Diwrnod 11 o Ceryswatch efo Blodi yn Bandiau Cymreig Wythnosol:
Cerys Matthews ar I'm A Celebrity Get Me Out Of Here

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

Diwrnod 11 o Ceryswatch efo Blodi

Bush Tucker Trial Cerys

Cerys Matthews Cadwch Cerys mewn!

Blodi o Bandiau Cymreig Wythnosol

Heddiw cymerodd Cerys rhan yn ei bush tucker trial cyntaf. Cafodd Cerys a Gemma eu taflu 50ft yn yr awyr mewn 'reverse bungee' a roedd rhaid iddyn nhw daflu pelau tenis ar bidyn inflatable i ennill bwyd ar gyfer y gwersyllwyr. Ennillodd Gemma un pryd o fwyd, ac ennillodd Cerys pump. Hŵrê!

"Roedd hynna'n nyts! Roedd o cymaint o hwyl!" meddai wrth Gemma ar eu ffordd 'nôl i'r gwersyllfa.

Dywedodd nifer o'r gwersyllwyr wrth y Bush Telegraph fod o'n anodd i fod o gwmpas aelodau hŷn y gwersyllfa weithiau; ond dywedodd Cerys, sy'n wir yn ymddangos i mynd ymlaen efo pawb, bod hi isho cael ei chadw mewn er mwyn fod yn sous chef i John a dysgu dirgelau harddwch o Burnsalike, a dod â'r dysg 'ma adre i rhannu efo pawb.

Yn ystod cyfweliad ar ôl ei eviction, cyfaddodd Marc ei fod o 'di cwympo mewn cariad efo Cerys, ac yn meddwl bod hi 'di cwympo mewn cariod efo fo hefyd, cyn crio. O deiar. Pechod y feddyliodd o ddim o esbonio hyn i'w gariad yn gyntaf, cyn gadael i 7m o bobol eraill fod y cyntaf i wybod... wps!

Rhagor o hwyl a ffrolics o'r jyngl nos fory, Ceryswatchwyr. Tan hynny, tŵdl-ŵ!

blodi

Siop Bandiau Cymreig Wythnosol