Mae’n debyg y byddwch wedi clywed amdanynt eisoes neu o leia clywed am yr LP gyda’r enw ysblennydd Rice Is Nice gan McLusky, neu efallai hyd yn oed wedi gweld perfformiad byw ganddynt, gan eu bod wedi chwarae sawl gig ar draws y wlad yn cefnogi amryw o artistiaid. Daeth yr enw McLusky o ‘Roath’s finest collection of bed and breakfasts’ a maent yn berfformwyr cyson ar y sîn yng Nghaerdydd, Adnabyddir yr hogia yma am eu cymysgfa heintus o pync a swn eithafol brawchus. Efallai, o glywed y disgrifiad yma y byddech yn disgwyl i ddylanwadau’r band gynnwys artistiaid debyg i’r Pistols a The Damned. Ond na!, fel eglurodd Andy Falkous, prif leisydd, gitarydd a chyfansoddwr caneuon Mclusky: “Duw a’n helpo fi ond Queen oedd y dylanwad cyntaf arnai ac wedyn, erbyn i mi fod yn tua tair ar ddeg oed, Appetite For Destruction, yn enwedig It’s So Easy a Welcome To The Jungle. Roeddent yn gynnil iawn yn uno rhegfeydd a gitars swnllyd – cyfuniad oedd yn ymddangos yn wreiddiol iawn i mi ar y pryd. Welais i nhw hefo Soundgarden a Faith No More oddeutu dwy flynedd yn ddiweddarach ond erbyn hynny roedda nhw wedi newid i fod yn rhyw arbrawf fideo hefo trac sain gan Elton John. Fedrwn i mond dioedde gwrando ar bedair can cyn i fy nghroen i ddechrau pydru.”
Anodd yw dychmygu sut y daeth Mclusky i frig y sîn gerddoriaeth Gymreig ar ol cychwyn digon diymhongar. Anoddach byth yw dychmygu sut y bu iddynt oll lanio yng Nghaerdydd”. “Un o Gaerdydd ydi Jon, Harding o Lantrisant, a fi, wel dwi’n sgym o Sais” meddai Andy. “Wel semi-sgym, cefais fy ngeni yn Newcastle-Upon-Tyne. Bu’m yn astudio Newyddiaduriaeth yng Nghaerdydd, yn y dyddiau pan oedd pethau felly yn bwysig! Y gwir amdani ydi na fysa neb byth yn credu’r gwir am sut wnaetho ni gyfarfod, a dyna pam ein bod wedi rhoi straeon gwallgo yn y bywgraffiadau sydd ar ein gwefan, er mwyn rhoi pobl ar y trywydd anochel, sy’n gret!,” mae’n parahau, “Da ni wedi cyfarfod bandiau da ni’n hoffi ac yn cyd-dynnu’n dda hefo nhw, fel Cubare a Mo-ho-bish-o-pi, ond y peth mwyaf arwyddocaol yn ein bodolaeth ni mewn gwirionedd ydi’r ffaith bod neb wedi talu unrhyw sylw i ni am y tair blynedd cyntaf. Mae hynny’n golygu bod rhywun yn datblygu meddylfryd Travis Bickle yn cwrdd a’r Banana Splits… y paranoia ma. Ond dwi ddim yn poeni, da ni’n gadael yr hobnobio i’ hobnobs; Mae’r holl sîn yng Nghaerdydd yn iachach o lawer ac yn fwy amgen o beth uffar ers i ni gychwyn. Ond ma siwr na’n ego mawreddog i sydd yn siarad yn fana! Wnaetho ni erioed rili neud ffrindia hefo’r clics, motherfuckers y sîn pync, felly roedd o’n fater o gefnogi’r acid jazz neu’r sbarion Britpop ar y cychwyn a ceisio creu argraff mewn gofod digon annymunol. Ond erbyn hyn mae na amrywiaeth eang ar draws y ddinas o’r gwirion radio-dirion i’r sbwrial wannabe Leftfield ac ymddengys bod pawb yn hapus.”
Mae Andy yn hapus i fod yn Gymro anrhydeddus yn byw yng Ngymru. Hapus, hynny yw, heblaw am un peth, “Fyswn ni’n ddigon bodlon aros yng Nghymru a Chaerdydd am weddill fy oes os fysa’r mymryn prics xenophobic na yn gadael ffycin llonydd i fi a peidio pigo arnai amm fod yn Sais, mae rhywun yn diflasu o’r fath gachu ar ol dipyn. Dio’m fatha bo fi’n ffycin Jeremy ffycin Irons nacdi ffor ffyc’s secs. Dwi wrth fy modd hefo Caerdydd, fy hoff ddinas yn y Byd a fedrai ddim gweld ni’n symud oddi yma onibai bod rhaid i ni. Da ni wedi cyfarfod llwyth o bobol – pobol fel y Mo-Ho’s wrth gwrs, a ma Cubare yn ffycin class, a fyswn i yn dweud y band gora da ni wedi chwarae hefo . Mae Sammo Hung yn dwad.. dwad.. dwad yn eu blaenau a phob lwc iddyn nhw i gyd. Ond cyn belled a ma shitrock yn y cwestiwn, polisi fi ydi peidio rhoi owns o sylw i’r cnafon di geilliau. Ma nhw’n gwbod pwy ‘di nhw. A Ffwcia nhw’i gyd!”
Tydi hogia Mclusky ddim yn rhy hoff o gael ei sarhau a tydi eu ffans nhw ddim chwaith, mae’r ffans wedi mabwysiadu rhyw fath o ‘cult-mentality’. Edrychwch ar eu gwefan www.mcspecialpain.com ac fe welwch eu bod yn defnyddio ei gwestlyfr drwg-enwog fel ffordd o neilltuo pobl. “Yr unig ddewis arall dwi’n meddwl ydi bod yn Shed Seven neu’r Foo Fighters, a dwi’n siwr bod neb ohonom isio hynny ar y hyn o bryd. Roedda ni’n disgwyl mwy o wrthwynebiad gan y wasg gonfensiynol a dweud y gwir; ond beth sydd yn wirioneddol ein corddi ni ydi’r pyncs ffasgaidd hefo’r agwedd ‘da ni’n well na chi’ a’i cadw-mi-gei’s gorlawn ac egwyddorion cyfleus ‘peidio gwerthu allan’. Ac os yda chi yn mynd i ddechra poeni jacshit am be mae morons felna yn feddwl yna da chi ddim gwell na rhyw ffycin band sîn sydd yn gwisgo’r trainers iawn.”
Cyd-ddigwyddiad rhyfedd i Andy son am y wasg. Mae Cymru’n nodedig am ei diwylliant ‘fanzine’ tanddaearol ynghyd a’r cylchgronau arferol. Fodd bynnag, mae’r ffin rhwng y proffesiynol a’r personol yn un fain, dangosir hyn mewn ffrwgwd amlwg rhwng y band a fanzine o Gaerdydd: “Fe wnaeth ‘The Fracture Toad’ honni ein bod ni wedi herwgipio pwll ei gyn-dadau, roedd o’n rong wrth gwrs. Fel arfer ar nosweithau clir roedd y bastards bach i gyd yn hopian yn hapus lawr wrth y pwll a phawb yn groesawgar ac yn llawen, ac er ymddangosiad ambell i sgym anwybodus a thwp, doedd hynny ddim fel arfer yn sbwylio’r parti… ond yna neidiodd un o’r bastard llyffantod mwya coci a haerllug dros y clawdd a crawcian pethau personol. Mae hynny yn drosedd anfaddeuol.”
Anghofiwn am ladd ar y wasg am y tro, mae na faterion ehangach a phwysicach i gysidro. Ymddengys bod yna bris uchel i’w dalu am fod mewn band y dyddiau hyn, hefo costau PA a chostau mynd ar daith yn uchel. Mae peidio talu i fandiau am berfformio yn un o gasbethau Andy. “Mae’n warthus” meddai, “a’r lleoliadau yn rowlio mewn ffycin pres”. Mae’n amlwg fod ganddo nifer o gasbethau, dechreuodd restru rhai o’r pethau sydd yn ei gorddi… “Crypto-fascist American wannabes sydd wedi darganfod pwer y bensal yn ddiweddar ac sydd am rannu miloedd o fandiau sydd yn swnio fel NOFX hefo ni. Snare drums sydd wedi ffycin torri. Ym… Marzipan a Llundain. Cenedlaetholdeb, mewn unrhyw ffurf bynnag.” Unrhywbeth i’w ychwanegu? “O oes. Zola ffycin Budd. Seriously Groovy Records, mwy o blydi ninja mission na casbeth. Ail recordio caneuon ac unrhyw albwm gan New Order ar ol Substance. Ac yn olaf, Plymouth.”
Be sydd gen ti’n erbyn Plymouth felly? “Ein gig gwaetha erioed! Mi wnaetho ni chwarae hefo Mo-ho-bish-o-pi yn y brifysgol i gynulleidfa o oddeutu ugain o bobol, cynulleidfa oedd mae’n debyg yn disgwyl Reef. Hunllef! Roedd na sawl ffeit yno hefyd hefo pobl yn cripio llygaid ei gilydd allan, roedd o’n shit o leoliad, lle shit hefo’r staff mwya ffycin contlyd welis di erioed. Wedyn ar y ffordd adra wnaetho ni dorri lawr a chael ffeit hefo’r boi AA oedd fel rhywbeth allan o sgets Chris Morris. Wedyn roedda ni i gyd yn uffernol o sal am fythefnos hefo rhyw feirws heintus ac am bod ni heb droi fyny yn gwaith gafo ni sac. Dyna fo rili. Plymouth. Da ni wedi cael lot o gigs da iawn yn Clwb Ifor Bach, Caerdydd a Le Pub yn Casnewydd. Ac wedi mwynhau bob un heblaw am y rhai hollol gachlyd.”
Mae’n anodd rhoi bys ar pryd yn union mae band yn llwyddo i gyrraedd y brig. I rai byddai cael record yn y siartiau yn ddigon. Byddai eraill yn dweud chwarae gig fawr mewn gwyl neu stadiwm adnabyddus. Ond mae gan Mclusky syniadau gwahanol: “Hoffwn i gael carchar arbennig, carchar hudolus yn y gofod,” eglura, “rhywbeth debyg i’r un yn Superman 2, ond llai grisialaidd a seiliedig ar swigod. Wedyn unwaith fydd y carchar yna gennai, a hwnnw hefo… saith neu wyth o garcharorion ynddo, fyddai yn gallu cerdded lawr y stryd (os fydd na fath beth a ‘stryd’ erbyn hynny) a dal fy mhen i fyny yn falch o’r ffaith fy mod yn llwyddiant. Enw ein albwm cyntaf oedd My Pain And Sadness Is More Sad And Painful Than Yours sydd dwi’n meddwl yn arwyddocaol… os mai dim ond llwyddiant oedd y nod yna fysa ni wedi canolbwyntio ar swnio fel The Verve neu sgwennu caneuon pop pync yn cyfeirio at broblemau pobol ifanc, caneuon hefo lyrics mor ffycin glyfar a bag o bîns. Mae llwyddiant masnachol unai yn mynd i ddigwydd ar ein telerau ni neu ddim o gwbwl. Tydio’n sicr ddim gwerth poeni amdano.” gwenodd. “Ar ddiwedd y dydd, gobeithio, fyddwn i’n gallu dangos i bobol bod bosib sgwennu caneuon roc heb suddo i mewn i ryw rwtsh arwynebol, dangos i bob math o bobol heb fod yn nawddoglyd bod bosib ffycin rocio heb gael meddylfryd plentyn twp chwech oed sydd ar y ffordd i gwersyll ‘dwi’n wahanol!’ Does dim rhaid bod yn rhan o ryw sîn arbennig er mwyn bod yn ‘perthyn’. Wel unai hynny neu mi fyddwn i’n destyn gwers o sut i beidio bod yn fand. Penderfynnwch chi!”
Felly dyna chi… Eich dewis chi ydio. Wrth wynebu sawl rhwystr, sylw negyddol gan y wasg a’r poen yn din cyffredinol ymddengys bod ‘agosatrwydd’ y band yn eu cadw gyda’i gilydd. “Da ni yn trio cadw pethau’n bur,” meddai. “Pan ddaethon at ein gilydd sawl blwyddyn yn ôl, roeddem yn gwisgo ein dylanwadau personol rownd ein gyddfau fel rhyw hen sana wanclyd ond erbyn hyn da ni’n licio meddwl bod gennym rywbeth deinamig sydd yn unigrwy i ni. Wrth gwrs neith pawb ddim cytuno. Ond da ni’m yn poeni ffwc jwc.”
A dyna ddweud y cyfan am Mclusky, Swnllyd, amrwd, a hollol ddifater am unrhyw ffrwcs mae nhw’n dderbyn. Mae Mclusky yn sefyll yn gadarn fel rhyw anghenfil dros y sîn pync yng Nghaerdydd. Hogia iawn cofiwch ond argol, mae ganddynt andros o lot i ddweud am ei hunnan. Fydde ni’n argymell eu cadw nhw ddigon pell oddiwrth plant bach ac anifeiliaid. |