Heddiw roedd 'na arachnid enfawr, ofnadwy, gwenwynig yn rhedeg o gwmpas y gwersyll, yn cuddio o dan wely Burnsalike gan obeithio i frathu'i "arrrrse" (mae'n rhyfedd pan mae'r Septics yn trio i swnio fel y Saeson, yn tydi?).
Ond peidiwch â phoeni, darllenwyr teg; doedd Ant a Dec ddim 'di gadael i Lynne dod 'nôl i'r gwersyll. Mewn gwirionedd, roedd y peth yn gorryn funnel web (mae ganddo'r un maint o wenwyn â Lynne, ond tydio ddim yn edrych mor scary).
Yn hwyrach, gwnaeth Cerys ei bush tucker trial cyntaf ar ben ei hun, a roedd rhaid iddi siglo o un 'gwinwydden' i'r nesaf yn casglu sêr heb cwympo yn y llyn. Mae'n swnio'n hawdd, ond roedd pwr Cerys yn nacyred erbyn y diwedd a chasglodd dim ond dau seren am ddau pryd o fwyd.
"O'n i'n rybish," meddai Cerys cyn mynd 'nôl i'r gwersyll. "O'n i'n teimlo fel Lara Croft yn fy wetsuit ond o'n i mwy fel Pinky a Perky."
Eniwê, coginiodd Cerys wledd i'r gwersyllwyr, ac roedd rhaid i hyd yn oed Burnsalike - a oedd yn busnesu drwy'r holl amser roedd Cerys yn coginio - gyfadde mae'r bwyd yn flasus. Neu "deeee-lish-oussssss", fel dywedodd Biggins.
Mi welon ni ochr altruistic Cerys' heddiw, pan naeth hi gafflo yn y spelling bee i helpu J osgoi bod yr unig gwersyllwr i fethu cael treat. Ond yn anffodus, gwelodd y cynhyrchwyr hyn a chafodd Cerys ei cheryddu.
Dyna'r cwbwl am heno, Ceryswatchwyr... does dim evictions tan yfory. Fydd Cerys yn cyrraedd y pedwar diwethaf? Dim ond os ti'n galw 09011 32 32 02... Cerys i ennill!

|