Cyfweliad efo Pep Le Pew

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

Roedd Pep Le Pew yn un o’r bandiau gorau Cymreig erioed… ffact!  Mi gafodd y cyfweliad hwn ei ysgrifennu yn 2001, ar binacl gyrfa’r band, fel rhan o Rhifyn 9½ Bandiau Cymreig Wythnosol.

Cyfweliad a chyfieithu gan Debs. Ffotos gan Lleucu Meinir.

Pep Le Pew by Lleucu Meinir  

Aelodau cynt Pep Le Pew ar y we:

MySpace: Genod Droog
MySpace: Mr Phormula
MySpace: Dyl Mei
MySpace: Y Rei

“Y peth pwysica’ am Pep Le Pew yw, bydden ni’n gwneud hyn hyd yn oed os doedd neb yn ein sylwi,” meddai baswr/canwr/MC Aron Jones, yn ddifrif.  “Dyma be’ ‘da ni’n licio gwneud eniwê.”

Tra mae Pep Le Pew yn hanfodol yn fand hip hop, mae rhywbeth yn gwahaniaethu nhw o fandiau eraill yr un arddull.  Maen nhw’n swnio’n fwy ffynci ond yn dywyllach na bandiau eraill hip hop, ac maen nhw’n cael eu dylanwadu gan amrywiaeth eang o artistiaid y bydd efallai yn dod fel syndod; gwrandewch ar eu recordiau a byddwch yn sylwi dylanwadau Marvin Gaye wrth ochr Tystion a Super Furry Animals, er enghraifft.  Mae personoliaeth Pep Le Pew yn quirky, yn ddoniol, yn gariadus, yn ddifrifol, yn serchog, yn wyllt, yn goeglyd, yn angerddol, yn greadigol ac – yn bwysicaf – yn hyfryd iawn.

Mae gan Dyl Mei—allweddellydd, samplemeister a chynhyrchydd y band—syniadau ei hun am bersonoliaethau pob aelod y band.  “Yr un mwyaf dwfn yw Aron – mae o’n meddwl am bethau mwy na’r gweddill ohonom ni,” mae’n myfyrio.  “Aron ydi’r un mwyaf hedonistic – wel, Aron a Danny – mae’n nhw’n mynd yn bollocksed mor aml â phosib.  Ed a fi ‘di’r clowns – fel Morcambe a Wise ond dydan ni ddim mor ddoniol.  Mae Dave yn fwy synhwyrol, pan dydi o ddim yn  rock star.  Mae o’r rock a roll star mwyaf unfamous yn y byd!  Ond mewn materion y band ‘da ni i gyd yn synhwyrol a ‘da ni i gyd yn gwbod beth sydd orau i’r band.”

Mae’r bois yn hapus efo’r ffordd mae 2001 wedi troi allan.  “Dyma’r blwyddyn gorau gallen ni ‘di gofyn amdano, heblaw peidio â chael cytundeb recordio a pheidio â chael blowjob gan Naomi Campbell,” mae Dyl yn gwenu.  “Roedd ein gig cyntaf ni yng Nghlwb Ifor efo Bob George ac Estella ond doedd o ddim yn dda iawn achos roedd y lle’n llawn o ffans rygbi ar y diwrnod a chafodd Cymru ei thrashio gan Lloegr.  Roedd ein ail gig yng Nghlwb Chwaraeon Porthmadog; chwythodd y PA i fyny dau funud cyn dechrau’n set so roedd rhaid i ni plygio popeth yn y DJ Mixer. Fedrai Ed ddim gwneud unrhyw scratching achos doedd dim input iddo fo, o’n i methu defnyddio’r synths, dim meics ar y dryms neu’r congas, a roedd rhaid i Aron ac Ed rhannu meic... ond aeth o i lawr yn dda.

“Ym mis Ebrill naethom ni chwarae yng Nghaerdydd efo Llwybr Llaethog – hynna oedd dechrau ein blwyddyn rili, roedd y gig yn ffycin wicked.  Naethom ni chwarae’n rili dda a roedd y gynulleidfa’m rili gwerthfawrogi fo, a roedd y sŵn yn dda.  Ym mis Gorffennaf naethom ni chwarae yn Llundain, a oedd yn brilliant

“Yr Eisteddfod a Miri Madog oedd ein uchelbwyntiau eleni.  Roedd Miri Madog yn berffaith, roedd hi’n piso bwrw tan aethom ni ar y llwyfan.  Naethom ni chwarae am awr a deg munud a roedd y crowd yn ffycin wicked.  O’n ni jyst yn ddigon meddw i fod yn atgas ond nid yn ddigon meddw i fod yn shit, a roedd lot o ddawnsio yn y gynylleidfa.  Roedd pobol jyst yn cyrraedd a ni oedd y peth cyntaf iddyn nhw weld, felly o’n nhw’n dod yn syth i’r ffrynt.  Wedyn oedd na rali Cymdeithas yng Nghaerdydd ym mis Medi; naethom ni chwarae hynna a gig yng Nghlwb wedyn – efallai mai hynna oedd yr ail gig gorau i ni wneud.”

Dwi’n dweud wrtho fod fy ffrind ‘di mynd i gig cynnar PLP ym Mhort, a wedi dweud wrtha i fod y gig yn eitha shambolic ond dal yn gig dda.  Ellai roedd hyn oherwydd meddwdod llwyr y band, dwi’n awgrymu.

Maen nhw i gyd yn chwerthin.  “Roedd rhaid i mi ysgrechain at Ed ar ôl dwy gân achos roedd o’n cysgu, yn pwyso ar wal y llwyfan!” mae Dyl yn giglo.  “O’n i jyst off y llwyfan efo fy sequencers, a roedd pobl fel fy nhad yn dod i fyny a dweud ‘beth mae hwn yn gwneud?’ a chymell botymau yng nghanol y caneuon!”

Drymiwr Dave: “Ar ddiwedd y set roeddwn ni i gyd yn gweiddi ac oedd pawb yn meddwl mai rhan yr act roedd o!  O’n ni i gyd bron yn cwffio efo’n gilydd!”

Dyl: “Wedyn naethom ni chwarae Chic, cover y Sugarhill Gang, am tua hanner awr!  O’n ni ‘di rhedeg allan o ganeuon!”

Aron: “Ond roedd pawb yn ei fwynhau so naethom ni gario ‘mlaen!”

Dyl: “Naethom ni stopio a mynd off y llwyfan, ond aethom ni ‘nôl am awr arall!  Basically roedd pawb yn y cynulleidfa yn ffycd ac isho dawnsio.  Naethom ni chwarae set techno – oedd hynna’n dda.”

Dim ond rhan o’r rhestr o gyflawniadau Pep Le Pew yn y blwyddyn diwethaf yw chwarae gigs ffantastic.

“’Da ni ‘di gwneud dau fideo eleni, ar gyfer yr un cân ond ar gyfer rhaglenni gwahanol,” meddai Dyl.  “Roedd yr un cyntaf ar gyfer Bandit, a’r llall ar ffilm go iawn dros dau ddiwrnod ym Mae Caerdydd, efo Dave yn dreifio o gwmpas mewn BMW, a fi’n... mynd â ci am dro!  Wedyn gwnaeth Cwmni Hon documentary amdanom.  Cwrddodd Lleucu (cyflwynwraig/cyfarwyddwraig) â ni yng Nghaerdydd drwyddat ti, y gig ‘na yn Sam’s Bar.  Ffilmiodd hi ni’n soundcheckio a doedden n i ddim yn meddwl amdano fo, wedyn pan o’n ni yng Nghaerdydd yn ffilmio’r fideo daeth hi drosodd a dweud bod hi isho gwneud documentary hanner awr amdanom ni.  Ac mae hi wedi tynnu ein lluniau a threfnu gig y rali.  A threfnodd Cwmni Hon i beintio ein minibus ar gyfer y documentary; roedd hynna’n cŵl.”

Mae Dyl yn para: “Caethom ni ein enwebu ar gyfer band gorau Cymraeg ei iaith yn y “writs” [mae WBW wedi clywed y fyddai PLP wedi ennill os ni fyddai’r digwyddiad wedi cael ei ganslo ar y funud olaf] a tua tri enwebiad yn Buzz Welsh Music Awards.  Mae hynna’n cŵl achos ‘sengl gorau’ roedd un ohonynt, ac o’n ni yn erbyn y Furries.”

Doedd PLP ddim yn y enwebiadau olaf, ond fel ffan y Furries, sut byddai Dyl ‘di teimo os oedd PLP wedi ennill y gwobr ‘na?  Fyddai fo wedi teimlo’n euog? 
 
“Nid yn euog, jyst... rhyfedd,” meddai Dyl.  “Achos, yn amlwg mae eu sengl yn lot well na sengl ni.  Ond mi fydd o’n smart i ennill yn eu herbyn nhw achos maen nhw wedi ennill lot o wobrau eraill.  Yn enwedig os oedden nhw wedi bod yno ar y noson.  I ddweud wrthynt i ffyc off a pocio nhw efo fy semi-erect mushroom-sized penis.”

Ydy o rili mor fach â madarchen?

“Ydi,” mae Dyl yn gwenu, “ond mae’n fadarchen hud – un lick a da’ chi yn y nefoedd!  Na, nid mushroom-sized ydi o.  Mae’n medium Chihuahua sized!”

Cyflawniad arall yn ystod 2001 – a chymerodd mwyafrif o’r flwyddyn i ymddangos – yw albym debut Pep Le Pew, Y Da, Y Drwg Ac Yr Hyll, a rhyddhawyd ar eu label MPLP jyst cyn y Nadolig. 

“Mae’r label yn gwmni gyfyngedig a ‘da ni i gyd yn gyfarwyddwyr,” meddai Dyl.  “Dave yw pen y cwmni a ‘da ni’n gyfarwyddwyr.  Mae’r pres yn dod o gigs a Dave.  Rhyddhau’r albym ein hunain yw ein unig ffordd o wneud pres o’r albym, achos ni fyddai hyd yn oed y cwmniau gorau recordio yng Nghymru yn talu digon o royalties.  Gwnaeth Zabrinski pres gan wneud eu halbym ar ben eu hunain so mae’n werth trio.  Os ‘da ni’n gwneud pres ohono fo gallen ni wario fo ar gyfarpar gwell neu gwneud albym gwell y tro nesaf.”

Mae Pep Le Pew yn fand sydd yn aml yn deud pethau am gerddorion eraill a’r sîn Cymreig yn gyffredinol, a tydi heddiw yn eithriad.

“Does neb yn mynd i gigs yng Nghymru dim mwy,” meddai Dyl.  “Ti’n mynd i gigs ac mae’r bands yn shite, yn arferol.”

“Ac mae’n rhatach i gael DJ”, meddai Aron.

“Dwi’n meddwl fod hyny’n wir dros y wlad,” meddai Dave.  “Dwi’n meddwl mae’n bwysig i fod yn wahanol i drio dod â’r club crowd yn ôl i’r gigs.”

“Ond mae rhai o’r bandiau jyst mor shit!”mae Dyl yn chwyrnu.  “Mae ‘na fandiau galla i feddwl am yng Nghymru a fedrwn i fynd â nhw i’r llys a phrofi eu bod nhw’n shit! Ond chwarae teg i Radio Cymru” – mae gan Dyl y synwyr i gyfadef bod rhywun wedi gwneud ffefryn iddyn nhw – “mae’n nhw wedi rhoi shitloads o gefnogaeth i ni, mae’n nhw wedi bod yn grêt a ‘da ni methu curo nhw.”

Dechreuodd y band tua Hydref 1998.  Mae Aron a Dyl wedi bod yn ffrindiau ers ysgol ac oeddynt wedi bod yn arbrofi am tua 5 mlynedd yn y stiwdio lle mae Dyl nawr yn byw a gweithio.  Yn y cyfamser oedd Dave wedi rhoi’r gorau i’r dryms am 5 mlynedd tra oedd o’n byw yn Llundain, a phan daeth o yn ôl ymunodd â’r band a oedd yn defnyddio’r stiwdio, lle cwrddodd o ag Aron. Cariodd Dave ac Aron ymlaen fel two piece, dim ond bas a dryms, yn jamio, wedyn ym mis Ebrill llynedd wnaeth Aron gyflwyno Dave i Dyl, joker y band.

“Roeddwn i bob tro yn yr ystafell gefn yn gwneud alawon,” mae Dyl yn esbonio, “a wedyn nes i adael coleg a ddechreuais byw yn y stiwdio – gwrthais i fynd adre!  Heblaw i ddeud helo wrth y teulu...”

Mae Dave yn parhau’r stori.  “Roedd Aron a fi’n wracking our brains. ‘Lle allwn ni ffeindio aelodau newydd neu gerddorion eraill?’  O’n i’n edrych am rywun penodol i wneud yr un dull o gerddoriaeth, a naethom ni feddwl... Dyl! Roedd o mor agos i ni, do’n ni’m hyd yn oed yn meddwl amdano.  So pan gofynnom ni, dywedodd ‘ie’ a dyna dechreuad go iawn y band.”

Beth oedd enw’r band i ddechrau?

Mae Dave yn gwennur: “Pep Le Pew, efo’r ‘e’!” – dwi’n cydnabod, yn dawel, cyfeiriad Dave at fy nghamsillafu o enw y band ar wefan WBW.

Dyl: “Dywedais wrthynt ni fyddwn yn ymuno â’r band efo’r ‘e’, oherwydd y copyright.

Dave: “’Wsti, Warner Brothers a ballu.  So diflannodd yr ‘e’.  Naethom ni newid o’n ôl ac mae o wedi glynu o hyn ymlaen.  Ac mae Pep Le Pew yn ychydig o skunk reference hefyd!”

Dyl: “Cyfeiriad cuddiedig at gyffuriau, basically.”

Heb ei guddio’n dda, dwi’n deud wrtho, achos nes i spotio fo y tro cyntaf y glywais yr enw... beth yw’ch cofion gorau’r blwyddyn diwethaf?

“Cof gorau fi yw ein cân olaf yng Nghlwb Ifor Bach yng gig y rali,” meddai Dyl.  “Wnaethom ni ddim encore ond naethom ni chilio fo lawr ychydig, a roedd Aron, Danny ac Ed yn ysgrechain at y torfeydd.  Do’n ni’m isho stopio chwarae, o’n ni isho cario ymlaen am fil o flynyddoedd.  Yr llall yw clywed Y Mwyafrif ar Radio Cymru am y tro cyntaf.  Cof mwyaf doniol yw Maes B, bod yn feddw a chael laugh, cymryd y piss allan o bobl, ac ar y llwyfan ym Miri Madog, ymosod ar bopeth sy’n anadlu.  Wnaethom ni gig rhywle, wedyn aethom ni ‘nôl i dŷ rhyw ferched am barti a wnaeth pawb crashio allan heblaw fi a Danny, so penderfynom ni i gwneud uffern o mess cyn gadael, a naethom ni guddio eu hagoriadau. Roedd Aron isho gadael y nwy on, ond naethom ni stopio fo.  Wedyn roedd y fight ‘na yng nghefn dy gar efo Iwan Evans o Topper, roedd hynna’n mad, yn sefyll yn y stryd efo fy mam yn gweiddi arna i... very rock ‘n’ roll!  Cael jam efo Anweledig yn ei bws yn y steddfod... oedd hi’n piso bwrw tu allan ond o’n ni’n eistedd yn y bws yn chwarae miwsic summery. Mae hynna’n gof da.”

Dwi’m yn siwr iawn sut i ddisgrifio sŵn Pep Le Pew, dwi’n deud wrthynt.  Oedden nhw’n gwybod yn y dechrau pa fath o sŵn oedden nhw’n bwriadu cael, neu wnaeth o ddatblygu’n wraddol?

Mae’r bois yn ymddangos yn benagored sut i ateb y cwestiwn.  Mae Dyl a Dave yn deud ‘naddo’, ond mae Aron yn deud ‘do’.

“O’n ni i gyd yn dysgu,” meddai Dyl, wedyn mae’n cyfaddef: “O’n i jyst yn blagio fo yn y stiwdio.  Doedd gen i’m ffyncin’ syniad!”

Aron: “O’n ni’n deud wrth bobol, ‘sti, ‘mae gennym loads o ganeuon, ‘da ni yn y stiwdio, yn recordio’ ond doedd gennym ddim caneuon!”

“Wel, roedd ‘na dwy gân,” meddai Dyl.  “Un o’r enw Diflannu, a wnaethom ni fideo iddo.  ‘Na ein cân gyntaf.”

“Yeah, ond naethom ni ddweud wrth pawb fod o’n albym!” mae Aron yn chwerthin.

“Roedd gennym honna a chân o’r enw Feel Good,” mae Dyl yn chwerthin.
“Cafon ein ymddangos ar Bandit dwy flwyddyn a hanner yn ôl, yn y Globe ym Mangor,” mae Dave yn chwerthin. “Roedd gennym dim ond yr un cân, ti’n cofio?  Dim ond ti a fi, Aron.”

Mae Aron yn cofio.  “Naethom ni ddweud o’n ni’n fand drum and bass – dyna’r unig offeryn oedd gennym!”

Ers bod yn fwy sefydledig, ydyn nhw wedi gwethio allan eu agenda?  Oes ganddynt uchelgeisiau mawr a ffordd i’w cwblhau?

Mae’r band yn edrych yn benagored.  Mae Aron yn deud, yn araf: “Wel, ‘da ni dal yn fand ifanc, yeah?  ‘Da ni’ ‘di bod efo’n gilydd dim ond ers y ‘Dolig.  Ond ‘da ni’n mynd i gario ymlaen am ddeg mlynedd arall, o leiaf.”

“Ac yn amlwg mae’r miwsic yno ac mae’r cyfrwng yno i gael eu iwsio... dim offence...” mae Dave yn edrych ychydig yn rhwystrus.  Dwi’n cytuno efo fo.  Mae’n sicr fod WBW yn bodoli i helpu hyrwyddo bandiau fel Pep Le Pew, ond yn sicr nid i wneud pres. 

Mae Dave yn ymlacio.  “Os does dim bands ni allai’r gwasg cerddorol fodoli, so, ‘wsti... mae o yno i gael ei defnyddio.”

Os mae’r cyfryngau yno i gael eu defnyddio, beth fydd y bois isho i bobol ddysgu amdanynt o’r cyfweliad yma?

Dyl: “Os mae pobol yn dod i’n gigs wedi torri’u gwallt, gallen ddod i mewn am ddim!  Bydd rhaid iddynt ddod â llun o sut edrychon nhw cynt, wedi’i llofnodi gan ddoctor, wedyn gallan nhw dod i mewn am ddim!”

Aron: “Da ni isho bobol i wybod fod ‘na gerddoriaeth yn cael ei creu sydd yn wanhanol i fandiau eraill o Ogledd Cymru.”

Dyl: “Dydan ni ddim yn typical North Wales shite folk band!”

Ond da chi ddim yn unig “typical hip hop”, chwaith…

Aron: “’Da ni’n mongrels! Mae ‘na Gymreictod yno, heblaw’r geiriau.  Mae ‘na sŵn Cymreig.”

Dyl: “Mae’n ychydig yn fwy depressed na hip hop.”

Dave: “Mae o fel indie hip hop, mewn ffordd.”

Dyl: “’Na lle mae Cymru’n mynd yn wrong, yn gerddorol – mae pawb yn hapus!  Ffyc off, hapus!  Ti’n byw yng Ngymru yng nghanol y mynyddoedd, dim yn ffycin’ Califfornia!  Mae’r torf yn meddwl, ‘Pam ‘da chi mor ffycin’ hapus?!’ Ffycin’ hel!  Dyna pam ‘da ni’n wahanol!”

Beth yw’r peth mwyaf weird ‘da chi ‘di samplo erbyn hyn?

Mae Dyl yn myfyrio.  “Y peth mwya’ dychrynllyd dwi ‘di samplo... does neb yn fy nghredu ond mae gen i dyst.  O’n in yn y stiwdio un diwrnod ac o’n i’n bored so nes i feddwl am samplo’r gwynt; ‘wsti pan mae’n dod drwy’r drws, yn mynd “whoooo”?  So nes i samplo fo, a phan nes i chwarae fo ‘nôl roedd ‘na sŵn bach.  Nes i feddwl, ‘be ffwc oedd hynna?’  Nes i edit y sampl er mwyn clywed y sŵn yn glirach a swniodd o fel llais, ond yn rili ffrici, so nes i chwaraeo o tu ‘nôl ymlaen a dywedodd “enw fi ydi Henri” so nes i gachu fy hun, rhoi’r sampler i ffwrdd ac es i i’n ngwely.  Yn y bore chwarais o i Morris [perchennog y stiwdio] ac oedd o’n siwr o’n i ‘di neud o fy hun.  Ond Henri oedd enw taid Morris a fo oedd hen berchennog y stiwdio...

“Y samplau mwya’ rhyfedd... nes i recordio Dave yn neud trac percussion gan daro’r ceiniogau yn ei boced, a chwaraeais gitar bychan yn intro Y Da, Y Drwg Ac Yr Hyll.  O’n i isho samplo rhywun yn cael ei ffwcio dros y drumkit!  Neu rhoi meic i fyny rhyw ferch a flicio ei asgwrn pubic a recordio’r sŵn!  Dwi’n chwilio am gwirfoddolwyr am hynna!  Internal audio!

Os mae 2001 ‘di bod yn flwyddyn o gyflawniadau enfawr, be’ sydd ar ôl i gael ei gyflawni yn 2002?

“Swn i’m yn meindio cael ffans, fydd hynna’n neis,” meddai Dyl.  “Swn i’m yn mendio cael record deal, hyd yn oed label bach indie. Fydd o’n neis i beintio ochr arall y minibus.  Hoffwn i ryddhau ein albwm nesa, albwm Saesneg, o ansawdd uchaf na’r un diwetha’.  Ac ar ôl hynna, album sydd dim ond yn y Gymraeg.  Pe tasai gennym ddigon o amser hoffwn i licio rhyddhau albymau Saesneg a Cymraeg ar yr un pryd, mae’n well i gael albymau un iaith na gwneud cymysg o’r ddau ar un albwm.”

Mae ‘na lot o bobol y fyddai’n cwyno pe tasech chi ryddhau albwm Saesneg – be’ tasech chi’n dweud wrthynt?

“Ffyc off!” mae Dyl yn rhythu, yn ei ffordd plaen arferol.  “Dwi’m isho cael fy ngwthio gan bobol fel hynna i beidio â gwneud be’ dwisho gwneud.  Dwi’m yn meddwl ddylswn i fod yn ofn wneud rhywbeth yn Saesneg rhag ofn fydd rhyw ffyc yn dod ymlaen a llosgi’r tŷ gwyliau drws nesa i dŷ fy nain.  Os ‘da ni’n gwneud albwm Saesneg gwnawn ni ymateb efo albwm sydd yn 100% Cymraeg.  Fydden ni’m yn dumpio’r iaith Gymraeg, ein famiaeth ydi hi a’r iaith sy’n well gennym, ond weithiau ‘da ni’n ysgrifennu caneuon yn Saesneg.  Mae’r Super Furries wedi gwneud mwy ar gyfer yr iaith gan wneud Mwng rwan, nid eu halbwm cyntaf.  Ond dwi’m yn ffan o fandiau sydd yn dumpio’r iaith, dwi’m yn licio hynny.  Gwnaeth Catatonia hynny - dwi’m yn licio’r agwedd ‘na.  Os ddechreuaist ti ganu yn y Gymraeg dylset ti aros efo’r Gymraeg, neu ti’n iwsio fo i fynd ymlaen yn y wasg a phan chi’n mynd yn fawr chi’n dropio’r iaith yn llwyr.

“Mae rhagor o bobol wedi clywed yr iaith Gymraeg drwy SFA b-sides a Mwng na tasen nhw ‘di clywed ar radio Cymraeg,” mae Dyl yn para.  “Does dim pres am ganu’n ecsglwsif yn y Gymraeg, onibai ti’n Bryn Fôn.  Colli’r iaith byddai’r peth gwaethaf y gallai ddigwydd i Gymru.  Mae S4C yn having a go ar fandiau am ganu yn Saesneg, ond dydyn nhw ddim yn barod i wneud yn siwr eu bod nhw’n gallu syportio’r sîn Cymraeg.  Mae’n ffiaidd ni all gwlad syportio ei sîn cerddorol.  S4C, mae ganddynt miliynau, mae ganddynt y pres, mae nhw’n dangos hyn gan dalu actorion Pobl Y Cwm mwy o bres mewn blwyddyn na mae mwyafrif o bobol yn ennill mewn deg mlynedd, wedyn mae’n dod ymlaen a dumpio’r sîn cerddorol.  Mae band yn gwario tua mis yn creu albwm, maen nwh’n mynd allan yn neud gigs am £100 neu £200 acc mae’n ennill £500 am wneud fideo... Caethom ni £500 rhwngddom ni o Boomerang am wneud fideo, ac mae’n deg achos maen nwh’n talu am y fideo ac ar diwedd y dydd ‘da ni’n cael fideo am ddim ohono fo.  Ond efo rhai eraill o’r cwmniau TV, ti’n cael pennies mewn cymhariaeth i be’ mae’r cynhyrchwyr yn ennill, a heb y bandiau ni fyddai sioe TV.  Heb y sioe ni fyddai comisiwn, heb y comisiwn ni fyddai pres, heb y pres ni fyddai jobs...so mae rhaid i’r bandiau Cymraeg eistedd mewn distarwydd a dioddef tra ‘da ni’n rhoi jobs yn y cyfryngau i bobol yng Nghymru.”

Yn olaf, cwpwl o gwestiynnau dim ond i Dyl, wrth ystyried pa mor imaginitive yw ei atebion.  Be’ ti isho ar gyfer y ‘Dolig?

“Plentyn bach Afghan.  Na.  Swn i’m yn meindio cael trwmped, violin, grand piano, ffliwt, obo a cherddorfa yn y toiled.  Yn ddifrifol, swn i’m meindio diwedd i’r safle America/Afghanistan, achos dwi’m isho cael fy drafftio.  A dwi isho cwrdd â Santa Claus er mwyn ei guro fo a dwyn ei degannau.”

Oes gen ti neges arbennig i ddarllenwyr y cyfweliad ‘ma?

“Does dim Santa Claus.  Na.  Prynnwch yr albwm a chewch Nadolig ffycin’ llawen.  A trowch i fyny i’n gigs.  Stopiwch gwrando ar fandiau shit. A stopiwch smocio a peidiwch â cymryd cyffuriau, hyd yn oed paracetamol.  Jyst deal with it.  Nid hyd yn oed caffeine.  Dim ond clean living.  Na, actually.  Cymerwch cyffuriau.  Dylsai pawb gymryd cyffuriau, smocio dôp a chymryd yr od bit o smack.  Pleidleiswch dros Pep Le Pew yn yr etholiadau nesaf. Prynnwch ein albwm.  Anfonwch eich plentyn i’r ysgol, mae hynna bob tro’n tip dda.  Prynnwch pob record y Super Furries er mwyn galluogi nhw i gael y number 1 eu bod nhw’n haeddu.  Peidiwch â mynd i weld gigs Maharishi neu Gogz.  Byth.”

Hoffai Pep Le Pew ddiolch i Morris o Stiwdio Blaen Y Cae, Garndolbenmaen, am ei help a chymorth yn ystod y blwyddyn ddiwethaf.

Pep Le Pew by Lleucu Meinir

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pep Le Pew by Lleucu Meinir

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pep Le Pew by Lleucu Meinir

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pep Le Pew by Lleucu Meinir

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pep Le Pew by Lleucu Meinir

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pep Le Pew by Lleucu Meinir

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pep Le Pew by Lleucu Meinir

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pep Le Pew by Lleucu Meinir

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pep Le Pew by Lleucu Meinir

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Pep Le Pew by Lleucu Meinir