Ma Egg yn cwyno am pa môr dwym yw e a mae’n sefyll i dynnu ffwrdd 17 siaced a 25 siwmper. Rwy’n gweud wrtho fe sai’n synnu bod e’n dwym gyda’r holl ddillad yna mlaen…
“Sai’n hoffi tywydd oer – fi’n teimlo’r oerni yn wael iawn.”
Loo: “Odi hynna achos bod ti’n Eifftaidd?”
Egg: “Odi. Ond fi yn, a wedyn y peth sy’n ffwcio fi off yw yn y gaeaf pan ti’n mynd tu fewn, so ti ffaelu ennill.”
Loo: “Odi fe achos I is mummified?”
Egg: “Wel. Galle fe fod, ti’n gwbod. Dylse fi fod yn mummified. Oes gyda ti cwestuiwn arall?”
Fel mae’n digwydd, oes. Fi moyn gwbod mwy am y sibrydion fi di clywed am stwff newydd gan y GLC sy fod ar y ffordd. Be sy’n mynd mlaen?
Egg: “Oes, ma na recordiau. Gyda ni llwyth, fel jiz yn driblo o bell end.”
Rhys: “Yn syml ma na lle yn Heol SENSOR yng Nghaerdydd, lle chi’n gallu cael BLEEP CDRs am SENSOR o bunoedd.”
Egg: “Mae’n deal dda.”
Rhys: “Mae e wir yn deal dda.”
Egg: “Os neith ormod o bobol ffeindio mas am hyn bu nhw gyd yn…”
Rhys: “I fod yn onest, mae’n LALA.95 o bunoedd sy hyd yn oed yn well.”
Egg: “Sy’n 5 ceiniog odan LALA o bunoedd, sy hyd yn oed yn well.”
Rhys: “So, weithion ni mas, os ni’n prynnu rhain ma pob CD yn mynd i gostio...”
Egg: “BLEEP ceiniog”
Rhys: “Mae e ychydig dros hynna. BLEEP-pwynt-dau-ddeg-pump-ceiniog. Y peth yw, ma rhaid prynnu’r cloriau ma nhw’n cael ei gadw ynddo. Felly, allwn ni siwr o fod cael nhw di neud am WHEEEE o geiniogau. Os ni’n eistedd yna, ti a fi, allwn ni sgwennu’r labeli a cael ei di neud mewn pythefnos.”
Egg: “Fydd hi’n cael ei rhyddhau’n gyfenedig. Allwn ni ddim neud e tan gynnar blwyddyn nesa rili.”
Rhys: “Ma Eggsy’n mynd i basio’i prawf yrru a ni’n mynd i fynd rownd y wlad yn mynd i pob un siop record annibynnol a orsaf petrol.”
Faint o hyn dwi methu printio? Jyst y pris?
Egg: “Jyst y pris a ble ni’n cael y CDs o.”
Rhys: “Ti’n gallu rhoi bod ni’n gwbod am lle yng Nghaerdydd i gael nhw o, ond paid rhoi’r cyfeiriad na’r pris. Achos ma hynna fel gweud, er enghraifft, ti’n mynd i dafarn a nhw’n gweud ‘ni’n prynnu ein cwrw am y pris yma, a gwerthi fe i chi am gymaint a hyn’ a wedyn chi’n teimlo bo nhw’n ripio chi off a ddim eisiau prynnu fe.”
Egg: “Ma gyda ni rhai caneuon sy’n lot o hwyl, a’r rhai yma fydd yn mynd ar y CDs.”
Rhys: “Os ni ffaelu cael…achos weithiau chi’n mynd i’r llefyd yma…Ethon ni’r gwasanaethau traffordd ar y ffordd i Lundain a wedon ni o ni eisiau gwerthu stwff yna, ond o nhw ddim yn fodlon, so newn ni jyst sticio nhw i papurau newydd.”
Egg: “Ma Bibs, sy’n edrych ar ôl y forum, mae e di clywed rhai o’r caneuon hwylus a dyw e ddim yn mynd i rhoi dim byd i ffwrdd, ond ma fe wedi gwradno, so mae’n weeth cadw llygaid ar y gwefan.”
Ma’r cyfweliad yn oedi am funed tra fi’n chwerthin yn afreolus wrth feddwl am y bois yn mynd rownd gwasanaethau traffyrdd yn sticio CDs i bapurau newydd.
Egg: “Dyna beth nath Prince!”
Rhys: “Os chi’n mynd yna’n gynnar yn y bore… wel, ma gyda chi dau ddewis, nai llai gynnar yn y bore neu pan mae’n brysur.”
Ar ba papurau newydd i chi am sticio’r CDs?
Rhys: “Daily Mail… gyd o nhw a gweud y gwir.”
Ai darllenwyr y Daily Mail yw eich gynulleidfa delfrydol? Gynulleidfa targed.
Rhys: “Unrywbeth heblaw y Financial Times.”
Egg: “Daily Mail, daily Record, South Wales Argus…”
Rhys: “Gobeithio bydd rhwbeth ar gael yn Chwefror ac ar ol Ebrill, ond yn amlwg, ma rhaid i ni wahannu yn Ebrill am rhesymau trethi, a wedyn dod nol at ein gilydd ar y 6ed o Ebrill. Dyna’r ffordd nawr. Ti’n gwbod pan ti’n cael tax rebate os chi’n gorffen Cwmni? So, ni’n torri lan fel y GLC a dod nol fel y CGL a wedyn blwyddyn nesa ewn ni nol i’r GLC. Ond, dim ond ar bapur – byddwn ni dal yn cael ein adnabod fel y GLC. A bydd albwm arall ar ol hynny fyd.”
Ma Egg yn rhannu gyda ni bod e wedi cael stumog gwael ers cwpwl o ddyddiau. “Ma cachu fi bach fel slwtch, ond sai’n dost na dim.”
Dydi diarrhoea ddim mor wael a hynny, fi’n awgrymu; fi wastad yn ddeindio rhiw lan y pen-ol yn well ar ol cael y runs. Mae bach yn lanach.
Egg: “Sai’n gwbod, fi byth di cael rhyw lan y tîn.”
Ti’m yn gwbod be ti’n golli.
Egg: “Falle wnai drio heno... gyda Adam.”
Rhys: “Gwna Adam yn ‘wlyb gyda bach o diarrhea…”
Egg: “Ych, dychmyga fe. Mei God.”
Rhys: “Cacha ar gwyneb Adam gyda dy diarrhoea a wedyn cael rhyw lan y tîn gyda fe.”
Egg: “Fel mae’n tagu ar Castrol GTX. Afiach. Eniwe, gyda ti cwestiwn da arall i ni nawr?”
Rhys: “Un sy ddim yn ymwneud gyda rhyw lan y pen-ôl?”
Dim gymaint cwestiwn, ond chi’n gwbod y dyfais sydd gyda Rhys, y Shitbag 2000? Ma nhw’n gwerthu rhwbeth tebyg yn Tesco. Wir.
Rhys: “Ma nhw’n rhoi rhwbeth i ffwrdd sy’n debyg iawn ti’n meddwl.”
Na, ma nhw’n gwerthu fe. Ma Tesco enfawr yn Bangor. Fi heb gweld nhw’n ddiweddar, ond ychydig fisoedd yn ôl odd gyda nhw bagiau plastic arbennig i chi gachu ynddo pan chi ar yr hewl.
Rhys: “Yn gyntaf, y rheswm ti heb gweld nhw ar y silffoedd yn ddiweddar yw achos ma nhw di cael ei tynnu bant gan bod gyda ni patent yn lle, so odd rhaid in hw gyd dod lawr. Yn ail, ma nhw yn rhoi rhwbeth bant sy’n debyg, achos be i ni’n neud yw, ma’r bag plastig Tesco gyda tyllau bach ar y gwaelod i stopio chi anadlu [ni’n credo mai suffocating mae’n meddwl]. Sylweddolon ni hyn ar ôl trio mynd ar Dragon’s Den. Na gyd yw e yw, yr holl i ni’n cynnig yw, y syniad o bet hi nued yn hytrach na actiwali…felly, ni ffaelu gwerthu chi’r syniad o cachu mewn bag plastig, ond allwch chi gael bag plastig o unrhywle chi moyn a cachu ynddo fe. Ma fe gyd amdano sut i chi’n defnyddio fe. Yr ateb yw i ddala fe fel hyn” – mae’n dangos – “ond yr ail ateb yw i gael bag llai di selotapio i’r blaen achos chi ffaelu dala’r hylif a cachu’r run pryd, yn arbennig os chi rili angen mynd.”
Ti’n rhoi coesau ti trwy’n handles?
Rhys: “Na, jyst dala fe fel hyn, mae’n gweithio’n gret. Pan chi’n clywed y pwysau a mae’n llenwi lan, newch cwlwm ynddo fe a taflu fe o dop maes parcio. Neu taflu fe at wal. Neu well byth, os chi’n gyrru lawr traffordd, mae’n mynd ar lori neu rhwbeth.”
Yn mynd nol i’r gwefan, mae’n gweud ar tudalen Rhys bod ti’n casau David Bowie. Pam hyn?
Rhys: “Ma David Bowie’n uffernol. Fe a Sting, galle nhw cusanu fy mhen-ol a ffwcio o ma mor belled a fi’n y cwestiwn. Fi’n gallu dychmygu nhw’n cael ffeit gyda Jimmy Nail a Jimmy’n mynd” – mae’n neud acen Geordie trawiadol – “why aye, come ‘ere like, I’ll fuckin’ ‘ave yer, yer bastards.’ A wedyn ma Jimmy Nail yn chwalu fe. Achos ma Sting yn meddwl bod e’n American” – mae’n canu – “I’m an Englishman in New Yo-ork…’ – fuck off, pric... ffwcia bant i Efrog Newydd de, pric!”
Ydi hynna’n ffansasti i ti? Nhw’n cael ei chwalu gan Jimmy Nail?
Ma Rhys yn twymo i’r thema ac yn mynd yn eitha bywiog. “Bydde ni’n cael Quentin Tarrantino i neud ffilm, bydde fel western a lot o chwibanu, fel hyn” – mae’n chwibanu mewn steil cân western – “a bydde chi’n gweld lot o bobol o fan hyn lawr” – mae’n dangos – “ac yn y pellder bydd dau berson; un o nhw gyda pethau mawr amdano fe, fel gwallt mawr a clogyn, a bydd y llall yn mynd ‘why aye I don’t believe it, I don’t even sound like I’m from Newcastle anymore’ a wedyn bydd Jimmy Nail yn troi lan, mwy na thebyg mewn siaced lleder, w wedyn bydd stand-off, a bydd Jimmy Nail yn mynd…ti’n gwbod, dim lot o deialog, jyst yn edrych a wedyn ar y diwedd bu nhw’n saethu’i gilydd a marw a Jimmy Nail bydd siwr o fod yn ennill, a bu nhw’n ymladd dros darn o aur, bocs o aur, a fel mae’n neud hynna a nhw’n marw, bydd pwff o mŵg yn mynd i’r awyr a neith e fynd i pigo lan yr aur, a jyst fel mae’n neud hyn” – mae’n dangos i ni – “bu chi’n gweld o fan hyn a gweld dau person arall yn y pellder a bydd gyda nhw gynau” – mae’n chwibanu eto – “a bydd e’n dechrau eto. Galle fe fynd mlaen am byth. A bob tro mae’n chwalu person arall, bydd e fel” – mae’n chwibanu eto. “Ma hyn yn freuddwyd dyss gyda fi.”
Loo: “Byse fe’n neis tase Mick Hucknall yn cael ei ddal yn y crossfire.”
Rhys: “Haner ffordd er enghraifft, ma hucknall yn troi lan mewn fan hufen ia a mynd ‘why aye, I’m not even from Newcastle but I’m stuck on the accent now, I’ve got some ice creams for you’ a wedyn bu nhw jyst yn saethu fe. A wedyn bu nhw jyst yn cael corff e mas… na…”
Loo: “Ma nhw’n tynnu mas dant rhuddem e gyda penknife.”
Sai’n gwbod pam dyw e ddim yn neud ffilmiau, fi’n gweud wrth Rhys. Mae’n gwastraffu talent. Ti’n amlwg di meddwl lot amdano fe.
Nôl i’r GLC, pwy sy’n rhoi eich cerddoriaeth da’i gilydd? Mae’n amlwg chi gyd yn rapio, ond pwy sy’n neud y bits cerddorol?
Rhys: “Odd gyda ni boi o Briste nethon ni gyflogu am bach, beth odd enw fe? Andre? Odd e’n 56 mlwydd oed, odd e’n wych, ma gyda fe ty bach, chi’n mynd mewn yna, ma gyd o’r plant ma’n rhedeg rownd…”
Egg: “Lle bach iawn, ma gyd o’r wyrau yna – hyfryd ife?”
Rhys: “Mae’n wych achos mae’n dechre off yn chwarae fe gyd ar piano, a wedyn mae’n dod nol ato ti – achos mae’n mynd off a trefnu e gyd a ti’n meddwl i dy hun ‘dyw hwna byth yn mynd i swnio’n dda’ – a mae’n dod nol cwpwl o wythnosau wedyn gyda tâp mae di neud yn y stiwdio a mae’n swnio’n wych.”
Egg: “Ma gyda fe storis rhyfeddol fyd. Enw ei wraig e, sy di marw nawr, oedd Delia Derbyshire a hi sgwennodd y cerddoriaeth i Dr Who. Odd hi arfer gweithio i’r BBC Radiophonic Workshop. Dyn rhyfeddol, mae’n gweud yr holl straeon yma amdano hi, ond ma hi di marw.”
Rhys: “O ni’n neud gwrych a mi oedd damwain bisar gyda chainsaw. Odd hi’n torri’r ochor arall, odd e’n torri ‘r ochor arall ac o nhw ddim yn gwbod.”
Egg: “Mae’n ofnadwy pan mae’n dechre llefen, mae’n colli hi’n arw, ond beth allai weud? Fi erioed di colli rhywun fel yna, so sai’n gallu…”
Rhys: “Y math o gwrych oedd e, sdim lot o nhw ar ol , so odd e moyn trio cael y breed yna o hedge di cael ei enwi ar ol hi – Derbyshire. Nath e byth ddigwydd.”
Eggs, mae’n gweud ar dy broffeil di bod ti’n hoffi gwisgo lan fel detectif teledu yn dy amser sbar. Oes gyda ti ffefrynau?
Egg: “Neith unrhywun.”
Hetty Wainthrop? Angela Lansbury?
Egg: “Fi ffaelu rili cael y dillad i hynny. John Nettles fel Bergerac, ma hwna’n un da.”
Rhys: “Pan ti’n cael y cwch” – ma Egg yn gweud bod e’n trio prynnu yacht Simon Le Bon, Drum – “all ti wisgo lan fel Quincy, achos odd e’n byw ar cwch.”
Egg: “Oedd, mi oedd Quincy’n byw ar cwch. Felly, gallai cael cwch a gwisgo lan fel Quincy. Odd e’n chief medical coroner, oedd?”
Rhys: “Dychmyga superhero o’r enw Medical Man, iawn, a’i pwerau bydde perfformio llawdriniaethau ar pobol a ficsio nhw.”
Loo: “Mae’n llawfeddyg? Supersurgeon?”
Rhys: “Wel, dwmbo, ma galw fe’n surgeon yn bychanu fe. Ma Medical Man yn well.”
Loo: “Bydde gyda fe scalpels am bysedd?”
Rhys: “Na, bysse gyda fe bag o scalpels neu fel arall bydd e’n gallu crafu gwyneb e? Byse hynna’n wirion.”
Egg: “Bydde fe’n afiach, bydde fe?”
Rhys: “Mae’n mynd i grafu a anghofio a mynd ‘O na, fi angen person meddygol arall i ficsio fi lan!’ Achos chi angen dau llaw i neud y stiches a stwff, chi ffaelu dala rhwbeth da scalpel a foreceps.”
Egg: “Na, bydd e ddim yn gweithio.”
Rhys: “Dychmyga cartwn fel yna. Ar ol neud y ffilm, falle wnai neud cartwn o’r enw Medical Man. Pwy yw’r dwd nath Sin City? Richard Rodriguez?”
Robert Rodriguez?
Rhys: “Fe fyd, ie. Cal fe i neud e. Sin City, Medical Man. Bydd e’n ddrama gritty di saethu’n du a gwyn, ond falle sblater o goch. Galle fe fod mewn ysbyty, ond dim ‘sbyty llawn amser; bydd e fel sy lan yn Merthyr Tydful, ma gyda nhw practitioners, fel clinic lle ma pobol yn mynd mewn a siarad am problemau rhiw nhw. T’mo, ma nhw’n meddwl bod nhw’n feichiog a ddim hyd yn oed yn fenyw. Byse hynna’n cŵl.”
Egg: “Defnyddia un o nhw…beth yw’r pethe na ti’n ffeilo gwinedd gyda?”
Emery boards?
Egg: “Emery boards. Ti’n mynd i’r doctor a mae’n neud o rownd pen dy phallus i glanhau fe lan.”
Sdim gyda fi un, ond fi’n gwingo wrth feddwl amdano fe.
Egg: “Ma rhaid bo ti di gweld un, oleia mewn magazine.”
Beth, pidlen? Wrth gwrs fi wedi.
Egg: “Wedyn ti’n gallu dychmyru. Ma siwr o fod emery boards gyda ti gatre.”
Rhys: “Fi’n cofio pan o ni’n llai yn ’85, nathon nhw neud hynny, gethon nhw Dick Pertwee neu beth bynnag yw enw fe a gethon nhw emery board a mynd rownd top ei goc ar Blue Peter, i ddangos i’t plant be ma nhw’n gallu neud.”
Egg: “A wedyn ma’r cath yn llyfu fe.”
Rhys: “Ti’n gwbod Pusdey odd y rhaglen teledu yna?”
Yr un nithwr? Plant Mewn Angen?
Rhys: “Na, y pen-coc, Pudsey yw hwnna! Happy Days, Putzy. Achos putz yw pan ti’n torri’r croen off a cael gwared ohonno fe, enw fe yw pudz, a na pam enw fe oedd Putzy achos odd e di torri croen off ei bidlen. Tase fe’n Lloegr enw fe byse Foreskinny.”
Ma Chris Moyles di enwi ar ol y boi sy’n neud y torri, yw e? Yn diwylliant Iddewig, enw’r dyn sy’n neud y snip yw mohel (sy’n swnio fel ‘moyle’), wedyn ma gyda chi’r briss sef y seremoni o gwmpas torri’r foreskin. Ahaha, Briss Moyles – byse hynny’n wych byse fe? Edrychwch e lan ar eich Internets.
Byse Mike di ymuno gyda ni heddi, tase fe heb di bod yn mynd a’i gariad mewn balwn mawr yn Briste. Mae’n neud i fi feddwl ddo – ma rhaid bod e’n waith caled bod yn wraig neu’n gariad i un o chi lot?
Rhys: “Neu’n ŵr.”
Be ti’n meddwl? Oes un o chi’n hoyw?
Egg: “Sai’n hoyw.”
Loo: “Nethon ni ddim weud bo chi yn…”
Egg: “Sai’n hoyw, Duw na.”
Rhys: “Odd Mysty arfer siarad gyda dynion.”
Egg: “am ryw rheswm Mysty odd fwya tebygol i fod yr un hoyw, ond rywsut, mae’n cael rhiw nawr, gyda merch, so da iawn i fe.”
Rhys: “Ma gyda ti fwy o testosterone na fe. Ma hi’n neud Chinese burns ar coc e. Ath e ar y top ropes gyda hi ac oedd bruising gawel iawn ar un pwynt, ath balls e’n ddu. Odd gyda fe stick di clymu un ochr gyda bandiau elastig o gwmpas e.”
Egg: “Nath hi jwmpio off cwpwrdd dillad a glanio ar ben e, odd e’n ddychrynllud. Nath e sŵn poppio muffled pan anth e snapio. Dyna beth oedd yn ddychrynllud am y peth.”
Felly – pan fydd y stwff newydd yn dod mas, newch chi neud daith?
Rhys: “Hoffen ni neud rhai dyddiadau yn Chwefror, ond ma hynna blwyddyn nesa, so newn ni ddim cael nhw at ei gilydd tan 6 wythnos cynt. Ni’n mynd i gael brec dros Nadolig a ddim dechrau eto tan ar ôl Nadolig.”
Egg: “Ond bydd rhwbeth yn digwydd.”
Rhwbeth yn y Gogs, plîs!
Egg: “Ma’r Gogs wastad yn hwyl. Edrych ar hwn:” – mae’n neud acen Gog doniol – “My friend was raped by an alien! That’s what they say in North Wales. ‘My friend was raped by an alien!’”
Odyn, ni’n gweud hynny trwwwyr amser…
Felly, gobeithio bydd daith Goldie Lookin Chain yn dechrau’n o fuan. Yn y cyfamser, allwch chi dal lan gyda’r newyddion diweddara ar www.youknowsit.co.uk neu wrth ymuno gyda’r rhestr hir o ffrindiau ar un o’r nifer o dudalenau MySpace GLC (oedd oleia wyth pan gyfres i diwethaf) – www.myspace.com/goldielookinchain yn lle dda i ddechrau. Neu ewch i siarad a'r pobol hyfryd yn fforwm GLC - croeso cynnes garantid.
Goldie Lookin Chain: gymaint o arlithwyr marchanta y nhw, ma nhw’n neud Deborah Meaden edrych yn gachu. You fucking knows it. |