G'day Ceryswatchwyr!
Heddiw siaradodd Cerys â'r Bush Telegraph am yr eviction diweddaraf. "Mae Rodney yn uffarn o foi," meddai. "Mae o'n ddyn mawr, mawr ac mae o 'di gadael twll mawr, mawr." [Ffnarff! Os mae'r erthygl 'ma yn y News of the World yn gredadwy, mae'n amlwg tydi hi ddim yn siarad am Marc...]
Yn siarad am ei thacteg, medd Cerys: "Daethom ni i gyd yma i wneud mor dda â gallen ni, ond rŵan dwi'n awyddusach i aros mor bell â gallaf nag o'n i yn y dechrau."
Aeth hi ymlaen i ddisgrifio ei momentau gorau a gwaethaf yn y jyngl erbyn hyn. "Dwi'n lyfio'r symlrwydd o'r bywyd 'ma," meddai. "Dwi'n caru deffro yn y bore a chael pethau syml i wneud. Be' dwi'n casáu am y lle 'ma ar hyn o bryd yw beidio â gwybod unrhywbeth a phoeni am bethau."
Yn y noswaith roedd Cerys - sydd nawr yn gogyddes answyddogol y gwersyll - ar ochr drwg Burnsalike ar ôl awgrymu y byddai Burnsalike efallai'n licio i bobi ychydig o pumpkin seeds, os tydi hynna ddim yn ormod o drafferth.
Bore wedyn, roedd ffrind gorau Cerys, Anna Ryder-Richardson, y chweched person i gael ei chicio allan. Bŵŵ!
So mae Cerys nawr yn un o'r pump diwethaf. Wŵŵ! Ti'n gwybod beth i wneud:
09011 32 32 02
Cerys i ennill!

|