English | cartref | gwybodaeth | hen rifynnau | erthyglau | galeri | fforwm | blog | cymryd rhan | hysbysebu
 

Diwrnod 13 o Ceryswatch efo Blodi yn Bandiau Cymreig Wythnosol:
Cerys Matthews ar I'm A Celebrity Get Me Out Of Here

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

Diwrnod 13 o Ceryswatch efo Blodi

Cerys a'r llythyr

Cerys Matthews Cadwch Cerys mewn!

Blodi o Bandiau Cymreig Wythnosol

G'day Ceryswatchers!

Heddiw siaradodd Cerys allan yn erbyn y bwlio wedi'i ddioddef gan Lynne yn nwylo rhai o'r gwersyllwyr eraill.

"Mae dy bwynt am onestrwydd yn anffodus weithiau," meddai wrth Rodney Marsh. "Tydio ddim yn fawr ac yn glefar i fod yn brutally honest drwy'r amser. Tydio ddim yn gwneud bŷd gwell."

Parhaodd: "Y peth gorau ti'n gallu neud yw fod yn hael. Mae anweddusrwydd fel ymddygiad person saith oed. Ti'n beio popeth ar dy gefndir working class. Rhedodd y ddau ohonoch chi [Rodney a Janice] off i'r creek yn lle deud ta-ra. Pa mor gas yw hynny? Ti 'di bod yn fwli; ti 'di defnyddio dy farn i fwlio."

Yn hwyrach, dywedodd Cerys wrth y Bush Telegraph fod y bobol neisaf yn cael eu pleidleisio allan. "Dwi isho cael fy cicio allan efo'r bobol neis," meddai. "Dwi isho bod o gwmpas pobol sy'n gweld daioni yn y bŷd."

Derbynodd y gwersyllwyr lythyrau o adref heno. Derbynodd Cerys llythur oddi wrth ei theulu, wedyn roedd hi'n stunned i dderbyn llythyr oddi wrth Marc. "Helo songbird," meddai. "Mae pethau 'di mynd yn wrong yn Llundain so dwi 'di gorfod mynd 'nôl i sortio nhw allan. Ond 'swn i'n licio bod yno i ti pan ti'n dod allan, os dyna be' ti isho."

Cyfaddefodd Cerys wedyn fod ganddi deimladau i Marc. "O'n ni'n gwybod bod ni'n mynd yn rhy agos," dywedodd wrth y Bush Telegraph. "O'n ni'n trio peidio â threulio gormod o amser efo'n gilydd, ac wedyn roedd o allan."

Gofynodd wedyn i anfon neges at Marc. "Aye, swn i'n licio iddo ddod allan os dyna be' mae o isho," meddai. "Ond does dim brys o gwbl... mae'n fywyd hir."

Rhagor o newyddion o'r jyngl nos fory. Cadwch Cerys mewn!

blodi