Cerys Matthews i headleinio gwyl Dewi Sant ar ynys Môn

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

CERYS I BERFFORMIO YNG NGWYL DEWI SANT

Mae cantores roc mwyaf blaenllaw Cymru, Cerys Matthews, wedi cadarnhau y bydd yn perfformio yng Nghyngerdd Gwyl Dewi Sant ar Sir Fôn ym mis Mawrth.

Mae'r newyddion wedi'i groesawu'n fawr gan Gyngor Sir Ynys Môn, sydd yn cynnal yr wyl flynyddol ym Mhafiliwn Mona. Fe fydd oddeutu 2,000 o docynnau yn mynd ar werth yfory (Ddydd Sadwrn, Rhagfyr 15fed) a'r disgwyl yw y byddent yn gwerthu'n sydyn.

Mae tocynnau ar gyfer taith cyngherddau Cerys o Gymru, i'w gynnal ym mis Chwefror 2008, eisoes wedi gwerthu allan - ond bydd gan ffans gyfle ychwanegol i'w gweld a'i chlywed yma ym Môn ar Dydd Sadwrn, Mawrth 1af, 2008. Bydd perfformwyr eraill yn cynnwys Bryn Fôn, a canwr Americanaidd Jeb Loy Nichols.

Gwelwyd Cerys yn ddiweddar yn mwynhau'i chyfnod yn y jwngl ar raglen 'I'm a celebrity get me out of here' a'n hennill pentwr o gefnogwyr newydd. Bydd yn perfformio caneuon o'i albwm newydd 'Awyren=Aeroplane' yn ogystal â chaneuon o ar hyd ei gyrfa.

Yn cadarnhau y byddai'n ymddangos yng Nghyngerdd Gwyl Dewi Sant Môn, dywedodd Cerys, "Rydw i wrth fy modd cael dathlu dod adref gyda sioe ar Sir Fôn ar Dydd Gwyl Dewi. Ymunwch â ni ar Fawrth 1af i ddathlu Nawdd Sant Cymru gyda chaneuon newydd a hen, a fersiynau gwreiddiol a gwllgof o fy hoff ganeuon."

Prif Swyddog Datblygu Twristiaeth a Marchnata Môn, Gethin Morgan, sydd yn gyfrifol am drefnu cyngerdd Dydd Gwyl Dewi.

Pwysleisiodd, "Mae denu Cerys Matthews i berfformio'n hwb aruthrol i ni, yn enwedig gan ei bod mor brysur yn dilyn ei ymddangosiad ar 'I'm a celebrity…'. Ar Ynys Môn, rydym yn benderfynol o wneud ein dathliadau Dydd Gwyl Dewi'r gorau yng Nghymru, a drwy ddenu perfformwyr o safon fel Cerys Matthews rydym yn sicr o gyrraedd ein nod."

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Gareth Winston Roberts OBE, "Dyma'r drydedd flwyddyn i'r wyl gael ei chynnal ac mae hi'n mynd o nerth i nerth. Rydym yn gobeithio bod digwyddiad o'r safon yma yn denu pobl leol a phobl o bob cwr o Gymru a Phrydain i ddathlu ysbryd Cymru gyda ni."

Ceir ond 2,000 o seddi ac mae'r tocynnau (£15.00 yr un) ar gael drwy gysylltu gyda:

Cob Records - (01248) 353020 Cwpwrdd Cornel - (01248) 750218
Canolfan Wybodaeth Twristiaeth, Llanfairpwll - (01248) 713177
Canolfan Wybodaeth Twristiaeth, Caergybi (o fewn adeilad y porthladd) - (01407) 762622
Canolfan Fusnes Môn - (01248) 752435
www.sebon.co.uk