Cyfweliad ecsclwsif gyda Goldie Lookin Chain - rhan 1

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

erthyglau/cyfweliadau/Goldie Lookin Chain rhan 1

Un Ddydd Sadwrn oer yn Tachwedd nes i bigo lawr i Gaerdydd – wel, fi’n gweud ‘pigo lawr’, nath e gymryd pedwar tren, un bws a dros saith awr i gyrraedd yna – i gwrdd lan ‘da Goldie Lookin Chain.  Gyda’m cwestiynau a’m forwyn bach Loopy LooLoo, gwrddes i â Eggsy a Rhys am un o’r oriau fwya swreal o’m mywyd.

Ma’r cyfweliad yma yn dod gyda halen yn rhad ac am ddim:  Cymerwch un pinsiad fawr gyda pob gair sy’n cael ei weud gan aelod o’r GLC.

Cyfweliad gan Debs. Lluniau wedi’i gymryd yn ddi-gwilydd o dudalen MySpace GLC. Cyfieithu gan Angharad Griff.

Goldie Lookin Chain

Dim ‘Arlithwyr marchnata’ ydi’r geiriau cyntaf i ddod i’ch meddwl pan yn sôn am Goldie Lookin Chain, ond ystyriwch y tystiolaeth.  Mae’n ddigon o uchelgais bod tafodiaeth y GLC – geiriau fel ‘safe’. ‘clart’ a ‘spa’ – wedi dod yn rhan o iaith byw Saesneg.  Ychwanegwch y ffordd ma Goldie Lookin Chain wedi codi ‘chavdom’ o’r gwtrer a’i osod ar lefel newydd o cŵl ble ma hyd yn oed y  myfyrwyr mwya’ trendi eisiau efelychu nhw.  Wedyn ma gwefan y GLC; ma ganddyn nhw safle Flash ffansi, ond dydy e ddim yn siwtio nhw, felly yn lle ma nhw di sticio i fersiwn mor lo-tech mae’n edrych fel prosiect ysgol.  Neith y safle ddim ennill gwobrau am dylunio, ond yn nhermau cysondeb brand mae e lan yna gyda’r goreuon.

Cymerwch e wrtha i:  Brand GLC ydi un o lwyddianau marchanta mwya’ y diwydiant cerddorol o’r blynyddoedd diwethaf.

Yn enwog am ei dueddiadau i regi, siarad am gyffuriau a’i anrhagddyweddadwy cyffredinol, dim y Goldie Lookin Chain ydi’r dewis fwya safe – esgusodwch y ‘pyn’ – i gael slot rheoldaidd ar y gorsaf radio newydd XFM South Wales, ac yn sicr ddim am digwiddiad blynyddol byw fwya proffeil uchel y BBC.  Ond, gymaint yw poblogrwydd y GLC – a gymaint yw pŵer y brand – noson cyn ein cyfweliad gyda nhw, nath Rhys a Eggsy fynd ar Plant Mewn Angen i ddysgu’r tîm newyddion Cymraeg i rapio.

Felly, shwd ath e?

Rhys:  “Odd e’n iawn.  Cyfle unigryw i gyd-weithio gyda pobol fel Jamie Owen.  Ma fe’n awesome.  Wedyn ma gyda nhw’r merched bach ma sy’n cyflwyno hefyd.”

Loo:  “Lucy Cohen?”

“Ie.  Lucy Cohen Owen”  meddai Rhys.  “Ma hi ar bigau drain am bopeth.  Nes i bron cael lifft gatre gyda hi, ond wedyn nath hi sylwi…”

Egg:  “Nath hi ‘sacio’ fe off”

Rhys:  “Ma nhw’n bobol lyfli iawn.  Gethon ni amser neis gyda nhw.  Nethon ni feddwi a cael llun o Eggsy yn halio dalek.”

Loo:  “Gethoch chi’r plunger neu’r stick?”

Egg:  “Odd Rhys ar ochor y plunger a fi ar ochor y stick

“Nes i ddim twtch a’r plynger,” meddai Rhys.  “O ni’n meddwl byse hynna’n rhy agos i fod yn…”

Robot rape” ychwanegai Eggsy.

Loo: “Be fyse dalek yn jisio?”

Egg: “Castrol GTX innit.”

“Castrol GTX bobman, dros y gynulleidfa,” meddai Rhys.  “Odd hwna’n wych, o ni’n sefyll yna yn edrych di drysu ac yn grac, ac o ti fel hyn” – Rhys yn neud stymiau i Egg – “odd e’n dda.”

Egg: “A wedyn nethon ni orffen, a wedyn mynd gatre.”

“Yfon ni bŵz ar Pudsey Bear”, revealed Rhys.  “Wel, dim ar Pudsey Bear.  Ond, ti’n gwbod beth fi’n meddwl, bŵz Plant Mewn Angen a gethon ni dau gar mas o Plant Mewn Angen fyd.”

 “Ie, gethon ni tacsi gatre” meddai Egg.

“Ma fe’n afiach rili,” meddai Rhys.  “Ma’r holl beth yn afiach, prestige yw e.  Ma Terry Wogan yna yn gwisgo pabell a fe yw dyn mwyaf Prydain, siwr o fod yn feddw mas o’i ben, a mae’n cymryd y pils arbennig ma so mae’n gallu yfed a dod a’i hunan lawr eto.”

Loo:  “I chi’n mynd i fod yn cyfnewid gyda’r cyflwynwyr newyddion, darllen y newyddion yn y dyfodol?”

Rhys:  “O Duw, na!”

Fel mae’n digwydd ma na luniau ar sefle we y Goldie Lookin Chain o Rhys a Eggsy wedi’i wisgo lan fel cyflwynwyr newyddion, yn eistedd tu ol desg.

Rhys:  “Egg, o ti’n edrych yn wicked, o ti’n edrych yn rili dda.  O ti’n edrych fel cyflwynydd newyddion. O ni’n edrych fel trefnydd angladdau alcoholic.  Allai gael nhw i’r Eglwys ond sai’n gallu gweud pa stâd fydd arnyn nhw pan bu nhw’n cyrraedd.”

Egg:  “Cyn belled bod dim arch agored, mae’n angladd iawn.  Dychmyga cael arch agored pan ma’ch gwraig di marw, a ma’r trefnydd angladdau alcoholic, ma’r arch ar agor ar yr ochor pen ond ei choesau sy’n dod mas a jyst ei vadge a choesau sydd.  Byse hynna’n shocking, byse fe?”

Loo:  “Be?  Yn noeth?  Dydi hynna ddim yn neis!”

Egg:  “Ond dyna pa mor wael ma’r trefnydd angladdau alcoholic, ma fe jyst fel ‘wel, ma hi mewn…’”

Rhys:  “Pe bai Debbie McGee yn marw a ma Paul Daniels yn cael angladd iddi, chi’n meddwl neith e trio llifo hi mewn haner?  A wedyn rhoi hi nol at ei gilydd?”

Egg:  “A wedyn mynd: ‘O-ho’…”

Rhys:  “Ma nhw wastad yn cyflwyno’r arch – achos byse gyda nhw person yn yr arch yn symud ei goesau – ond byth yn agor hi lan er mwyn cael gweld y gwaed a stwff yn tolldu mas.  A dyna’r rhan o chi wastad moyn gweld.”

Egg:  “Tad-cu fi nath.”

Rhys: “Os nathon nhw hynna...beth nath e?!”

Egg: “Odd Tad-cu fi arfer neud e.  Odd e yn y Magic Circle ac odd e’n llifo pobol mewn haner, sy eitha cŵl.  Ond, nath e farw cyn i fi gwrdd a fe.”

Rhys: “Nath e farw cyn torri ti mewn haner!”

Egg: “Nath e fynd i arch, ond odd neb i dorri fe mewn haner.”

Rhys: “Odd hynna’n yr Aifft oedd?”

Egg:  “Na, yn y wlad yma.  Pan nath e farw, cafodd nifer o’i driciau hud a lledrith ei rhannu rhwng y teulu ond gath tad fi ddim un o nhw.”

Rhys:  “Do.  Gath e’r llif.”

Egg: “Ie, Ond, dydi hyna ddim fawr o hud a lledrith na”

Rhys: “Dydi llif ar ben ei hun ddim yn neud tric.”  Mae’n pwyntio at fy llyfr nodiadau.  “So, be sy di sgwennu fanna?”

Egg: “Ie, gawn ni cael cwestiynau.”

Goldie Lookin Chain

Fi’n gweud wrthyn nhw mai beth sydd yn fy llyfr nodiadau ydi cwestiynau a nodiadau fi di neud ar gwefan y GLC; o ni arno fe nithwr am y tro cyntaf ers ache a di ffeindio bod lot o stwff newydd ers fi ymweld y tro diwethaf.

Egg:  “Ti di gweld y straeon eto?  Straeon Mysty?  Ma’r straeon yn ‘wicked’ achos nath Mysty sgwennu nhw pan odd e’n 10 neu 11.  Ffeindion ni’r llyfr ysgol a jyst recordio beth odd e di sgwennu.”

Hyd yn oed y stori rhybyddiol am gyffuriau?  Sgwennodd e hwna pan odd e’n blentyn? 

“Sgwennodd e hwnna pan odd e’n blentyn,” cadarnha Egg.  “Odd e’n nyts.  Gath e hyd i’r llyfr ac o ni gyd yn edrych arno fe ac odd e’n hilariws – be sy mor ddoniol yw bod e di sgwennu nhw pan odd e’n blentyn a ma’r cyfeirnodau i gyffuriau ynddo fe yn ffycin hilariws.  Pan chi’n sylwi mai plentyn sy di sgwennu fe, ma’r ffycin grêt.”

Fi’n gweud wrthyn nhw mai un o hoff bethau fi o’r safle yw Gordon Rasesses’ Wrecked Recipes.  O ni heb sylwi ar hwn o’r blaen – pa mor hir ma hwn di bod yna?

“Ma fe, Ramesses, di bod arno fe am sbel fach,”  meddai Egg.  “Bob hyn a hyn ma’r pethau bach yma’n ‘popo’ lan ar y gwefan.”

Rhys:  “O ni’n byw yn Brixton am bach ac o ni’n dysgu sut i fod yn dechnegydd sain.  Odd dim gyda fi lot o arian ar y pryd so beth chi’n neud yw trio cael tamed bach o fwydydd pobol eraill…odd saith o bobol yn byw yn y ty ma, a chi’n trio cael tamed bach o bwyd nhw a trio neud pryd.”

Egg:  “cyfuno cachu o’r cypyrddau yn y bôn.”

Rhys:  “Ie.  Felly, beth bynnag sy gyda chi ar ol yn y cwpwrdd chi’n trio neud pryd mas o fe a dyna sut nath Gordon Ramasses ddigwydd.”

Egg:  “Gordon Ramasses, ma’n dod o’r Aifft, haha…”

Rhys:  “Os oes gyda chi cypyrddau gwag, mae’n bosib neud pryd o fwyd.”

Beth ddigwyddodd i’r safle hi-tech?

Rhys:  “Odd cyfrufiaduron rhan fwyaf o bobol ffaelu handlo fe.  Odd e’n rhedeg ar, beth odd e, 500 gigabongles?”

Egg:  “68 gigabyte pob mili-eiliad, sy’n lot yn nhermau cyfrifiadur.  Chi angen llinell ISDN a sdim lot o bobol yn gallu cael y llinellau ISDN mewn so…”

Wyt ti’n ail-adrodd hynna fel parrot Egg, neu ti’n gwbod hyn am ffaith?

Egg:  “Fi’n gweithio yn IT pan fid dim yn neud y band, so fi’n gwbod lot am gyfrifiaduron.  Er enghraifft” – mae’n pwyntio at ffôn Rhys, sy’n canu – “ma hynna’n alwad ffôn incoming.  Fi’n gwbod lot am cyfrifiaduron.”

Dydw i ddim yn siwr os i gredu nhw.  Beth yn gwmws ma Egg yn neud yn IT?

Egg: “Installation, software programmer, hardware technician fi’n neud e gyd.”

Ti’n gweithio yn PC World?

Egg:  “Na, ma gen i fusnes fy hun o’r enw Computer…Inc…IT…Solutions.  Ma cwmniau yn dod ata i….nath yr argraffwyr Hodder and Stoughton dod ata i achos ma nhw’n cael problemau yn gosod servers, so ma nhw’n dod i fi a fi’n neud e – jyst rhweth fi’n neud ar yr ochor.”

Rwyf yn cael trafferth cuddio y chwerthin bach fi’n neud – sai’n siwr os i gredu nhw neu beidio.

Egg:  “Mae’n wir!  Mae gen i fan.  Odd rhaid i fi gael e di gwasanaethu.  Nath ryw blant ffeindio mas fy mod yn y GLC a naethon nhw rhoi graffiti ‘GLC’ gyd drosto fe.  Nethon nhw sprayo ‘GLC Fuck Truk’ gyd dros yr ochor.”

Rhys:  “Achos odd gyda ti personalised number plate.”

Egg:  “Gwir, ‘EGGS1’ – hynna nath rhoi e i ffwrdd mwy na thebyg.  Ond, dim ond pasiwn yw e.”

Rhys:  “Dechreuodd e bant fel hobi a nawr mae di troi’n pasiwn.”

Egg:  “Ie, n any.  Mae’n ‘lust for life’ gyda cyfrifiaduron.”

Ma Rhys yn pwyntio at ei ffôn newydd ffansi.  “Ma hwna fel cyfrifiadur.”

Egg:  “Ie, hwna yw un o’r cyfrifiaduron cyntaf.  Yr abacus yw’r cyfrifiadur cyntaf.”

Ma Rhys yn anghytuno:  “Yr amenydd yw’r cyfrifiadur cyntaf, wedyn yr abacus.”

Ma Rhys yn troi at fi a Loo:  “chi’n gwbod rhwbeth am technoleg nano a quantum theory?”

Ooo ie, llwyth…

Mae’n llenwi ni mewn:  “Ma nhw’n credu ofewn 10 mlynedd bu nhw’n gallu neud cyfrifiadur quantum bydd yn neud fwy o calculations mewn eiliad na sydd o gyfrifonyn y bydysawd.”

Egg:  “Pryd yn gwmws dyle ni rhoi ‘run faint o hawliau i artificial intelligence a person?”

Rhys:  “Fi di gweld I, Robot.”

Egg:  “Pryd ma’r robot yn droi’n bersenoliaeth? Os mae’n gallu teimlo poen, ers bosib, mae’n gallu teimlo emosiwm.”

Rhys:  “Meddylia am e fel hyn:  cer gatre, gwylia Millennium Man gyda Robin Williams a gwna nodiadau.”

Egg:  “Falle bydd pobol yn neud sbort ar ben e nawr, ond mewn 10, 15 mlynedd…”

“Ond nath Millenium Man mynd yn hen,”  ma Loo yn pwyntio mas.

Egg:  “Yn union!”

Rhys:  “Does dim ots”

Loo:  “Nath e jyst torri lawr y darnau?”

Egg:  “sai’n gwbod achos sai di actiwali gweld e.”

“Sai di gwylio fe chwaith,”  meddai Rhys, “ond fyswn yn cynghori i chi’ch dwy fynd i weld e a neud nodiadau, wedyn llosgi nhw a byth siarad gyda neb amdano fe byth eto.”

Ma Rhys yn pwyntio ar modrwy siap anghyffredin fi’n gwisgo.  “Beth yw hwnna – ashtray symudol?”

Rest i sigaret, fi’n gweud wrtho fe.  Fi’n gallu cerdded rownd fel hyn – fi’n neud ryw ddawns Eifftaidd.

Loo:  “Chi’n gallu cerdded fel Eifftiwr neu tebot.”

Rhys:  “Eifftaidd – ti’n gwbod gyda amdan hynna, Egg.”

Egg:  “Fi’n dod o’r Aifft hefyd.”

Dwi ddim yn convinced.  Odi fe go iawn?

Rhys:  “dyna pam ma fe mewn i cathode.”

Egg:  “A Gordon Ramasses, dyna un arall….ond, sdim lot o bobol yn cael y cysylltiad.  Enw fe yw Gordon Ramasses achos o’m waed Eifftaidd.  Night Over Egypt gan The Jones Girls yw un o’m hoff ganeuon.”

Rhys:  “Ma lot o bobol di sgwennu caneuon am yr Aifft a pethau Eifftaidd.  Nath Madness cân o’r enw Night Boat to Cairo, nath The Jones Girls peth Eifftaidd, odd cân ‘rave’. The Bangles…ma cerddoriaeth o’r Aifft yn enfawr.  Mesopotamiagan y B52’s.  Llwyth o cerddoriaeth Eifftaidd.”

Ma’r bechgyn yn ymddangos braidd yn obsesd da’r peth eifftaidd ma.  Ife dyna beth sy’n mynd i fod y cam nes i chi – cerddoriaeth Eifftaidd?

Rhys:  “Oh, Duw na.  Byse hyna’n wirion.”

Egg:  “Byse hyna’n ridic.  Ti’n cymryd y piss nawr?”

Rhys:  “Rap Eifftaidd?  Be nesa?”

Pam ddim?  Ma gyda chi’n rap cyflwynydd newyddion….

Egg:  “Cwestiwn arall?”

Loo:  “Ethoch chi i unryw un o’r gigs Sŵn dros y penwythnos?”

Rhys:  “Do, nes i fynd i Callaghans.  Nes i fynd yna ac odd hi mor wâg nes i adael.  Wedyn odd un arall yn Café Europa ac odd hwna’n rili brysur ac o ni ffaelu mynd mewn, so nes i’m trafferthu’n diwedd.  Nes i fynd gatre achos o ni’n meddwl ‘ma hyn yn warthus’.  Nath Adam [o’r band] neud sioe.  Wedodd e erbyn y diwedd nath e gael y gynulleidfa i fynd amdani.

Egg:  “Wedodd e wedyn bod e’n cerdded rownd fel bod e’n rili bwysig.  ‘Ie, fi newydd neud sioe, man’, o ni’n meddwl bod hyn eitha doniol.  Chi’n gwbod beth ma fe fel.  Fucking hilariws.”

Rhys:  “Mae’n gallu bod, bechod.  Ond weithiau…mae’n drysu weithiau.  Newn ni jyst weud bod stafell blaen e’n mynd bach yn llawn llwch weithiau, ac yn y bore ma rhaid i nhw glanhau e lan.  Mae’n mynd i bartis a mae’n mynd yn lwch i gyd.”

Egg:  “Llwch i gyd.”

Alla i ddychmygu bod e’n eitha lot o lanast pan chi gyd yn yr un lle.

Rhys:  “fi ffaelu cofio y tro diwethaf i nig yd fod yn yr un lle.  Ti di clywed am Skype?  Ni’n mwy neu lai neud Skype a lincs ffôn nawr; ni’n cael ‘conference call’ unwaith y mis.”

Ma hynna’n hi-tech iawn…

Rhys:  “Os oes rhywun ffaelu troi lan ma nhw’n ffilmio’u hunen ar ffônau symudol nhw a ebostio fe mewn neu anfon neges MMS, so ma gyda chi lluniau a sain o nhw.  Mae’n anodd nawr achos ma Billy gyda fferm ffrywthau lawr yn…Surrey?”

Egg:  “Ma gyda fe fferm ffrwythau yn Surrey ond mae’n neud celf installation.  Y peth diwethaf iddo fe neud odd llogi adeilad yn Dwyrain Llundain, cael llwyth o peiriannau mwg, agor ffenest a jyst cael mŵg yn dod mas o ffenest ar Brick Lane.”

Rhys: “Odd e mewn adeilad o’r enw The Egg.  So, rhwng hwna a’i fferm ffrwythau…dyw e byth yn gadael ei fferm ffrwythau i fod yn onest.”

Egg:  “Ond ma fe mewn i gyd o’r celf ma – fi ffeindio na bach yn od.”

Rhys:  “Ma Billy’n gweithio ar rhwbeth da teiars nawr.  Mae’n nabod lot o bobol da ffermydd,  a mae gan fermwyr lot o teiars am ryw rheswm.  Sdim symiad gyda fi ble ma nhw’n cael nhw o.”

Egg:  “Mae’n cael llwyth o teiars, a rhoi nhw ar ben ei gilydd i fod ‘run siap a tanfor, a mae’n cael Yellow Submarine gan The Beatles…mae’n mynd i chware f ear stereo a replaco’r gair yellow gyda’r gair ‘black’, so mae’n mynd:  ‘We all live in a BLACK submarine.’  Fi jyst ddim yn deall y celf yma.”

A bydd pobol yn talu i weld hyn bun hw?

Rhys:  “Wel, dim eto.  Ond, dyna beth ma fe’n meddwl.”

Felly, mae’n mynd i ennill y gwobr Turner yw e?

Egg:  “Ie.  Ma fe gyd bach yn od.”

Rhys:  “Nath Billy trio rhedeg gwely a brecwast hefyd, ond nath hynna fynd tits up so nawr mae’n byw yn y tŷ enfawr yma ar ben ei hun.  Ffŵl gwirion.  Ma fe bron fel entrepreneur o fe gyd.  Ma gyda fe ddau ochor – yr ochor busnes a’r ochor creadogol.  Dim ond ochor wallgo sy gan Mysty.  Chi’n gwbod Barry Bulsara?  Nath e ladd Jill Dando?  Yn ol bob sôn , os ewch chi i tŷ fe, ma gyd o’r stwff ma yna…stwff bobman.  Tŷ Mysty.  Pe bai Jill Dando di cael ei lladd yn High Cross yng Nghasnewydd, byse fe di cael ei arestio, ond gath hi ddim, so…”  

Egg:  “Hyna nath glirio fe.”

Rhys:  “Os oes gyda chi lluniau o’ch hunan gyda gynau ar eich MySpace, beth chi’n meddwl sy’n mynd i ddigwydd?”

Egg:  “Fi’n nabod llwyth o bobol sy ‘da lluniau o nhw gyda gynau ar MySpace nhw a ma hyna jyst yn wirion.”

Rhys:  “Os oes gyda chi llun o chi’n torri gwddwg gwyryf ifanc ar eich MySpace…”

Sut fedrwch ch weud o’r llun mai gwyryf oedd hi?

Egg:  “Odd hymen hi’n dangos.”

Chi’n gwbod beth ma un yn edrych fel?  Sai’n credo fi erioed wedi gweld un.  Sai’n cofio un fi.

Rhys:  “Fi ‘di gweld manual.”

Egg:  “Ma ffrind i fi gyda lluniau o’i hunan gyda gynau ar y rhyngrwyd, a ma ffilm fer mae e di neud – ma pigeon marw yn hongian o hoelen a mae’n mynd lan iddo fe gyda air gun di pweru gan nwy a mae’n saethu fe tua deg gwaith a gweiddi “fuck yeah!” – nawr ma hynna’n gofyn am drwbwl.”

Dyma diwedd rhan un o’n cyfweliad egsglwsif gyda goldie Lookin chain. Yn rhan dau bydd y bois yn trafod y Shitbag 2000, coc Mysty – sydd wedi torri a faint ma Essgy yn hoff o wisg ffansi.  Os chi moyn gwbod pryd fydd rhan 2 di cael ei gyhoeddu ychwanegwch ni ar MySpace i cael bwletins neu ymunwch â Grwp Yahoo Newyddion WBW.  Ac os oes gyda chi ddim mynedd i neud ny, jyst cadwch checio fan hyn, innit?

Goldie Lookin Chain