Diwrnod 10 o Ceryswatch efo Blodi yn Bandiau Cymreig Wythnosol:
Cerys Matthews ar I'm A Celebrity Get Me Out Of Here

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

Diwrnod 10 o Ceryswatch efo Blodi

Cerys a'r caws

Cerys Matthews: Ceryswatch with BlodiCadwch Cerys mewn!

 

 

 

Siop Bandiau Cymreig Wythnosol

Blodi at Welsh Bands Weekly

Achosodd Cerys Matthews gyffro yn y gwersyll heddiw gan enill bocs o gaws a chracyrs i'r tîm ar ol ateb yn gywir bod 'na 58 llythyr yn yr enw Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogoggoch.

Am sbel, roedd Cerys yn sicr y byddai hi'r cyntaf i adael. "Dwi'm 'di deud digon neu neud digon i haeddu aros," dywedodd wrth Anna Ryder-Richardson. Yn siarad am y safle efo Marc Bannerman, dywedodd: "Dwi'n bendant yn ystyried be dwi'n deud."

Yn hwyrach, dyweddodd Marc wrth Anna: "Dwi yn y cachiad. Dwi'n bod yn dwll tîn" - defnyddiwch eich hoff dewis o frawdeg yma.

Roedd sioc mawr gan y gwersyllwyr yn hwyrach yn y sioe pan roedd Marc y cyntaf i adael. Yn syrthio drwy'i gyfweliadau ar ôl gadael, o'n i'n gallu aroglu'r ofn o fama pan welodd Marc y footage o'i hun a Cerys, a sylweddolodd goblygiadau o'i ymddygiad.

Gobeithio, nawr mae Marc 'di gadael, o nos fory welwn ni y Cerys go iawn am newid. Tan wedyn, nos da-wch Ceryswatchwyr... peidiwch â gadael i'r yabbies frathu!

Blodi at Welsh Bands Weekly