Ceryswatch efo Blodi yn Bandiau Cymreig Wythnosol:
Cerys Matthews ar I'm A Celebrity Get Me Out Of Here

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

 

Ceryswatch efo Blodi - Cerys Matthews ar I'm A Celebrity...  

Siop Bandiau Cymreig WythnosolMae'n swyddogol - mae Cerys Matthews wedi mynd i'r jyngl!

Ar ôl wythnosau o ddamcanu, mae itv.com o'r diwedd wedi cadarnhau'r cystadleuthwyr ar gyfer I’m A Celebrity Get Me Out of Here eleni – ac mae ein Cer yn un ohonynt.

Mae Bandiau Cymreig Wythnosol wedi galw ar ein hen ffrind Blodi i gadw llygad ar anturiaethau Cerys yn y jyngl mewn ysgrif newydd, Ceryswatch.  Bydd Blodi yn dod â newyddion cyson ar sut mae Cerys yn neud, a bydd o'n rhoi gwybod i chi am y rhif i ffonio i bleidleisio iddi hi.

Mae Cerys yn deud ar wefan IACGMOOH bod ganddi hi ffobias am "gynhron, lindysau, pry cop, pryfaid, llygod mawr, moscitos, morgryg tân, gelau, uchder a nadrodd" - so gwiliwch allan am 'bush tucker trials' diddorol…

Bydd diwrnod 1 o Ceryswatch yn dechrau ar y tudalen 'ma Nos Lun 12 Tachwedd 2007, ar ôl i'r sioe orffen ar ITV - welwn ni chi wedyn!

Cerysnewswatch efo Blodi - Bandiau Cymreig Wythnosol
 
Ceryswatch efo Blodi o Bandiau Cymreig Wythnosol: diwrnod 1 Ceryswatch efo Blodi o Bandiau Cymreig Wythnosol: diwrnod 2  
Ceryswatch efo Blodi o Bandiau Cymreig Wythnosol: diwrnod 3 Ceryswatch efo Blodi o Bandiau Cymreig Wythnosol: diwrnod 4  
Diwrnod 5 o Ceryswatch efo Blodi Diwrnod 6 o Ceryswatch efo Blodi  
Diwrnod 7 o Ceryswatch efo Blodi Diwrnod 8 o Ceryswatch efo Blodi  
Diwrnod 9 o Ceryswatch efo Blodi Diwrnod 10 o Ceryswatch efo Blodi  
Diwrnod 11 o Ceryswatch efo Blodi Diwrnod 12 o Ceryswatch efo Blodi  
Diwrnod 13 o Ceryswatch efo Blodi Diwrnod 14 o Ceryswatch efo Blodi  
Diwrnod 15 o Ceryswatch efo Blodi Diwrnod 16 o Ceryswatch efo Blodi  
Diwrnod 17 o Ceryswatch efo Blodi Diwrnod 18 o Ceryswatch efo Blodi