Cyfweliad ecsclwsif efo Swci Boscawen

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

Mae Swci Boscawen yn siarad efo Bandiau Cymreig Wythnosol am Debbie Harry, John Cale a'r toiledau yng Nghlwb Ifor Bach...

Cyfweliad:  Louise Ostrowska. Cyfieithu: Angharad Griffiths

Mared Lenny yw Swci Boscawen — enw sy’n dod o’r Gymraeg am ‘oen llywaeth’ a ‘ryw fath o flodyn, falle o Geirnyw’ yn ôl y ferch ei hun.  Yn dod o Gaerfyrddin, ma hi wedi bod yn rhan o’r sîn roc Gymraeg am degawd.  Yn dechrau ei gyrfa yn ei harddegau fel prif leisydd y band pync roc Doli ac ers 2004 ma hi wedi bod yn perfformio fel Swci, yn lledu’r neges pwer pop trwy Gymru a thu hwnt.  Ma Mared hefyd yn canu a chwarae allweddellau i prosiect solo Alex Dingley o Texas Radio Band.  Dros y flwyddyn diwethaf ma hi wedi bod yn andros o brysur – rhyddhau albym cyntaf Swci, Couture C'Ching, teithio dros yr Atlantig a pigo lan dau gwobr tra wrthi.  Llwyddes i cael gafael ynddi am chat cloi a dyma’r canlyniadau…. 

So Mared, eleni nes di ennill Artist Benywaidd gorau yn Gwobrau Roc a Phop Radio Cymru.  Sut oedd hynna?

“Odd e’n ddoniol mwy na dim!  O ni’n temlo mas o le a eisiau rhegi pen fi off and bod yn wirion ond ges i ddim amser i gael piss.  O ni cadw colli’r gwobr ei hun a fi’n credo oi ni’n trio swapio fe am vodka tonics erbyn diwedd!”

Mis Ebrill eleni a blwyddyn diwethaf nes i deithio i Efrog Newydd a chwarae dau gig.  Sut nath gynulleidfa’r Afal Mawr ymateb i pwer pop Cymraeg?

“Fi’n credu ath e’n dda, odd e’n wych!  Nes i neud ‘open mic’ ar noson enwog ‘anti-folk’ boi o’r enw Latch.  Odd y gynulleidfa’n edrych yn confused i ddechrau, ond erbyn y diwedd o nhw fel, ‘hey, Welsh girl, we don’t understand a word you’re saying but we LOVE you”
 
Tra oeddet yn Efrog Newydd nes di siarad gyda John Cale.  Beth oedd e fel?

“Ma gyda fe llais dwfn, atseiniol sy eitha caled.  Dim yn anhebyg i sut fi’n dychmygu fel ma Duw yn siarad.”
 
Sut ma’r newidiadau yn y ffordd ma’r PRS yn talu artistiaid sy’n cael ei chwarae ar Radio Cymru wedi effeithio arno ti?

“Yn enfawr.  Mae’n anodd siarad amdano fe achos ma fe mor shit ennill llai o arian am dy waith.  Ond, falle bod e’n cic lan y pen-ôl i lot o bobol.  Bydd rhaid i ni aros i weld beth fydd y canlyniad.”

Wyt ti’n credu od cyfiawnhad gan y PRS am newid statws Radio Cymru o orsaf cenedlaethol i orsaf lleol, achos ma nhw’n gweud bod y gwrandawyr yn gynulleidfa lleiafrifol?

“Mae’n hyrt.  Y broblem gyda’r PRS yw dy nhw erioed wedi deall Cymru yn iawn a sut i ni’n eistedd gyda gweddill y DU.  Sa’n credu bod nhw erioed wedi gweld pethe o safbwynt ni.  Fe all pethau fynd yn gawl, so tan bo nhw’n dod i benderfyniad, fi’n cadw’n dawel – i’m iechyd ar y lleia!

Fi wedi gweld ti’n cael dy ‘mobio’ gan merched yn toiledau Clwb Ifor Bach mwy nag unwaith – sut ti’n ymdopi gyda hyn?

“Mae’n eitha funny achos ma fe wastad mewn gigs Cymraeg a ma pob toilet yn dawel – heblaw rai sibrydion – tra fi’n trio pisho, sy’n gallu bod eitha off-putting!  Fi’n credu bod rhai merched ddim yn siwr sut i gymryd fi i ddechrau, ond ma nhw’n dod i weud helo a ma popeth yn iawn wedyn.”
Debbire Harry yw dy eicon.  Be fydde ti’n neud tase hi’n galw draw i ofyn os ti eisiau mynd mas am y dydd?

“Wel, bydde rhaid i fi ofyn cwpwl o gwestiynau yn gyntaf fel sut ddiawl nes di ffeindio fi a alle ti mabwysiadu fi?”

Ti wastad yn edrych yn ardderchog.  Unryw tips ar gyfer darllenwyr Welsh Bands Weekly?

“Fy unig ateb yw – sy bach yn cheesy – ond i edrych ar ôl eich hunain…a defnyddio sweet almond oil.  Byddai’n defnyddio fe am byth!”

Beth yw dy hoff math o ‘bollard’?

“Aha! Y cwestiwn ‘bollard’! Sta fi ddim ateb achos mae’n gwestiwn mor frwnt!”

Be sy ar y gweill gyda ti blwyddyn nesa?

“O! Pethe mawr iawn. Ti’m yn cael mwy na ny!  Sai’n gwbod beth neith ddigwydd blwyddyn nesa.  Ma pob blwyddyn yn sypreisio fi – a ma’r flwyddyn yma di neud e eto.”

------

Arhoswch, ma mwy!  Ma Mared wedi bod yn ddigon hael a mynd a ni trwy ei albwm, Couture C'Ching, trac wrth drac.

Coc Roc

“Dyw e ddim am cocks!  Nath e ddechre off gyda un guitar riff wanky mewn steil ‘cock rock’.  Nes i sgwennu’r geiriau tra’n eistedd wrth ffenest yn East Village.  Ma fe amdano’r dydd cyfan, sylwi ar pethau bach fel gweld rhywun yn rhedeg lawr y stryd ar ôl person arall yn neidio dros bins ac o ni ddim yn siwr os o nhw’n chasio’i gilydd neu cael ras.  Mae’n gan gyda teimlad da iddo fe – fel rhanfwyaf o rhai Swci.  Hefyd, dyma’r tro cyntaf i Chef Kwan (gynt o’r Tystion) canu gyda ni!”

Couture C'Ching

“Y can gloiach sy byth wedi cael ei recordio!  Ma fe amdano ffansasi fi o ddwyn loads o arian i fwydo fy habit o fasiwn.  Fi’n caru couture, ond byddai byth yn gallu affordio prynnu fe!  Fi ar misiwn i rhoi copi o’r gan i Marc Jacobs iddo fe cael chwarae fe yn un o sioeau ffasiwn e.”

Rhedeg

“Ma fe amdano rhedeg a teithio.  Fi wastad eisiau jyst mynd rhwle a ma hyn amdano neud popeth heb baglu a cwmpo drosodd.”

Shwgwr

“Can Gruff (MC Mabon) yw hwn.  Nath e weud wrthai’n ddiweddar beth odd e gyd amdano a ges i sioc – nath e gyffwrdd a’m calon.  Ma fe amdano rhywun ni’n nabod sy wedi neu yn dal i fynd trwyddo rhwbeth a ma nhw’n cymryd lot o siwgwr yn te nhw!”

Ballad Jim Jones

“Dyma cyfer Brian Jonestown Massacre.  Lle i fi’n dechre?  Y band mwya fucking mental fi wedi gweld a ma gyda nhw’r caneuon mwya catchy, seedy a real fi byth wedi clywed.  Nethon ni’r gan ar hap a damwain a nath y band ei hun rhoi ei bendaith iddo fe, ac odd hwna’n fucking amazing.”

Swci

“Jyst Swci!”

Gweld ti Rownd.

“Odd ffrind fi Mel mewn band gyda’i ffrind Darron (Pink Assassins) ac ar ol nifer o nosweithi meddwol o hi’n chwarae hen CDs o’i caneuon o ni ffaelu cael 2 can mas o’m mhen.  Gofynes i os bydde ni’n gallu cyfero dau can mewn un – yn meddwl bydde dim siawns o gwbwl.  Ond o ni’n rong!  Y diwrnod nath Mel ddod mewn i’r stiwdio i glywed e o ni wedi lleoli’n hunan mewn cornel yn ffaelu anadlu o’r ofn.  Ond, odd hi’n caru fe ag o ni’n teimlo’n falch.”

Min Nos Monterey

“Ma fe amdano gyrru gyda’r nos, yn breddwydio am rhwle bell i ffwrdd…”

Contutti

“Mae’n meddwl ‘cont wyt ti!’. Can fach o ni’n teimlo fel neud.  Ma fe amdano trio curo rhwbeth neu rhywun ti’n gaeth i.  Mae’n swnio’n sinister yn gerddorol, ond mae’n gan positif!”

Adar y Nefoedd.

“Amdano pobol sy ddim o gwmpas bellach ag o ni ddim eisiau anghofio nhw.”

Ma Couture C'Ching gan Swci Boscawen mas nawr ar Fflach ac ar gael mewn siopau recordiau annibynnol ar draws Cymru.

Swci Boscawen

 

 

 

 

 

Swci Boscawen