Gyda’i thrydydd albwm solo yn y broses gynhyrchu ac EP holl-Gymraeg ar fin cael ei ryddhau – heb sôn am ryddhad diweddar o ddeuawd swynol efo Aled Jones – mae Cerys Matthews ‘di bod yn brysur dros ben.
Adiwch i hynny ei bod hi ‘di symud i America, wedi priodi, wedi cael dau fabi, wedi ysgaru ac wedi symud ‘nôl i Gymru (mae Cerys yn deud wrthaf roedd hi’n hiraethog am “y môr, cerdded a chwmni”), a byddech yn disgwyl i’r foneddiges fod yn... wel, nacyrd, i fod yn onest. Ond os ‘da chi’n darllen ei chyfweliadau diweddar, gwilio hi ar y teledu neu gwrando arni ar y radio byddwch yn sylwi areulder ynddi sydd mor ysbrydolig â sy’n annysgwyl.
Mae newyddion o ysgariad Cerys a’i dychweliad i Sir Benfro ar fin dyfod yn gyhoeddus. Pan dwi’n anfon fy ebost i Cerys, does dim newyddion diweddar ar y wê i sefydlu fy nghwestiynnau arno (hyd yn oed nawr, amryw wythnosau’n ddiweddarach, mae pob erthygl ‘mod i ‘di ffeindio yn canolbwyntio, yn farnol, ar ei bywyd personol yn lle ei gyrfa), so y peth cyntaf dwi isho wybod yw: be’ wyt ti ‘di neud yn ddiweddar?
“Dwi ‘di bod yn gwerthu fyny yn Nashville,” meddai, “symud ‘nôl i Gymru, gofalu am fy mhlant, recordio albwm o’r enw Turn it on Slow a recordio fy rhyddhad cyntaf Cymraeg ei iaith, Awyren = Aeroplane ar label My Kung Fu, i gael ei ryddhau mis ‘ma, a chanu efo Aled Jones.”
Cydlafuriad syn, efallai, ond mae’n gweithio’n dda; mae’r dewis o gân – Some Kind of Wonderful – yn eitha saff, hyd yn oed easy listening, ond mae’r perfformiad yn brydferth ac mae llais Cerys yn felysach nag erioed.
Mae deuawdau cynt Cerys ‘di cynnwys The Ballad of Tom Jones efo Space a Baby it’s Cold Outside efo Tom Jones. Hefyd, ddoth hi â Gruff Rhys o Super Furry Animals i Nashville i weithio efo hi ar gwpwl o draciau ar ei hail albwm, Never Said Goodbye. Mae’r cydlafuriadau ‘ma ‘di gweithio’n dda iawn, ond pa un ohonynt mwynhaodd Cerys yn fwyaf?
“Mae bob coupling yn dod â chyfaredd a gwahaniaeth ei hun,” meddai. “Byddwn yn casau deud pa ohonynt oedd yn well gen i, byddai hynna’n aflednais.”
Efo pwy hoffai Cerys cydlafurio yn y dyfodol?
“Byddwn yn lyfio mynd yn y stiwdio efo Michael Jackson jyst i weld sut mae o’n gweithio,” meddai, “neu ar y llaw arall Kanye West neu Jay Z.”
Oes unrhywun yn hanes cerddoriaeth y byddai’n licio dod ‘nôl o’r bedd i rhannu deuawd?
“Donny Hathaway, yn canu A Song For You,” meddai Cerys. “Rhaid fod ganddo lais mwya blasus a byddwn i’n lyfio gwneud deunawd efo fo a rhoi hyg iddo.”
Jyst cyn symud yn ôl i Gymru, blogiodd Cerys yn gyson ar ei thudalen MySpace am ei thaith ar hyd y Mississippi, lle oedd hi’n ffilmio rhaglen teledu. Beth mae hynna amdano?
“Mae o ar gyfer S4C,” meddai. “Roedd o’n anhygoel, dwi’n wrth fy modd yn teithio a dysgu am lefydd a cherddoriaeth.” Y rhan gorau, mae hi’n deud, oedd canu efo band pres o New Orleans yng Ngwyl Greenville Blues, a bwyta coesau twrci wedi’u mygu.
Roedd symudiad Cerys i Tennessee yn cyd-ddigwyddiadol; mae hi’n deud wrthaf aeth hi yno i recordio ei halbwm solo cyntaf, Cockahoop, ac arhosodd. Doedd hwn ddim, meddai, yn benderfyniad ymwybodol ac er bod hi wedi’i dyfynnu fel deud roedd hi’n teimlo fel mewnlwythwr pan oedd hi’n byw yn Nashville, mae’n amlwg roedd rhai o’r arweddau o’r lle a’r diwylliant yn gwneud gwrthdrawiad positif ar Cerys. Er enghraifft, mae Cockahoop yn swnio fel ni allai fo wedi cael ei recordio unrhywle arall.
Mae’r ardal ‘na o America wedi cynhyrchu artistiaid anhygoel country a bluegrass dros y blynyddoedd, yn enwedig (i mi, eniwê) Gillian Welch, Emmylou Harris, Dolly Parton (yn enwedig Little Sparrow), Gram Parsons – mae’r rhestr yn mynd ymlaen. Dwi’n dychmygu y byddai’n hawdd i gael eich dylanwadu gan y dullau ‘ma o gerddoriaeth pan ‘da chi’n byw yn yr ardal o le mae’n nhw’n dod; ond doedd bron dddim arwydd o’r gwreiddiau ‘ma ar Never Said Goodbye. Oedd hyn yn fwriadol?
“Dwi byth yn gwybod sut mae albwm yn mynd i swnio,” mae Cerys yn esbonio. “Dwi’n gadael iddo fo ddatblygu. Mae’n synnu fi weithiau. Y tro ‘ma mae’r stwff newydd yn ddeniadol. Dwi’n lyfio fo.”
Mae hyn yn gywir, wrth gwrs. Mewn newid arall o ddull cerddorol, mae’r caneuon ar EP newydd Cerys, Awyren = Aeroplane, yn wir yn ddeniadol ac yn eithaf haunting, yn enwedig ar Y Corryn a’r Pry sydd, dwi’n deud wrthi, yn brydferth iawn ac yn hawdd yn un o fy hoff traciau gan unrhyw artist eleni. Beth oedd dylanwadau Cerys ar yr EP ‘ma, a pam ryddhau record jyst yn y Gymraeg?
“Dwi’m yn gwrando ar lot o gerddoriaeth, dim ond hen stwff ac R’n’B ar y radio,” mae hi’n ateb. “Dwi’m yn gwybod sut mae’n cael ei ddylanwadu. Dwi jyst yn clywed caneuon yn fy mhen. Y tro ‘ma maen nhw’n loungy ac yn gariadus. O’n i isho gwneud o cyn gadael America, jyst am y hwyl ohono.”
Does dim cwestiwn fod Cerys Matthews mor dalentog fel cantores – hyd yn oed yn fwy dalentog – nag oedd hi yn ystod ei blynyddoedd yn Catatonia, ond mae ei dewis i aros allan o’r spotlight am y chwe mlynedd diwethaf ac arweinio’i gyrfa o ganol nunlle yn gyrru fi i ofyn os mae hyn yn golygu fod ei uchelgeisiau yn wahanol ag oeddynt deng mlynedd ‘nôl.
“Dim gwahaniaeth,” mae hi’n mynnu. “Dwi dal yn obsessed efo sgrifennu tiwniau a chwarae cerddoriaeth, ond rŵan mae rhaid i mi factor in fy mhlant, ‘na’r cwbwl.”
Dwi’m yn meindio cyfadde, mae Cerys wastad ‘di bod yn arwres i mi, ac weithiau am y rhesymau wrong. Deng mlynedd ‘nôl nes i feddwl roedd hi’n ffantastig pan welais i hi’n meddwi ym mhartis aftershow ac yn lounges gwestai, yn gweiddi ar bobol yn pasio heibio. Ond hefyd, dwi ‘di cwrdd â hi pan oedd hi’n dawel ac yn felys; dywedodd wrthaf un diwrnod, mewn sibrwd bychan, dydi bod yn uchel ddim yn gwneud chi’n llai o ferch, gan bwysleisio yn yr un anadl na ddylsai merched ddim fod â chywilydd arnynt am fwynhau sgiliau’r wraig-tŷ, fel coginio a gwneud cwiltiau. Mae’r deuoliaeth ‘na o ballsiness a vulnerability – yr un peth a gyrrais i addoli Janis Joplin – yn ansawdd endearing iawn.
Ond dyddiau ‘ma, nodweddion Cerys a edmygaf fwyaf yw ei gostyngeiddrwydd, ei hydwythder a’i chryfder, beth bynnag mae bywyd yn taflu ati. Dyma ddynes sydd wedi dioddef poen, siom a phwys enfawr, ond mae hi ‘di dod trwodd yn gryfach nag erioed. Mae ebost Cerys yn ŵsio bodlonrwydd a thawelwch meddwl, hyd yn oed ystyr o sefydlogrwydd yng nghanol symud efo dau o blant bach o un ochr yr Atlantic i’r llall. Os mae ‘na unrhyw bwys neu straen yn ei bywyd, does dim arwydd ohonynt.
Ond mae rhaid i mi ofyn: ydi Cerys rili ‘di newid cymaint â hynny? Oes unrhyw ran o’r hen Cerys ar ôl? Deng mlynedd ‘nôl roedd hi’n deud wrth newyddiadurwyr ei bod hi’n mwynhau garddio a gwrando ar Radio 2. Ydi hynny dal yn wir?
“Dwi’n hwylio drwy fy nhridegau, yn lyfio fo,” meddai. “Dwi’n lyfio Radio 4 a gorsaf R’n’B Americanaidd 101.1 (byddaf yn hiraethu amdani). Dwi’m yn garddio’n aml, ddo, ond dwi’n lyfio cadw casgliad o herbs. Dwi’n licio cwrdd â phobol, dawnsio mewn dull Affricanaidd, mynd ar gefn ceffylau thoroughbred, canu ac ysgrifennu.”
Ac wedyn daw’r mynegiad trawiadol: “Dwi’m ‘di newid lot, dwi jyst efo un troed mwy ar y llawr nag o’n i.”
Bydd Awyren = Aeroplane yn cael ei ryddhau ar yr 22ail o Hydref ar y label My Kung Fu. |