Cyfweliad efo Mountain Men Anonymous

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

Ysgrifennwyd y cyfweliad yma efo Mountain Men Anonymous yn 2001 efo’r bwriad o’i gyhoeddi yn Rhifyn 9½ o Bandiau cymreig Wythnosol.

Cyfweliad gan Anita Bhagwandas. Cyfieithu gan Debs.
Mountain Men Anonymous

Yn nyfnderoedd Caerdydd mae tri dyn a dynes, yn cael eu cydnabod fel Mountain Men Anonymous. Er eu bod nhw’n eitha ansafadwy, efo anhawster nes i berswadio dau aelod o’r band i gymryd rhan mewn trafodaeth cyfeillgar am ddamweiniau ffyrdd, Mogwai a’i gilydd.

Yn gyntaf, sut gafoch chi’r enw?

Sam: “Adam!”

Adam: “Am ryw rheswm fi sy’n dweud y stori ‘ma bob tro! Mae’n dod o glwb Americanaidd rafftio wedi’i enwi, yn syn, Mountain Men Anonymous. Ar gyfer eu seremoni initiation penderfynnon nhw y fyddai fo’n hwyl i ailgreu y peth William Tell ‘na, saethu afal o ben rhywun.  Ond mewn dull typical Americanaidd, defnyddion nhw tin cwrw a chafodd yr initiate ei saethu drwy’i lygad gan saeth, bron yn cael ei ladd, a chafodd ei dallu mewn un llygad.  Yn glefar, huh?”

Beth yw’ch cefndir cerddorol?

Sam: “Nes i chwarae gitar pan oeddwn i’n foi bach.  Roedd o’n neis ond roedd fy mysedd wastad yn drewi.  Pan ti’n bwrw pethau ti’n trystio – mae’n neis.  Dwi’n casau gitars rwan,maen nhw’n drewi o gachu, ond mae’r dyfodol yn ddisglair.”

Adam: “Sam oedd yr un ‘cerddorol’  ac oedd o ‘di chwarae gitar am oes cyn roedd unrhyw syniad o gael band.  Dwi ‘di chwarae o gwmpas efo gitars am ychydig o flynyddoedd ac mae John [dryms] ‘di bod yn bashio’r dryms am sbel rwan. Gall ein cefndir cerddorol gael ei ddisgrifio fel hyn: Sam=swn rhyfedd/electronica, um… fi=metal ac unrhywbeth swnllyd ac od, John=metal, Lorna=indie/Jeff Buckley-teip o beth.”

‘Da chi wedi’ch sylfaenu yng Nghaerdydd ond ‘da chi’n dod o Gaerloyw.  Pam ddewisoch chi i fod yn rhan o’r so-called ‘sîn Cymreig’?

Sam: “Y sîn Cymreig?  Oes sîn?  Efallai fel hen ddyn yn dal pysgod o’i gwch?  Mae angen ar Gaerloyw gael rhywbeth organic i wella ei strwythur, neu rhywbeth plutonic - fel bom.  Mae Caerdydd yn lle hyfryd; mae ganddi hi falchder, sincerity a chynhesrwydd.  Mae’n dda i fod yma.”

Adam: “Dwi’m yn meddwl o’n ni’n neud penderfyniad ymwybodol i fod yn rhan o’r sîn Cymreig.  Roedd dod o Gaerloyw’n ddi-bwynt o safbwynt cerddorol achos does neb yno’n malio dim.  Roedd dau aelod o’r band ym mhrifysgol yng Nghaerdydd so aeth o o fana.  Mae’n well gen i beidio bod yn rhan o unrhyw ‘sîn Cymreig’, i fod yn onest, achos mae’n aml yn rhy fasnachol, yn gul ac yn unremarkable, yn  fy marn i.”

Sut ‘da chi’n disgrifio’ch cerddoriaeth?

Sam: “Mae ein cerddoriaeth yn messy, yn pretentious over-blown tosh a ni ddylai fo cael ei chaniatau, ond... God forbid, mae’n cael ei annog gan ddilynwyr o rhywbeth sy’n cael ei ddisgrifio fel 'post-frigging-rockitis'. Stopiwch y lol ‘ma!  Fydd o’n cael ei stopio!  Mae’r dyfodol yn ddisglair.”

Adam: “Swnllyd? Boring? Yn mynd ymlaen ychydig? Punk-rock? Does gen i’m syniad...”

Efo pwy ‘da chi’n cael eich cymharu, ac ydi hyn yn trafferthu chi?

Sam: “Hmmm… Gad i mi weld, mae hyn yn annodd! Mae Nunspeedmewhitepony yn debyg i  Mountain Godspeed Anonymous ac mae hyn yn ddamweiniol ac yn rhannol achos o’n ni’n arfer gwrando ar yr un recordiau â’r mwyafrif o 'post-rock-Canada.’ Dwi’n bored o’r shenanigans ‘ma – dim mwy o white violin shreds a dour drones o’r Nunspeeds a’r Mountain Goats!”

Adam: “Rhag ofn ti’m yn deall be’ roedd Sam yn trio deud fana, ‘da ni’n cael ein cymharu i Godspeed You Black Emperor! yn bennaf.  Mae’n fwy accurate na’r cymhariaethau Mogwai, yn fy marn i, a tra ‘da ni dal yn cael y rhain, mae o’n cael ei greu gan bobol anwybodus sy’n clywed cerddoriaeth offerynnol a chachu’u tronnau.  Mae o fel cymharu Fugazi i Travis, jyst achos mae’r ddau ohonyn nhw’n defnyddio lleisiau a gitars.  Yn fy marn i, ‘da ni’n fwy direct na Godspeed, ‘da ni’m yn defnyddio samples a does dim violins, cellos a.y.y.b., ac mae dim ond UN drymiwr.  O, a dwi’m yn meddwl bod ni or pretentious, rhywsut.  Ond ar yr un pryd, mae’n debyg pan mae pobol yn ysgrifennu am MMA mae ‘na angen arnyn nhw ffeindio rhyw benchmark hawdd er mwyn goleuo pwy bynnag sydd yn darllen yr adolygiad/cyfweliad a.y.y.b.”

Oes bands neu berfformiwyr sydd yn eich dylanwadu, ‘te?

Sam: “Nag oes, ynglyn â’r cynnyrch, ond oes ynglyn ag agwedd. Mae Know Point yn neud beth bynnag maen nhw isho neud efo’u cerddoriaeth a’u celf, a hyn yn unig ddylsai unrhywun neud efo unhryw artform. Mae pob artform, yn enewedig cerddoriaeth, yn cael ei gyfuno i’r nether-regions o sefydlogrwydd a chymrodedd – ac mae’n sugno fel lemwn Thom Yorke!”

Adam: “Yn yr ystyr eangaf ‘da ni’n cael ein dylanwadu gan bopeth ‘da ni’n clywed, beth bynnag y dull o gerddoriaeth.  Hyd yn oed os mae o’n bland, canol-y-ffordd, radio-friendly junk – mae’n debyg bod hynny’n dylanwadu ni i wneud rhagor o sŵn.

Bandiau gorau ar y sîn lleol/cyffredinol ar y moment?

Sam: “Wyt ti’n bod yn sarcastig?  Pa sîn? Na i drio, ond tydi’r mwyafrif o’r rhain ddim yn fandiau, yn union.  Caerdydd - Know Point, Teflon Monkey. Yn gyffredinol - Seefeel, Mira Calix, Autechre, Pheonecia, Zan Lyons, Kid 606.”

Adam: “Ma’er ‘sîn’ lleol yn dlawd, yn llawn o’r un bandiau’n chwarae’r un llefydd pob wythnos – mae’n debyg ‘da ni ‘di bod yn euog o hyn o’r blaen. Teflon Monkey, Know Point a Four Track Captain ydy’r gorau o Dde Cymru ar y moment, ond yn sicr mae’r ddau diwethaf yn bell o unrhyw ‘sîn’.  A rightly so. Dros y byd, mae fy ffefrynau personol yn cynnwys Les Savy Fav a Chris Clark.”

So ‘da chi ‘di penderfynnu i atal y mediocrity gan sefydlu Anonymous Promotions?

Adam: “Ydan, a’r bai arna i, mae gennai ofn. I swnio’n businesslike am eiliad, aneliad Anonymous Promotions yw dod â bandiau ffantastig i Dde Cymru, bandiau sydd dim yn arfer dod i Gaerdydd a.y.y.b. yn bennaf achos bod y promoters yn rhy brysur yn trefnu gig arall i Terris neu rhyw wank arall. Does dim lot o fandiau experimental neu electronica yn dod i’r gorllewin a fyddai fo’n neis i newid hynny.  Chwaraeodd Delicate AWOL ym mis Mai a roedden nhw’n rili cŵl, a roedd Zan Lyons braidd yn briwsioni’r Barfly o gwmpas ei glustiau yn gynharach y mis ‘ma (Mehefin) – roedd o’n ffycin’ ffantastig, a dyn neis hefyd. Bydd Billy Mahonie yn chwarae ym mis Medi, sy’n un i’w gwilio allan amdano, ac mae ‘na gynlluniau am ragor o ddigwyddiadau yn ystod yr haf, er mae mwyafrif y cynilleidfaoedd yn fyfyriwyr so maen nhw’n diflannu yn ystod y gwyliau, sy’n neud trefnu gigs braidd yn amhosib.”

Pa mor bwysig yw llwyddiant marchnatol i chi?

Sam: “Rhoi o fel ‘ma, ‘da ni mewn band offerynnol ac mae’n debyg y gallen ni ganu a chwarae gitars mewn ffordd 'indiesque' – ond ‘da ni ddim!  ‘Da ni byth ‘di neud pres o’n cerddoriaeth, ‘da ni ‘di gwario’n pres i gyd ar y band ond ‘da ni byth yn cymryd pres ‘nôl, pwy sy’n mynd i dalu band fel ni?  ‘Da ni’n neud o achos ‘da ni angen neud o – mae’n neud ni deimlo’n well.  Pe tasai pobol yn rhoi pres i ni am ein cerddoriaeth, byddai hynny’n fonws hyfryd.”

Adam: “Mae llwyddiant marchnatol yn bwysig dim ond fel ffordd o barhau gwneud be’ ‘da ni’n neud.  ‘Sgen i’m ots os mae un person neu filiynau o bobol yn pryunu’n recordiau, ond ar yr un pryd mae’n amhosib i gadw band yn mynd heb bres.  Ond fyddai’n ddoniol i fod ar Top of the Pops, dwi’n meddwl.”

Yn gyffredinol, beth yw’r peth gorau am fod mewn band?

Sam: “Ti’n gallu ffugio fod ti’n gallu neud rhywbeth diddorol a chreadigol i’ch hen ffrindiau ysgol pan maen nhw’n gofyn be’ ‘da chi’n neud.  Mynd i brifddinasoedd gwahanol, cwrdd â phobol hyfryd, yn wir mae cwrdd â’r bobol ‘da ni ‘di cwrdd erbyn hyn yn werth o ar ben ei hun!”

Adam: “Bod mor dlawd nes mod i mewn mwy o ddyled na rhan mwyafrif o wledydd eraill?  Na, ond mae’n neis i neud rhywbeth sydd yn teimlo’n worthwhile a ‘da ni ‘di neud ffrindiau da dros y wlad, a ‘da ni’n teithio i ddinasoedd ac ardaloedd cŵl na fydden ni di cael yr amser na’r pres i weld.”

Pa mor agos ydach chi fel band, a pha priodoleddau mae pob aelod o’r band yn dod â?

Sam: “’Da ni’n agos, weithiau’n rhy agos, weithiau dim yn ddigon agos – ‘da ni’n anghydweddol dros ben fel personoliaethau ond ‘da ni’n stryglo ymlaen a helpu’n gilydd allan.  Weithiau dim ond y cerddoriaeth yn gadael i ni siarad â’n gilydd achos ‘da ni i gyd yn drist ac yn unig.  I’r band ‘ma dwi’n dod â’r priodoledd o realiti, neu syrrealiti, efallai’r ddau.  Mae gweddill y band yn dod â niceness achos maen nhw fel fy mhlant wedi’u dwyn.”

Adam: “’Da ni’n ffrindiau yn gyntaf ac yn fand yn ail.  Yn anffodus ‘da ni’n anghofio hyn weithiau, a fi yw’r troseddwr mwyaf, ond ‘da ni’n dod ymlaen yn well na’r mwyafrif o fandiau, dwi’n meddwl.  Mae’n aml yn ddoniol iawn mewn gigs, a.y.y.b., achos ‘da ni’n tueddu i fwynhau dadlau lle ‘da ni’n gweiddi croeseiriau at ein gilydd ac mae pobol yn meddwl bod ni ar fin torri fyny ond mewn ffaith ‘da ni’n deud o drwy’r amser.  Ynglyn â priodoleddau, yn siarad yn gyffredinol, mae Sam yn dod ag ysbrydoliaeth a rheswm, gobeithio dwi’n dod â threfn a rhyw fath o ysbrydiaeth, tra mae John a Lorna’n dod, weithiau, â sigarets ag alcohol ac yn atgoffa ni i beidio a chymryd popeth mor ddifrifol.  Efallai.”

Gwnaeth eich rhyddhad cyntaf, y ‘Mountain Men Anonymous EP’, yn eitha dda.  Pryd byddwch chi’n rhyddhau albym a be’ ‘da ni’n gallu disgwyl ohono fo?

Sam: “Dylsai albym fod yn y siopau mewn 4-8 wythnos, gobeithio.  Dylsech chi ddisgwyl iddo fo fod yn lo-fi, yn swnllyd, ac wedi’i melltithio efo rhyw ystyr o evil.  Mae’n ymddangos yn hen i ni rwan ac mae’n basically ein albym ‘rawk’!  Dylai fo gael ei gadw yn yr adran ‘stoner rock’ achos dya be’ mae o, yn wir.”

Adam: “Dylset ti ddisgwyl i allu troi’ch stereo i fyny oherwydd y lefels recordio, a disgwyl i feddwl “what a load of shite". Wel mae’n 60 munud o hyd ac mae arno 5 cân, so disgwyliwch i fod yn bored ond disgwyliwch iddo fo fod yn rhad a mewn pecyn digipak, gobeithio.”

Ydy’ch cerddoriaeth wedi aeddfedu neu gynyddu mewn unrhyw ffordd?

Sam: “Mewn blwyddyn ‘da ni ‘di newid o wneud rhywbeth bod lot o bobol yn neud, yn ddrwg iawn, i wneud yr un peth yn eitha dda.  Gwneud rhywbeth does neb ‘di neud yn barod bydd y cam nesaf, yn y blwyddyn nesaf byddwn ni’n gweithio ar hynny.  Efo amser gallwn ni aeddfedu rhai o’r syniadau rhyfedd sydd yn ein pennau a gobeithio bydd rhai ohonynt yn troi allan yn ocê.”

Adam: “O’n ni arfer bod yn lot distawach. A lot shiter os mae hynny’n bosib.  Ond rŵan ‘da ni’n ddlotach na ‘da ni ‘di bod erioed.”

Yn olaf dyma’r cwestiwn mae pob band yn cael eu gofyn o leiaf  100 waith yn eu bywydau: brawddeg i ddisgrifio’ch hunain a be’ ‘da chi’n rhoi i’r diwydiant cerddoriaeth?

Sam: “Erratic non-musicians yn neud sŵn uchel achos mae’n gwneud iddyn nhw deimlo’n well.  Fel grwp ‘da ni’n dod â fuck all i’r diwydiant cerddoriaeth, yn fy marn i, achos dydan ni ddim yn rhan o’r ‘diwydiant’ o gwbwl – ‘da ni’n gwerthfawrogi’r cerddoriaeth gormod i gael ein ymwneudyn y busnes.”

Adam: “Ie, dwi’n meddwl bod hynny’n cyfro’r cwbwl. Brawddeg i ddisgrifio ni? Weithiau pobol ifanc wedi gwylltio yn hellbent ar wneud sŵn da.”

Maen nhw’n siarad am eu hunain: yn amrwd, yn falch ac yn blydi talentog, byddai MMA yn anelu at goncro’r byd, ond maen nhw’n meddwl bod nhw’n shite. Does dim plesuro rhai o bobol, on’ does?