Doedd maes parcio i faes chwarae plant ym Mhorthmadog ddim y lle mwyaf amlwg i gynal cyfweliad – a hithau’n bwrw glaw; a, tra roeddwn yn aros yno am Estella i gyrraedd, teimlais mwy fel gangster na newyddiadurwraig. Roedd fy nghar yn eistedd ar ben ei hun yn y dŵr ond wedyn cyrhaeddodd car Asa, gitarydd Estella; deg munud yn ddiweddarach cafodd ei ymuno gan van yn cynnwys brawd Asa, Kaz (gitarydd arall Estella) a’u chwaer, y cantores ffantastig Lauren Bentham. Ie, hi a enillwyd y teitl Best Female Vocalist In Wales yng Ngwobrau Roc A Phop Radio Cymru 2001.
Tra’n sychu dros beint mewn pyb clŷd ger harbwr Porthmadog, mi ddarganfyddais fod gan y triawd chwaer arall sydd yn canu; yn wir, mae hi ‘di canu efo Estella yn yr Eisteddfod y llynedd ond yn y diwedd roedd hi ‘di jibio, yn ôl Lauren. Pedwar aelod y teulu yn yr un band? ‘Da chi’n gwybod bydd rhaid i mi alw chi’r Welsh Partridge Family, on’ dydach?
Mae Kaz yn gwenu. “Ie, wel, yn y gorffennol ‘da ni ‘di cael ein galw The Osmonds...”
Cafodd y band eu magu efo Anweledig ym Mlaenau Ffestiniog – yn wir, brawd baswr Estella, Rob, yw Joe o Anweledig. “Naethom ni dyfu i fyny’n chwarae pêl droed a chwffio efo’n gilydd,” meddai Asa o berthynas y ddau band. Efallai y roedd hi’n anesgor y byddai’r Benthams yn mynd ymlaen i wneud cerddoriaeth eu hunain, er bod Lauren – 21 oed – yn mynnu roedd ei brodion wedi haslo hi am flynyddoedd i ganu.
Mae Kaz yn esbonio: “O’n i’n gwybod roedd gan Lauren lais da. O’n i’n aros iddi hi aeddfedu. Aros am ei bronnau i dyfu! Roedd hi fel polyn so o’n i’n aros am y polyn i ddechrau blaendarddu! Ond o’n i’n gwybod fod ei llais yn dda.”
Ym 1998, eu blywyddyn cyntaf efo’u gilydd fel band, chwaraeodd Estella covers yn fwyaf, yn acoustig, efo bongos. Dyddiau ‘na, roedd dim ond tri aelod yn y band – Lauren, Kaz a drymiwr mental Phil. Yn y diwedd ymunodd Rob ac Asa, ac ym mis Awst 1998 chwaraeodd Estella yn yr Eisteddfod o flaen cynulleidfa gan gynnwys tîm BCW.
Dyddiau ‘ma mae ffans y band yn cynnwys canwr opera Cymraeg a oedd yn mwynhau perfformiad Estella yng Ngwobrau Roc a Phop dros ben.
“Mae fy atgofion o’r gwobrau fel breuddwyd,” mae Lauren yn gwenu. “Rhyw ddynes – dwi’m yn gwybod pwy oedd hi – roedd hi’n eistedd efo Bryn Terfel a roedd o’n ein gwylio, a dywedodd y ddynes wrthom ni ‘liciodd Bryn chi dros ben, oedd o’n meddwl o’ch chi’n rili dda.’ O’n i’n meddwl, o Duw, o Duw! Pan dywedais i wrth fy nain aeth hi allan i fragu i’w ffrindiau! Roedd y peth yn wallgof.”
Gan ei bod wedi’i bendithio efo llais distinctive a ballsy, ydy Lauren wedi’i dylanwadu gan gantorion eraill Cymru, fel Cerys neu Andrea Parker?
“Dim gan Catatonia, na,” mae Lauren yn cyfaddef. “Ond dwi ‘di cael fy nylanwadu gan Andrea achos dwi’n ei nabod rwan, a dwi ‘di dylanwadu ganddi achos mae hi mor glefar. Hoffwn i gael ei hadnabyddiaeth.”
Ydach chi’n rhagweld eich hunain yn gwneud y pop star thing? Mynd i’r Met Bar a’r pethau eraill sydd yn fod i fynd efo megastardom?
“Dwi’m yn meddwl bod stardom yn dod bob tro efo’r fath ‘na o fywyd,” mae Asa yn myfyrio. “Does dim rhaid i ti... Dwi’n gwybod mae pobol yn disgwyl hyn ar ôl i chi llofnodi i label recordio, ond...”
Ocê, te: dychmygwch EMI yn cynnig dêl, dim ond tasech chi’n symud i Lundain. Allech chi wneud hynny?
“Gallwn,” meddai Lauren heb aros, “a dwi’n meddwl byddai’r ddau ‘ma hefyd. Yn bendant byddai Phil yn gwneud o – mewn ffaith, mae’n tebyg byddai fo yno cyn gweddill y band!”
Mae drymiwr Phil – sydd yn edrych fel Animal o’r Muppets – yn rhannu ei amser rhwng Estella a’i fand arall, Mim Twm Llai. Canwr Mim Twm Llai yw gitarydd Anweledig, Gai Toms, a ysgrifennodd can mwyaf enwog Estella, “Dwisho Byw Yn Y Saithdegau.”
“Doedd o ddim yn meddwl y byddai’r gân yn siwtio dull Anweledig, ond roedd hi’n siwtio ni,” meddai Lauren.
“Roedd o yn ein tŷ un noson, yn jamio, a dywedodd: ‘mae gen i gân, ond tydi i’m yn rili ni’ so chwaraeodd o hi a naethom ni feddwl roedd hi’n swnio’n dda,” mae Kaz yn esbonio. “Cafodd hi byth ei recordio, ond chwaraeodd o hi a chanodd o hi i ni.”
Mae’n gamble i ddeud fod y gân yn fwy ‘dull’ Estella, achos fel lot o fandiau eraill Gogledd Cymru, tydi Estella ddim yn aros efo un genre cerddorol. Maen nhw’n funky, yn aml yn jazzy, weithiau’n eitha poppy, ond mewn twist rhyfedd mae eu set yn cynnwys fersiwn ska anhygoel yr hen emyn Calon Lân… Sut mae’r band yn esbonio hynny?
“’Da ni’n cael ein dylanwadu gan lot o ddullau o gerddoriaeth,” meddai Kaz, “dim jyst bandiau unigol. Os ti isho taflu bandiau unigol, wedyn efallai Pink Floyd, Red Hot Chilli Peppers, pob math o jazz, Bob Marley…”
Galla i glywed y darnau jazzy a’r darnau reggae, dwi’n cytuno, ond mae’ na... wel, mae ‘na rhywbeth arall, on’ does? Rhywbeth eithaf indefinable sydd yn gwneud Estella sefyll allan.
Mae ateb Kaz yn amhendant. “Da ni’n gwrando ar amrywiaeth o gerddoriaeth. Mae ‘na rhywbeth da mewn pob darn o gerddoriaeth ti’n ei gwrando arno, rili...”
Pan dwi’n gofyn y cwestiwn am uchelgeisiau, mae ateb Asa yn cadarnhau be’ dwi ‘di amau ers y ddechrau: mae Estella yn non-egocentric ac yn non-arseholes, ac mae hi ‘di bod yn blesur mawr i gyfweld â nhw. “Hoffwn i allu gwneud bywoliaeth ohono fo rili,” meddai, “i allu byw’n gyfforddus. Os ti’n gallu byw’n gyfforddus ohono fo, a ti’n eithafenwog, wedyn that’ll do.”
Os oes unrhywbeth ar ôl i ddeud am y band gorjus ‘ma, mae’n debyg gall y band eu hunain ddweud o’n orau: “’Da ni’n bunch ifanc, vibrant, o gerddorion sydd yn fodlon i roi crack iddo fo,” mae Asa’n gwenu. “’Da ni’n breuddwydio o fod yn enwog am fod yn gerddorion cymwys. ‘Da ni isho edrych yn broffesiynnol. A ‘da ni’n mynd yn broffesiynnol...”
Mae Kaz yn chwerthin. “A ‘da ni’n good looking... wel, heblaw Phil!”
Mae Asa’n gwenu’n wybodus: “Ahh, ond dim ond un Phil sydd... thank God!” |