiaeth.

“Roedd ‘na rywbeth am gerddoriaeth Catatonia a gliciodd,” meddai, “a’r cerddoriaeth oedd o [nid sut oedd Cerys yn edrych], achos o’n i mewn ystafell gwahanol.  Doedd gen i’m syniad pwy roeddynt, ond ffeindiodd allan fy ffrindiau am y band, ac aeth â fi i ragor o’u gigs, a wedyn ddechreuodd y broses gwraddol o adferiad.  Dihunodd Catatonia’r cerddoriaeth ynddof i eto, a thros y blynyddoedd picais i fyny’r pethau ‘mod i ‘di gadael yn ôl.  Wrth sylweddoli ‘mod i bron ‘di taflu popeth i ffwrdd, fy ngharedigrwydd am y gerddoriaeth a chrêd mewn cerddoriaeth a ddaeth â fi’n ôl.”

Rhoddodd y ‘chance encounter’ yna yng Nghlwb Ifor Bach, efallai ym 1993 – tydi Brian ddim yn sicr pryd, yn union, achos “mae dyddiadau o’r amser ‘na’n basically yn ysmotyn” – y rheswm i aildrefnu’i fywyd, hyd yn oed os mae o’n gwrthod i dderbyn rŵan oedd ei fywyd yn galed.

“Wel, fyswn i’m yn dweud mai amser caled ges i, achos ti’n byw o ddydd i ddydd, a ti methu planio dy ffordd allan o unrhyw safle.  Wrth edrych ‘nôl, ie, i rhai o bobol efallai mae’n edrych fel amser caled, ond o leiaf roedd y stwff drwg wedi’i grynhoi mewn adeg byr.”

Ond ar y pryd, roedd Catatonia’n is-gwblhau’n gyson a brwydro drwy broblemau y byddai’n gyrru pobol gyda llai o benderfyniad i rhoi’r gorau iddi.

“Os tydyn nhw ddim ‘di mynd drwy’r crap ‘na, ac wedi methu dod trwodd, wedyn dwi’n gwybod ni fyddwn i chwaith.  Dwi’n meddwl mai Oasis a dywedodd ‘peidiwch â rhoi’ch hyder mewn band roc a rol’, ond dyna’r unig peth o’n i’n gallu coelio.  O’n i ‘di chwythu popeth arall, ac o’n i jyst yn ddiolchgar y roedden nwh’n mynd i fod yno i ddarparu’r stepping stone ‘na.  Heb nabod nhw’n bersonol ar y pryd, o’n i’n gwybod doedd dim gwaranti y bydden nhw yno drwy’r amser, ond nes i wthio hynny i gefn fy mhryd.

“O’n i’n rhy ofnus i siarad â nhw, neu mynd yn agos iddynt, rhag ofn fyddai’r fath o ‘mental bonding’ o’n i ‘di datblygu efo’r cerddoriaeth yn cael ei dorri os oeddynt yn meddwl ‘mod i’n idiot, neu os o’n i’n meddwl yr oeddynt yn crap, fel pobol.  O’n i methu cymryd y siawns.  Roedd rhaid i mi wrando arnynt am y gerddoriaeth, doedd dim ffordd o’n i’n gallu ystyried unrhyw deimladau ar gyfer unigolion.”

Er mwyn gwybod rhagor am Catatonia a beth oeddynt yn neud, dechreuodd Brian chwilio am wybodaeth, ond doedd dim llawer i’w gael; a roedd llawer o’r datganiadau i’r wasg yn straeon wedi’u dyfeisio gan y band ar gyfer cyhoeddusrwydd.

“I ddechrau, darganfyddais lot o stwff am Catatonia gan siarad â’r ffans, ond doedd neb rili’n gwybod digon amdanynt.  Pan driais gael gwybodaeth am y band o’r cwmni recordio [Ankst Music] a phobol yn y diwyddiant cerddoriaeth Cymreig, wnaethon nhw’n glir iawn: er bod nhw’n mwynhau fy nghwmni a bydden yn siarad â fi am unrhywbeth, doedd dim cyfle o siarad am eu gilydd.  O’n i’n holloll parchu hynny, o’n i’n meddwl mai oedd o’n ffantastig.  Ond newidodd o ddim y ffaith yr oeddwn yn methu darganfod unrhyw wybodaeth amdanynt, heblaw’r stwff a oedd yn dod allan mewn datganiadau i’r wasg, a roedd y rhan fwyafrif o hynny’n ffug.”

“O’n i’n lwcus i allu cael gwybodaeth ar sylfaen ‘fan-link’ – rhoddodd pobol fanylion i’w gilydd, ac unrhywbeth yr oeddynt wedi darganfod.  Ar ôl sbel, fi oedd yr un a ymddangosodd i fod yn un o’r rhai o bobol efo gwybodaeth da, dim scandal, ond stwff ynglyn â hanes y band.  Wedyn ddes i ar draws Welsh Bands Weekly a dechrau siarad efo Debs, ac o’n i wrth fy modd i ddarganfod o’n i’n gwybod pethau nad oedd hi!”

Annogodd Debs i Brian feddwl am ysgrifennu llyfr, syniad a gafodd o yr un pryd.
“Erbyn hynna roedd gen i deimlad mawr fydd yn rhaid i mi adael y stwff yna allan.  O’n i’n meddwl roedd gen i wybodaeth y gallwn i rhannu efo ffans arall heb ddymchwelyd y band, ond byddai’n esbonio mwy am y band a’u hanes.”

Yn y dechrau, doedd y band a’i gwmni reholi ddim yn meddwl y byddai unrhywbeth yn stori Catatonia’n werth ysgrifennu amdano, a chafodd Brian y ‘brush off’.

“Dywedon nhw nad oedd planiau ar gyfer bywgraffiad swyddogol, allwn i ddod ‘nôl mewn 12 mis rhag ofn yr oeddynt ‘di penderfynu rhywbeth.  Wedyn awgrymodd Debs i mi ysgrifennu dim ond un pennod, dangos o i’r band, dangos o i’r rheolaeth, a dangos nhw i gyd beth mae o fel.”

Ar ôl lot o waith caled ar gynllun y pennod cyntaf, a wedi dechrau’r drafft cyntaf, darganfoddodd Brian fod bywgraffiad arall answyddogol yn dod allan.  Gwnaeth hyn yn anodd i ffeindio cyhoeddwr a fysai’n fodlon i gymryd.  Yn y diwedd, perswadiodd Brian y band a’r cyhoeddwyr drwy’i commitment i’r band ac ansawdd ei lyfr a’r band.

“O’n i ‘di rhoi commitment i’r band – a nes i gadw fo – y byddwn i byth yn mynd ymlaen a chyhoeddi’r llyfr os roedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad iddo fo, ac os oedd ganddynt unrhyw broblem efo unrhywbeth a oedd ynddo, byddwn i’n tynnu fo allan.  Pan glywodd y band y byddai bywgraffiad arall yn dod allan, dywedodd y band ‘ocê, dos ymlaen a ffeindio cyhoeddwr, does gennym ddim gwrthwynebiad.”

Mae To Hell and Back with Catatonia yn ddiddorol iawn, cymaint i ddarganfod sut ymdarodd Brian â’i drafferthion ag i ddysgu mwy am Catatonia.  Ond mae’n anarferol iawn am awdur i ddatguddio cymaint o’i fywyd ei hun, ac am y bywyd yna i gael ei gordeddu efo hanes band.

“Yn wreiddiol do’n i’m am ysgrifennu am fy hun, jyst am Catatonia, ond roedd pobol yn meddwl roedd gen i slant anarferol [h.y. ei stori personol], so pan ddilynais hynny drwodd, doedd bywydau preifat y band ddim ynddo fo – mae ‘na mwy am fy mywyd personol na bywyd personol y band.  Os o’n i ‘di archwilio eu bywydau preifat, byddai rhaid i mi fynd i fwy o ddyfnder am fy mywyd i – a byddai hynny ‘di bod yn set pedwar cyfrol!”

Mae’r llyfr ‘di cymryd dwy flwyddyn a hanner i orffen, a ‘di bod yn lafur o gariad i Brian.

“Os gafodd o ei gyhoeddi neu beidio, roedd rhaid i mi ysgrifennu fo,” meddai.  Ond mae o’n awyddus i bwysleisio y ni fydd o’n ennill unrhyw arian o’r llyfr o gwbwl.

“Mae’r royalties o’r llyfr yn mynd i PACT, elusen ar gyfer plant sy’n dioddef o ganser.  Mae’r elusen wedi’i sylfaenu yn Sheffield ond mae’n gorchuddio rhan fawr o ganol Lloegr.  Mae’r llyfr ‘di bod yn gyfle i mi rhoi rhywbeth ‘nôl, ar ôl cymryd lot allan, a dyma’r cyfrwng ideal i wneud hynny.  Dwi’n ddiolchgar bod Catatonia ‘di rhoi fy mywyd ‘nôl i mi, so mae’n deg i rhoi rhywbeth ‘nôl os gallaf.”

Gan unrhywun arall, efallai byddai hynny’n swnio’n sanctimonious a trite. Ond gan Brian mae’n fynegiant o ddiolchgarwch diffuant am gael y lwc i ddarganfod Catatonia pan doedd dim yn fod o bwys ac oedd bywyd yn fyrdwn.

Un o’r pethau mwyaf nodiadwy am y llyfr yma yw does dim o’r ffotos gan Dave Hardacre, wedi cael eu cyhoeddi o’r blaen, sydd yn gwneud newid neis o’r llyfrau sydd yn arddangos hen ffotos y wasg.

“Mae casgliad o ffotos Dave yn ardderchog! Mi ddarllenodd ddrafft o’r llyfr, gan ddweud ‘mae’n rhaid i mi gael input i’r llyfr ‘ma!’  Mae o’n nabod y band, maen nhw’n nabod yntai, maent yn parchu’u gilydd, a roedd o wedi tynnu llawer o lluniau o’r gigs sy’n cael eu sôn yn y llyfr.

“Roedd o’n hawdd i ddewis y ffotos ar gyfer y llyfr,” esboniodd Brian, “ond roedd o’n anoddach i adael allan y rhai na allai fynd i fewn. Trion ni fantoli’r ffotos i rhoi rhan deg o’r limelight i bawb, er yn amlwg mae’r mwyafrif o’r ffotos yn cynnwys Cerys.  Mae gan Dave ffotos sy’n mynd ‘nôl i’r dyddiau cynnar, so o’n ni’n gallu cynnwys eu gyrfa’n llwyr – does neb rili ‘di gwerthfawrogi llawer o’r hen ffotos.  Ond do’n ni’m eisiau defnyddio ffotos oedd yn debyg neu wedi’u gweld o’r blaen.  O’n ni’n trio dal momentau a oedd, i ni, yn unique yn eu hanes ac yng ngyrfa Dave.”

Wrth gwrs, mae ysgrifennu llyfr am Catatonia’n fater peryglus – mae’n nhw’n enwog am ffugio straeon a bwydo sothach i’r cyfryngau.  Sut sortiodd Brian y gwirionedd o’r celwyddau?

“Dwi’m yn siwr os mae o i gyd yn gywir,” mae Brian yn cyfadde.  “Mae’n gywir o safbwynt fi, mae’n gywir o’r gwybodaeth dwi ‘di cael o aelodau o’r band, ond dwi’m yn mynd i gyfadde y byddwn i mor ddiniwedd i gredu popeth mae Catatonia ‘di deud wrthaf.”

Ond yn siwr, dros y blynyddoedd mae’n mynd yn haws i wybod pan maen nhw’n deud celwyddau?

“Roedd o’n haws i gydnabod pethau do’n i’m yn credu, ond mae’n nhw’n fand o piss-takers, so gallai unrhywbeth fod yn wir.  Roedd ‘na straeon o’n i’n gwybod i fod yn wir, a rhai o’n i’n gwbod i fod yn anghywir, ond yr ardal llwyd oedd y problem mwya’.  Pan ti’n dilyn band mor agos, ti’n dod i wybod be’ mae pobol yn fedrus ohono, a be dydan nhw ddim.”

Ar ôl i ffrind o’r band awgrymu y dylsai Brian greu tick-chart i ddangos pa straeon oedd yn wir neu’n anghywir, arluniodd Brian rhestr a rhododd i’r band.

“Dwi ‘di cadw’r copi gwreiddiol,” mae’n gwenu, “efo’r llawysgrifennuarno yn dweud os roedd y straeon neilltuol yn wir neu beidio.  So os mae rhywun yn dod rownd a dweud ‘pwy ddywedodd fod y rhain yn wir?’, mae gennyf y rhestr!”

Y problem efo bywgraffiad o bobol byw yw penderfynnu lle i stopio.

“Byddai’r toriad ideal ‘di bod pan aethom nhw mewn hibernation am 18 mis, ond efo’r llyfr arall yn dod allan, a trio cael cyhoeddwr, y bwriad roedd gadael y pennod olaf ar agor tan y foment olaf.  Yn anffodus, o’n i’n gwybod y byddai’r albwm a’r sengl  yn dod allan yn fuan, ond o’n ni methu aros am y teitl.  O’n i’n 99% yn sicr y byddai Stone By Stone y sengl, ond do’n i’m yn gwybod teitl yr albwm, so roedd rhaid i ni mynd ymlaen ac argraffu hebddo fo.  Byddai’n neis i gynnwys hynna, ond wedyn byddech chi’n meddwl, “Wel, ie, byddai’n neis i wybod sut aeth y sengl,” ac wedyn yr albwm, a so ‘da chi byth yn gorffen.  Mewn ffordd mae’n ‘out of date’ pan mae’n dod allan achos does dim caneuon newydd arno fo, ond wedyn, mae bywgraffiadau am bobol byw yn wastad ‘out of date’.”

Gan fod mor agos i’r band, ac wedi gweld yr arwyddion yn y gorffenol, oedd Brian yn gwybod roedd y band ar fin chwalu?

“Oedden nhw wedi dweud wrthaf tro ar ôl tro y ni fydden yn chwalu,” meddai, “ond wedyn un noswaith daeth Paul ataf a dweud ‘’da ni wastad ‘di deud y byddet y cyntaf i wybod.’  Gwyddwn wedyn fod yr holl beth ‘di diweddu.  Treuliais awr yn siarad â Paul a’i bartner.  Gofynodd i mi beidio â deud unrhywbeth amdano a dywedodd wrthaf pryd byddai’r datganiad i’r wasg yn cael ei ryddhau.

“Fy nehongliad i – a dyma’r unig beth ydy o – yw eu bod nhw ‘di bod yn trio achub y band am tua 18 mis ond yn y diwedd roedd o’n amlwg ni fyddai’r band yn gallu parhau.  Dwi ‘di bod yn lwcus iawn wrth ystyried ‘mod i ‘di derbyn dau eitem o ohebiaeth o Cerys ers y split a dwi methu ffeindio unrhywun arall sydd wedi clywed unrhywbeth.  Dwi ‘di gweld Mark a Paul amryw o weithiau a ‘da ni ‘di cael sgwrsiau da, so does dim ‘di newid o fana.”

So, beth sydd yn y dyfodol i aelodau Catatonia?  Mae’n ymddangos mae’r hogia’n mynd i barhau mewn rhyw ffurf:

“Cafodd Paper Scissors Stone ei ysgrifennu 12 mis cyn recordio so mae ‘na gan yr hogia gasgliad o faterial heb eu ryddhau.  Mae nhw ‘di bod yn brysur efo ysgrifennu ac ymarfer ers y split ac mae’n nhw’n ymdrechu i barhau.  Maen nhw ‘di sôn wrthaf am eu syniadau ond does dim ohono fo wedi’i cadarnhau, ond dwi’n sicr y byddan nhw’n ôl yn fuan.

“Dwi ‘di cynnig unrhyw help a chymorth eu bod nhw eisiau a dwi ‘di neud yr un cynnig i Cerys.  Roedd o’n neis o Paul i ddweud wrthaf: ‘Y tro yma byddet ti gennym o’r dechrau.”

Gan feddwl yn ôl, roedd yr arwyddion yno i weld, ac mae Brian yn egluro rhai o’r problemau yn To Hell and Back, so rhaid fod o’n boenus i weld pethau’n troi allan fel hyn.

“Ar yr un llaw, mae’n farnol y gallwn i adnabod y problemau o flaen llaw, ac o’n i’n feirniadol am y band a rheolaeth rhyw unigolyn yn enwedig.  Yn safle Cerys naeth o bron a dinistrio hi – does neb ‘di gwneud unrhyw ffafrau iddi.

“Ond be’ sy’n trafferthu fi yw, ysgrifennais y llyfr o’r calon, a chafodd yr epilogue ei ysgrifennu’n gyntaf. Y bwriad oedd dweud stori a rhoi rhybudd am beryglau roedd Cerys a Catatonia’n gwynebu.  Ni ysgrifennwyd ar gyfer elw personnol. Ond achos roedd y llyfr arall, unauthorised, yn dioddef o oedi, cafodd rhyddhau fy llyfr i ei oedi hefyd.  Oddi yma, y peth o’n i’n bwriadu i fod yn rybudd i’r band, daeth yn y diwedd fel marwgoffa.”

Mae’n bechod fod Catatonia, un o oleuadau mwyaf disglair yng ngherddoriaeth Cymreig, wedi dod i ddiwedd felly.  Mae’n chwerthinllyd y doedd neb yn stopio i feddwl am foment am y pwysau ar Cerys a’r hogia, ac os gallai eu pwysau gwaithgario ymlaen.  Mae’n drist na doedd neb mewn safle i rili neud rhywbeth yn gwneud yr ymdrech i helpu.  Os roedd hynny’n esgeulustra bwriadol neu gwyriondeb, ella byddan ni byth yn gwybod, ond be’ sydd ar ôl yw back catalogue sy’n cynnwys caneuon anhygoel, yr olwg parhaol o Cerys a’r hogia yn rhoi popeth iddo, a llyfr sydd mor touching â sy’n onest.

Mae’n anodd i weld sut na allai Catatonia, na’u ffans, yn fethu licio To Hell and Back, efo’i realiti gritty, a’i gariad a pharch o’r band wedi’i ymuno gan onestrwydd plaen – tydi Brian ddim yn ofn i feirniadu penderfyniadau nad oedd yn credu oedd o ddiddordeb gorau i’r band.  Ond tydi o ddim yn farwgoffa, yn y diwedd; mae’n ddathliad o dalent, dyfalbarhad a goroesiad... gadewch i ni obeithio bydd y band yn dysgu o’r ffan, a gweld fod yno, bob tro, ffordd ymlaen i ddyfodol mwy llachar.