Mae Cerys Matthews yn datgan ail-drefn ei thaith yn Chwefror 2008

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

Mae'n siwr bod llawer o'n darllenwyr yn gwybod yn barod, mae taith Cerys Matthews i hyrwyddo'i rhyddhad newydd, Awyren = Aeroplane, wedi'i gohirio tan Chwefror 2008.

Ond efallai 'da chi ddim yn gwbod am ail-drefn rhai o'r dyddiadau newydd. Felly, y manylion cywir am y daith yn Chwefror yw:

14 Abertawe Grand Theatre
15 Theatr Mwldan Aberteifi GWERTHWYD ALLAN
16 Theatr Mwldan Aberteifi SIOE NEWYDD
17 Aberystwyth Arts Centre
19 Wyeside Arts Centre Builth Wells SIOE NEWYDD
20 Pontypridd Muni Arts Centre GWERTHWYD ALLAN
22 Blake Theatre Mynwy GWERTHWYD ALLAN
23 Theatr Hafren Trenewydd GWERTHWYD ALLAN

Mae tocynnau yn costio £15.