Diwrnod un, ac yn barod mae I'm A Celebrity Get Me Out Of Here yn addo i fod mor debyg â rhaglen natur a'r enw "Ceryswatch efo Blodi" yn awgrymu.
O Pete Burns lookalike Janice Dickinson (dwi'm yn awgrymu bod hi'n ffric o natur, ond... wel, mae'r Septics yn litigious lot so na i frathu fy nhafod) i'r mating rituals sydd yn amlwg yn barod rhwng Cerys Matthews a Marc Bannerman - a ga i fod y cyntaf i wichian YAY! mewn llais girlie a chlepian fy nwylo'n gyffrous, fel dwi'm yn ddyn 6ft efo breichiau blewog a barf - mae I'm A Celebrity... yn debyg i fod y rhaglen natur mwyaf cyffrous ers dechreuodd Bill Oddie sbio ar bîfers.
Mae'r sioe yn agor efo'r cystadleuthwyr yn cwrdd am y tro cyntaf yn eu gwesty a chlywed bod nhw'n cael eu gwahanu i dîimau. Yn ddoeth, mae Malcolm McLaren yn mynd adref ar ôl darganfod y byddai Janice Dickinson ar ei dîm. Yn syth, mae Lynne Franks wedi dangos ei hun fel y berson mwyaf ffantastig ar y sioe erbyn hyn (heblaw Cerys, wrth gwrs); mae gwrthod cymryd crap oddi wrth y Burnsalike wedi sicrhau ei lle yn fy nghalon am byth.
Moment gorau'r cyfres erbyn hyn: y sgwrs canlynol rhwng Cerys Matthews a Marc Bannerman, ar ôl cwrdd am y tro cyntaf yn y gwesty:
Marc: "Ti'n pysgota, yn dwyt?"
Cerys: "Yndw."
Marc: "Ti'n bwyta be' ti'n dal?"
Cerys: "Yndw."
Marc: "Ti'n diberfeddu nhw a thorri'r pennau?"
Cerys, yn egr: "Yndw, ond dwi'n bwyta'r pennau..."
Woooo! Marc a Cerys sitting in a tree, k-i-s-s-i-n-g...
Anyhoo. So maen nhw i gyd yn hedfan i'w campiau ac mae'n rhaid iddyn nhw neillau rhwyfo cwch heb rwyfau neu cael eu gwthio allan o helicopter, mil o droedfeddi i fyny yn yr awyr. Ac mae tîm Cerys, Croc Creek, yn tynnu'r gwelltyn (ffug) byr, so i lawr maen nhw'n chwyrlio.
Mae casgliad o synau yn hebrwng disgyniad Cerys, fel mating calls rhyw aderyn ecsotic.
Ac mae'n debyg bod nhw'n gweithio, achos ymhen eiliadau o dirio mae Cerys yn derbyn hyg mawr oddi wrth Marc, gan ddeud wrtho: "Roedd hynny'r beth gwaethaf i mi wneud yn fy mywyd!"
Yn y cyfamser, yn Camp Snake Rock, mae Burnsalike a Lynne Franks yn cwffio am... wel, popeth, rili.
"Ti'n gallu neud beth bynnag tisho, y gecren!" mae Burnsalike yn gweiddi ar Lynne. Wel, ar gefn Lynne, achos mae hi 'di rholio drosodd yn ei hammock ac yn deud wrth Burnsalike bod hi'n ormod o waith galed i dalu sylw iddi.
Genius!
Moment prydferth llwyr: ar ôl ei brefu, bydd Burnsalike yn bwyta dim ond humble pie heno ar ôl colli'r prawf cyntaf i Marc, sydd, er ei bod yn aroglu o bennau pysgod, yn ffeindio'i hun yn sydyn yn cael ei amgau gan Cerys. Wel, naeth hi ddeud ei bod hi'n bwyta pennau pysgod... Dwi'm yn deud dim byd...
Wel dyma diwedd Diwrnod 1 o Ceryswatch efo Blodi. Tiwniwch mewn ar yr un amser nos 'fory am ddealltwriaeth arall diddorol i fywyd gwyllt jyngle Awstralia.

|