Os roedd rhaid i mi ddewis fy hoff cof o’r anturiaethau anhygoel y ges i yn ystod dyddiau cynnar Bandiau Cymreig Wythnosol, fydd o’n anodd i ffeindio cof sy’n gwneud i mi wenu mwy na’r cof o gwrdd â Howard Marks am y tro cyntaf.
Mae’n fis Mai 1998 a dwi’n y Shepherd’s Bush Empire yn Llundain, yn gwylio Super Furry Animals. Dwi’n 29 oed a jyst ‘di cael fy ofyn am ID gan rhyw barman ifanc, so dwi’n teimlo’n falch iawn o fy hun. Dwi’n mynd i gefn y feniw ac yn ffeindio fy hun yn sefyll wrth ochr dyn sy’n hŷn na fi, atyniadol ond dwi’m yn ei nabod o yn gyntaf. Mae ganddo fo lygaid gallwn i gollu fy hun ynddynt, dwi’n meddwl am eiliad; ‘da ni’n gwenu a nodio, a throi i wylio’r band.
Tra dwi’n gwylio’r Furries – fy hoff band yn y byd, bydd darllenwyr o BCW yn debyg yn gofio – a chael fy nhrochi yn y sefyllfa ‘na o hapusrwydd sydd yn dod o wrando ar y gerddoriaeth ‘da chi’n licio’n orau, dwi’n sylweddoli aroglau yn cludo heibio fy nhrwyn.
Mmmm, dwi’n meddwl, gan droi rownd fel arfer i ffeindio’i ffynhonnell.
Mae’r dyn atyniadol yn dal fy llygad ac yn gwenu’n eang. Dwi’n gwenu’n ôl. Mae o’n pasio’r dutchie – yn briodol, dwi’n sefyll ar ei ochr chwith, biddly bong – a chymryd toke dwfn. Dwi’n pasio fo’n ôl a ‘da ni’n gwenu eto.
A’r gân roedd y Furries yn chwarae ar y pryd? Smokin’. Yn onest, fyddai hi’n amhosib i ffugio’r stori ‘ma.
Er oeddwn ni byth ‘di cwrdd â’n gilydd hyd at y pwynt yna, oeddwn ni’n gyfarwydd ag ef am flwyddyn cyn ei gyfarfod yna. Drwy cyfres o ffacsiau, nodynau a galwadau ffôn, ym 1997 o’n i ‘di llwyddo i berswadio Howard i cael ei ‘gorneli’ ar gyfer Cornel y Bobol o Fri, ysgrif byr a ymddangosodd yn Bandiau Cymreig Wythsnosol cwpwl o weithiau cyn cael ei shelfio, heb ddod ‘nôl tan Rhifyn 9½.
Mae naw mlynedd wedi pasio ers i me weld Howard am y tro diwethaf, yn ei stafell gwisgo yn Dingwals ar ôl un o’i sioeau ym mis Rhagfyr 1998. Tra’n ysgrifennu’r ebost sydd am yrru’r cwestiynau ar gyfer y cyfweliad ‘ma, mae na rhan ohona i sydd yn disgwyl i Howard feddwl pwy ffyc ydw i.
So dwi’n dechrau’r ebost: “Rhaid fod bron naw mlynedd ‘di pasio ers i mi weld chdi neu siarad â chdi, so na i ddechrau gan ddeud ‘helo’ – gobeithio fod chdi’n iawn ac yn hapus.”
Yn lwcus, mae ateb Howard yn gynnes ac yn gynefin: “Yn wir mor hir ag hynny? Dwi’n iawn ac yn hapus, fel arfer. Gobeithio fod chdithau. Ti’n swnio fo.”
Gan feddwl ‘nôl i’r dyddiau ‘na, deng mlynedd ‘nol, pan roedd bron dim un gig y Furries yn cymryd lle heb yr aroglau cyfarwydd ‘na o Howard yn smygu mŵg drŵg yn llenwi’r awyr, dwi methu helpu synnu os mae o ddal yn cefnogi cerddoriaeth Cymreig efo cymaint o frwdfrydedd ag oedd o ddeng mlynedd ‘nôl. Wedi’r cwbwl – fel ysgrifennodd yn ei hunangofiant, Mr Nice – roedd clywed y Furries ar y radio yn ystod ei oriau olaf yn y carchar fel galwad i ddod adref.
“Wrth gwrs,” meddai. “Dwi dal yn licio’r Super Furries yn fawr iawn (mae eu halbwm newydd yn ffantastic) a dal yn hongian allan efo nhw weithiau. Daeth Goldie Lookin’ Chain â llawenydd i fy nghalon.”
Ers gadael ei hen yrfa fel ‘international man of mystery’ (byddwch yn cofio, yn ystod ei ddyddiau smyglo gweithiodd Howard i MI6 a roedd ganddo, yn dybiedig, linciau i’r IRA, y CIA a’r Mafia), mae Howard wedi ysgrifennu’n ffrwythlon. Yn ystod y blynyddoedd ers i ni weld ein gilydd, mae o ‘di ysgrifennu’n gyson ar gyfer Loaded, The Observer, Time Out, The Times, ac eraill. Yn bellach, mae o ‘di cyhoeddi dau lyfr arall - The Howard Marks Book of Dope Stories yn 2001 a Señor Nice yn 2006– yn gwerthu cyfanswm o fwy na miliwn o gopiau erbyn hyn.
Mae Howard yn hyrwyddo’i llyfr diweddarach ar hyn o bryd; mae o jyst wedi dod allan fel paperback ac mae Howard yng nghanol mynd â fo ar daith rownd Prydain, fel a wnaeth efo Mr Nice.
Mae Señor Nice yn lyfr anhygoel o ddifyr, yn addictive llwyr. Mae’r geiriau’n tynnu chi mewn tan chi’m yn sylweddoli fod chi’n darllen, ond yn gwrando ar lais Howard yn deud y stori. Yn y llyfr mae o’n disgrifio ei ymchwil i ddarganfod rhagor am effaith hanes y Gymreig ar Dde America – gan gynnwys chwilio am lwyth colledig o bobol cynhenid sydd yn siarad Cymraeg – a’i fisiwn i ddilyn camau Henry Morgan, y morleidr enwog, yn Jamaica. Ond roedd ‘na un antur yn Señor Nice yn fwy ddoniol na’r eraill, sef ei ddarganfyddiad fod brawd ei hen-hen-daid yn neb arall na Billy the Kid.
Dwi’n gofyn wrth Howard os roedd o’n giglo ychydig ar ôl dargafod fod enwogion drwg yn rhedeg yn y teulu.
“Dwi’n wrth fy modd efo fo,” meddai, a dwi’n dychmygu maint y gwenu sydd efallai ar ei wyneb tra’n teipio, “ond yn amlwg dwi’m yn synnu i ddarganfod criminal genes yn fy llinach.”
Efo hanes teuluol fel hyn, dwi’n chwilfrydig i wybod cymaint mae ei wybodaeth, profiad a llinach yn effeithio plant Howard. Fel mam o ferch bron 18 oed, dwi’n deall yn llwyr y cyfrifoldebau o drio rhoi cyngor iddi sydd yn onest, wedi’i sefydlu ar brofiad, a sydd ddim yn sensationalist, am y pethau sy’n debyg i effeithio’i bywyd, gan gynnwys wrth gwrs defnydd cyffuriau. Sut deliodd Howard efo’r pwnc ‘ma efo’i blant? A oedden nhw’n cymryd ei gyngor?
“Dwi’n trio bod yn onest, yn non-judgemental, ac yn non-persuasive,” meddai. “Maen nhw’n cymryd fy nghyngor yn reit aml, yn wir.”
Mae’n rhaid nad ydi cael Howard Marks fel tad ddim yn peth drwg ar adeg pan – unwaith eto – mae’r Llywodraeth a’r cyfryngau yn propaganisioy defnydd o gyffuriau, y tro ‘ma i ofni ni i gredu bod ni’n 40% yn fwy debyg i ddatblygu schizophrenia os ‘da ni’n smocio mŵg drŵg. Ar ôl darllen y stori ‘ma o’r BBC o fis Gorffennaf 2007, gall unrhwy berson synhwyrol sylweddoli mai dim ond sensationalism ydi o; mae’r gwirionedd – bod y risg yn effeithio dim ond y rhai sydd yn barod yn debygol i wynebu problemau meddyliol - yn dod dim ond ar waelod y stori. Tydi’r sefyllfa ddim wedi’i helpu gan The Independent yn gwneud u-turn llwyr ar ei cefnogaeth ar gyfer cyfreithloniaeth, yn cymryd sylwadau Howard allan o context mewn trafodaeth diweddar ar y wê, efallai er mwyn syportio ei safbwynt newydd ‘drugs are baaad, mkaaay’.
Galwch fi’n paranoid, ond wrth ystyried pa mor agos oedd cyhoeddiad erthygl y Lancet i Gordon Brown i wella’i swydd, mae’n ymddangos fel amseriadffantastig i’r Prif Wenidog, sydd wedi gwneud ei ddiflastod am bobpeth druggy yn gyhoeddus iawn. Nanny state, unrhywun?
Mae Howard wedi brwydro’n barhaol ar gyfer cyfreithloniaeth y defnydd o gyffuriau; ceisiodd am swydd yn y Llywodraeth fel Drugs Czar achos oedd o’n credu’n llwyr y byddai stopio’r smyglyrs yn lle’r defnyddiwyr yn cael ardrawiad positif ar broblemau cyffuriol Prydain. So, beth mae o’n meddwl am y scaremongering?
“Mae gen i dri meddwl am hyn,” meddai. “Mae’r cysondeb o schizophrenia yn debyg i sut oedd o o’r blaen, ond mae’r nifer o bobol sy’n smocio dôp wedi cynyddu. Mae hwn yn profi does dim correlation.
“Pan mae rhywun yn datblygu schizophrenia,” mae o’n parhau, “mae’r brên yn hunan-feddygu gan ryddhau cemegau (wedi’i enwi rhywbeth fel anandanine, dwi’n meddwl) i wella’r effeithiau anhyfryd. Mae saernïaeth y cemegol ‘ma yn hynod o debyg i saernïaeth cemegol THC. Yr esboniad tebygol yw, mae schizophrenics yn licio smocio dôp i ymdopi efo’u sefyllfa.
“Dwi’m yn gweld problem efo bod yn stônd yn debyg i fod yn eitha gwallgof,” mae o’n gorffen. “Mae bod off dy ben fel bod off dy ben.”
Mae Howard yn ddyn eithaf horizontal, dwi’n meddwl, a dwi’n cael y teimlad fod o’n neud yn union beth mae o isho neud. Os mae o’n ffansio spliff, mae o’n smocio spliff, heb ots lle mae o (dwi’n amau os mae’r feniw yn taboo, mae ganddo fo mwyn o demptasiwn i rholio joint). Yn fy meddwl dwi’n gweld Howard yn rhoi’r V’s i’r awdurdod, gan edrych fel un o’r Fabulous Furry Freak Brothers.
Er enghraifft, mae Howard yn smocio dôp ar y llwyfan yn ystod ei sioeau. Mae’r dyn yn blydi irrepressible, on dwi’n licio fo mwy o achos hyn. Ac efo taith ar fin decrhrau pan dwi’n anfon yr ebost, dwisho gwybod beth mae o’n meddwl am deithio. Rhaid fod o’n hwyl, ond yn flinedig... beth mae o’n licio a chasau am fynd ar daith?
“Dwi’n licio ymweld â llefydd newydd a dwi’n casau gorfod gadael nhw mor fuan,” mae o’n ateb; wrth ystyried ei yrfa fel ysgrifennydd teithio – a’r anturiaethau mae o’n disgrifio yn ei lyfrau – tydi ei ateb ddim yn syn.
Ar y llwyfan mae Howard yn ail-ddweud ei anturiaethau yn ystod ei drawsffurfiad o droseddwr i lovable rogue, yn ei lais swynol sydd, yn nhraddodiad yr hen feirdd, yn deud stori reit dda. Ydi o erioed yn chwerthin i’w hun am lle mae ei anturiaethau wedi mynd â fo? Efo’r pethau mae o ‘di neud i gyd, a’r pethau sydd wedi digwydd iddo, rhaid fod ei atgofion yn cŵl. Beth yw ei ffefrynau a’r gwaethaf?
“Fy hoff gôf yw cael fy rhyddhau yn yr Old Bailey am fewnforio 15 tunell o marijuana Colombian pan o’n i’n amlwg yn euog,” meddai. “Y gwaethaf oedd clywed y newyddion yn y carchar o fy mab 4 oed yn torri’r ddau o’i goesau ar ol neidio oddi ar tô.”
Mynd yn ôl i rhoi’r V’s, dwisho gwybod am y ffaith fod hadau ar werth yn agorol ar wefan Howard. Mae hynny’n anghyfreithlon, on’ dydi? Neu oes loophole yn y gyfraith sydd yn adael iddo fo werthy nhw?
“Tydi bod yn berchenog ar hadau ddim yn anghyfreithlon yn y D.U. achos dydyn nhw ddim yn cynnwys THC,” mae o’n esbonio. “Mewn rhai o wyledydd, e.g. America a’r Almaen, mae hadau yn anhyfreitlon. Mae tyfu hadau yn erbyn y gyfraith yn y D.U.”
Pa hadau ar y wefan mae Howard yn licio’n fwyaf?
Mae ateb Howard yn synnu fi dipyn: “Dwi’n methu nabod y gwahaniaeth rhwng un weed cryf ac arall.”
Welais yn ddiweddar clip fideo o Howard yn arholi planhigion hash yn yr Himalayas, a roedd y ffordd cariadol (a phrofiadol) roedd o’n trin y planhigion yn eitha touching. Ydi Howard yn arddwr awyddus yn yr ystyr ‘normal’ neu ydi o’n cadw ei ddiddordebau garddio ar gyfer y dull o blanhigion ni ddim yn fod i dyfu yn y D.U.?
“Ffyc nac ydw!” – dwi’n dychmygu ‘mod i’n gallu clywed chwerthin i lawr y peipau broadband – “Dwi erioed ‘di garddio yn fy mywyd. Mae gena i ‘mond ddiddordeb yn y cynnyrch olaf.”
Ar ôl nifer o flynyddoedd yn smocio’r cynnyrch olaf, ydi o dal yn cael effaith arno? Cymaint ydio’n gorfod smocio cyn mynd yn hamyrd?
“Dwi dal yn mynd yn stônd ar ôl joint cyntaf y bore,” meddai, gan synnu fi eto, “a mwy a mwy ar hyd y ddydd. Ond dwi’n gyfarwydd efo’r stad. Dwi bron byth yn dysfunction.”
Mae’n debyg mae ‘na ychydig o ‘hash drought’ yn digwydd yn y D.U... hyd yn oed yn Llundain mae’n anodd i’w gael, so meddylia pa mor ddrwg ydi o yma yng Ngogledd Cymru. Ydi’r ‘drought’ ‘ma wedi effeithio Howard o gwbl? Pa mor gutted fyddai fo os oedd o methu ffeindio hash?
“Yn lwcus, mae gen i ddigon o gysylltiadau i beidio â dioddef o ‘droughts’,” meddai, “ond byddwn i’n gutted iawn os doedd gena i’m dim.”
Gan siarad am be’ hoffwn ni gyfreithloni, dwi isho gwybod os mae unrhywbeth sydd yn gyfreithlon ar y foment y byddai Howard yn licio gwneud yn anghyfreithlon.
“Lluoedd arfog America a’u arfau,” mae o’n ateb, a dwi’n tueddu cytuno.
Mae Howard ‘di cael ei ddisgrifio fel “the narcotic Tommy Cooper,” “a folk legend” a “sounds like Richard Burton and acts like a Rolling Stone”. Dwi’n cytuno mai’r pethau yma i gyd ydy o, ond hefyd mae lot fwy iddo. Mae o’n gynnes, yn gymalog ac yn ddeallus. Mae o’n addysgwyd, ond dwi’n meddwl fod y rhan fwyaf o’i wybodaeth yn dod o’r fath o ddysg sydd ddim – neu doedd ddim, o leiaf – ar y cwrs addysg arferol yn Oxford.
“Rwyt ti’n,” dwi’n gorffen fy ebost, a dwi’n cochi’n ddwfn tra dwi’n teipio, “un o’r dynion mywaf effortlessly charismatic a swynol ydw i ‘di cyfarfod erioed, ac er fod chdi’n flwyddyn yn hyn na fy nhad, dwi’n meddwl fod chdi’n eitha blydi secsi. Nawr fod chdi’n ddyn sengl ac yn mynd ar daith yn aml, wyt ti’n cael lot o gynnig gan y merched? Wyt ti’n cael digon o tottie?”
“Nac ydw, dim mwy, yn anffodus,” mae Howard yn ateb. “Dwi nawr yn flwyddyn yn hyn na’i teidiau.”
A drwy’r wê bron yn weledig sy’n cysylltu ni, dwi’n teimlo trawiad yn y llygaid hyfryd ‘na.
Howard Marks ar daith :
28 Hydref 2007
ST IVES THEATRE
Lower Stennack, ST IVES - Cornwall, TR26 1QG
Pris: £15.00, Drysau ar agor : 19:00
Rhif ffon : 01736 797007
URL
: www.kidzrus.net
AN AUDIENCE WITH SENOR NICE
29 Hydref 2007
MARINE THEATRE
Church Street, LYME REGIS - Dorset, DT7 3QA
Pris: £12.50, Drysau ar agor : 19:00
Rhif ffon : 01297 442138
URL: www.marinetheatre.com/
Ebost: admin@marinetheatre.com
AN AUDIENCE WITH SENOR NICE
30 Hydref 2007
THE LANDMARC
Exeter Road, BOURNEMOUTH, BH2 5AQ
Pris: £16.50, Drysau ar agor: 19:00
Rhif ffon : 01202 589 868
URL: www.thelandmarc.com
Ebost: book@lthelandmarc.com
AN AUDIENCE WITH SENOR NICE
03 Tachwedd 2007
THE SAVOY
Patricks Street, CORK
Pris: £27.50, Drysau ar agor: 19:00
Rhif ffon : 353 81 871930
URL: www.savoycork.com
Ebost: enquiries@savoycork.com
AN AUDIENCE WITH MR NICE
04 Tachwedd 2007
Roisin Dubh
Dominick St, GALWAY
Pris: £25.00, Drysau ar agor: 19:00
Rhif ffon : 00353 91 586340
URL: www.roisindubh.net
Ebost: booking@roisindubh.net
An Audience with MR NICE
05 Tachwedd 2007
University of Limerick
LIMERICK
Pris: £8.00, Drysau ar agor: 19:00
Rhif ffon : 353 61 20 23
URL: www.uch.ie
Ebost: boxoffice@uch.ie
AN AUDIENCE WITH MR NICE
06 Tachwedd 2007
The Laughter Lounge
Basement 4 - 8 Eden Quay, O'Connell Bridge, DUBLIN , DUBLIN 1
Pris: £25.00, Drysau ar agor: 19:00
Rhif ffon : 81 871930
URL: www.laughterlounge.com
Ebost: boxoffice@laughterlounge.com
AN AUDIENCE WITH MR NICE
07 Tachwedd 2007
The Laughter Lounge
Basement 4 - 8 Eden Quay, O'Connell Bridge, DUBLIN, DUBLIN 1
Pris: £25.00, Drysau ar agor: 19:00
Rhif ffon : 01 - 878 3003
URL: www.laughterlounge.com
Ebost: boxoffice@laughterlounge.com
AN AUDIENCE WITH MR NICE
08 Tachwedd 2007
SQUARE CHAPEL
10 Square Road, HALIFAX, HX1 1QG
Pris: £14.50, Drysau ar agor: 19:00
Rhif ffon : 01422 349422
URL
: www.squarechapel.co.uk
Ebost: info@squarechapel.co.uk
An Audience with SENOR NICE
09 Tachwedd 2007
Theatr Ardudwy
HARLECH - Gwynedd, LL46 2PU
Pris: £10.00, Drysau ar agor: 19:00
Rhif ffon : 01766 780667
URL: www.theatrardudwy.co.uk
An Audience with SENOR NICE
|