‘“Mae Coffi yn odli hefo Toffi”’ – dyna mae’n dweud ar yr arwydd sydd uwch ein pennau mewn caffi yng nghanol Caerdydd. “Dyna i chdi lwyth o bolocs, fysa chdi’n gallu rhoi arwydd hefo ‘Mi welais Jac y Do’ i fyny yn fana a fysa pobol yn dal i wirioni eu tinau!” oedd ymateb Rhodri Viney.
Mae’r dyn a elwir yn Teflon wedi cael blwyddyn anghygoel, a phrofiadau y bysa rhan fwya o bobol ifanc 19 oed mond yn gallu freuddwydio amdanynt. O chwarae i lond llaw o bobol heb unrhyw ddiddordeb ddechra’r flwyddyn, mae o wedi rhyddhau EP hefo caneuon sydd yn cynnwys geiriau medrus ac aeddfed na welwn mo’i math yn aml. Mae o wedi ymddangos ar albwm wych Gorky’s- How I Long To, ac hefyd wedi chwarae i filoedd o bobol pan yn cefnogi Super Furry Animals ar eu taith lwyddiannus o ddinas i ddinas Furrymania. Rhyddhawyd ei sengl, Farming In Space, ar label Placid Casual, sef label y Furries’. Gofynnais iddo os oedd o’n poeni y byddai pobl yn sylwi arno am y rhesymau anghywir.
“Dim o gwbwl” meddai “Mae’r Super Furries a Gorky’s wedi sylwi arnai am y rhesymau iawn, ac yn amlwg wedi hoffi be ma nhw’n glywed yna dwi’n gobeithio y gwneith pawb arall hefyd. Mae unrhyw sylw yn werth ei gael i fod yn onest, ond wedi deud hynna dwi ddim am swnio fel rhywun sy’n hwrio fy hun i’r cyfryngau!”
Sawl copi o’r EP sydd wedi gwerthu?
“Dim syniad! Ond gan dy fod yn gofyn y cwestiwn efallai bod well i mi ffendio allan. Mae’r sengl wedi cael cryn dipyn o sylw ar y radio, mi wnaeth Adam Walton chwarae’r hi unarddeg o weithie mewn pythefnos! Ac wrth gwrs mae wedi cael ei chwarae ar Radio Cymru, Radio Wales a rhaglen Huw Stephens. Mi wnes i rywfaint o gigs acwstig i drio gwerthu’r EP, ond chydig iawn o bobol oedd yn prynu. Ond dwi’n deall bod Spillers wedi gwerthu llawer mwy yn dilyn y gig CIA. Mwy na thebyg ein bod wedi cyrraedd y brig o ran gwerthiant rwan.”
Wedi chwarae ar ei ben ei hun am oddeutu blwyddyn, cyhoeddodd Rhodri yn ddiweddar ei fod yn ffurfio band gan ddal i ddefnyddio’r un enw, Teflon Monkey, ond gyda sain swmpus band llawn. Beth yw’r rheswm am wneud hyn?
“Ges i lond bol ar berfformio ar ben fy hun dro ar ôl tro a roeddwn i’n teimlo bod o braidd yn undonog. Mae gymaint fwy o hwyl i gael hefo band, cyfeillgarwch ac mewn undeb mae nerth a ballu! Caneuon Teflon Monkey fyddwn i’n dal i berfformio.”
Fydd y band yn perfformio ar yr albwm?
“Na, dim ond fi fydd hwnnw unwaith eto, ond mi fydd yna dipyn o dryms. Mymryn, fel White Stripes, ond gwell! Ddylia’r albwm gael ei ryddhau ym mis Ebrill, a sengl ym mis Mawrth. Mi fyddai’n recordio yn Sylem [stiwdio recordio Melys] yn fuan.”
Ar label Placid Casual eto?
“Na, ar label Multiball Records label recordio un o’n ffrindiau.”
Sut dechneg cyfansoddi sydd gan Rhodri? Ydi’r senario ohono yn cerdded lawr y stryd hefo alaw yn ei ben yn ddelwedd realistig? Neu ydio’n fater o gael sesiynau cyfansoddi caneuon?
“Mae’r senario cyntaf o gael alaw yn fy mhen wedi bod yn digwydd mwy yn ddiweddar, mi fyddai wedyn estyn y gitar a cychwyn cyfansoddi. Ond weithia mi fyddai’n cychwyn drwy chwara’r gitar a gweld be sy’n digwydd. Fyddai weithia yn ceisio troi syniadau gwael i mewn i syniadau da” meddai Rhodri. “Chwilio am ysbrydoliaeth, lle bynnag y gallaf’. Os ydi rhywbeth yn ysbrydioli rhywun, fedar o ddim bod yn beth drwg, dim fel arfer o leia. Gall pethau drwg a pethau da ysbrydioli ond lle mae ysbrydioliaeth yn y cwestiwn dwi ddim yn credu bod y fath beth ag ysbrydiolaeth drwg; os ydi hynny’n gwneud sens!”
Fedar o roi enghraifft o bethau sydd wedi ei ysbrydioli neu ddylanwadu arno?
“Julian Cope yn ddiweddar, ond eto mae hynny’n rhywbeth sydd yn newid yn ddyddiol…. yn wythnosol. Rwy’n dueddol o fod isio swnio yn debyg i beth bynnag sydd yn fy mhen ar y pryd! Rwy’n hoff iawn o Datblygu er enghraifft… mae dylanwadau ym mhobman… llyfrau… ffilmiau. Catch-22 yn sicr yw fy hoff lyfr.”
Dwi’n cytuno, un o’r llyfrau yna mae rhywun yn gallu ddarllen dro ar ol tro heb ddiflasu.
“Yn hollol. Hunter S. Thompson, hefyd – Fear and Loathing in Las Vegas. O ran cerddoriaeth, dwi’n ffendio hi’n anodd cael fy nylanwadu gan fandiau modern, yr unig ffordd ydi gwrando ar fandiau ti’n gasau a trio swnio’n wahanol iddyn nhw!. Dwi’n casau ‘Corporate indie’.”
Gall dylanwad chwithig yn aml fod cystal os nad mwy effeithiol na dylanwad uniongyrchol.
Oherwydd ei fod wedi gigio mor helaeth a be mae, gofynnaf i Rhodri os oes ganddo hanesion diddorol am ei brofiadau i rannu hefo ni.
“Dim llawer, wir,” meddai. “Dwi di wedi bod yn chwara yn bennaf yn ardal Gaerdydd a does na ddim llawer o bethau difyr yn digwydd i fi, er, wedi dweud hynny dwi wedi malu nifer o gitars mewn gigs yn ddiweddar – trio rhoi dipyn o roc ‘n’ rol i mewn i gerddoriaeth acwstig. Mae pobl yn synnu fy ngweld i’n gwneud hynny, ond dim ots, dwi am gario mlaen i falu nhw, achos bod o’n hwyl! Mae o’n rhwystredig methu mynegi dy angerdd wrth blycio’r gitar” chwarddodd Rhodri “felly dwi wedi prynu gitars rhad yn ddiweddar er mwyn rhoi abiws iddynt a’u taflu nhw o gwmpas.”
Ydio wedi cael profiadau gwael mewn gigs?
“Y gwaetha … heb os, oedd gig yn Manceinion, hefo Mountain Men Anonymous – Dwi wedi chwarae dipyn hefo nhw a mae nhw’n fand da iawn – ond yn y gig arbennig yma, dim ond tri o bobol wnaeth droi fyny i wrando, a roedd hynny ar ol i fi chwarae! Mae rhywun yn tueddu i feirniadu gig ar ymateb y gynulleidfa ond yn fama. doedd na ddim cynulleidfa. Dim ond Mountain Men Anonymous a’r band arall oedd yn chwara. Rwy’n casau ail fyw y profiad hwnnw!”
Ydio’n anodd ar y lefel yma gwneud digon o incwm i afforddio’r holl gitars ma ti’n brynu a’u malu?!
“Mae’n gallu bod yn anodd, Dwi’n sicr ddim yn cael digon i wneud bywoliaeth ar y funud. Dwi’n cael ambell i hannercanpunt am gig, a weithiau ambell i ymddangosiad ar y teledu neu radio. Mae’n cynyddu dros amser wrth gwrs, ond eto dio’m yn ddigon. Y sefyllfa delfrydol i fi fysa gallu gwneud hyn fel bywoliaeth ond fel mae petha, dwi ar y dôl ac yn dal i chwilio am waith ‘iawn’ fel ma nhw’n deud. Mae arian yn broblem pan does gen ti ddim. Ac ar hyn o bryd, mae gennai ddigon, am y tro.”
Gofynnaf i Rhodri am y gair olaf ac os oes ganddo rywbeth rywbeth grymus i ddweud i gloi’r cyfweldiad.
“Fedrai ddim meddwl am unrhyw beth call i ddweud, ‘dim Howard Marks ydw i! Felly, y cwbwl allai ddweud ydi cymerwch fy nghyngor a gwrandewch ar Julian Cope a’r Beach Boys. A… hefyd… ‘mae ‘Coffi yn odli hefo Toffi’, meddyliwch am y peth!” |