Noswaith dda, pawb.
Heddiw aeth Cerys yn philosophical gan ofyn i'w cyd-gwersyllwyr be' bydden nhw'n newid am eu bywydau, os gallen.
Ar ôl i bawb ateb, daeth y cwestiwn yn ôl at Cerys. Atebodd: "Y peth dwi 'di dysgu yw... i ffeindio allan cymaint â phosib [cyn dechrau perthynas newydd]. Y peth, efo fy hanes, yw beidio â gadael i fy hun disgwyl y gorau o fywyd... dwi 'di cymryd tan rŵan i fynd drosodd hynny a rŵan dwi'n edrych ymlaen at weddill fy mywyd."
Dangosodd Cerys ei hochr drygionus heno gan gafflo yn y chest task. Oherwydd hyn, roedd hi a Gemma yn gallu dod â'r cist 'nôl i'r gwersyll, lle amcanodd y gwersyllwyr yn gywir bod 44% o bobol wedi cael one night stands. Roedden nhw i gyd wedi'u cyffro i dderbyn pasties poeth, ffres.
Yn hwyrach, casglodd Cerys gitar o'r Bush Telegraph a chanodd i'r gwersyllwyr; canodd Weightless Again*, Chardonnay* a The Lion Sleeps Tonight. "Dwi 'di hiraethu am gerddoriaeth yn ail dim ond i fy mhlant," meddai, yn amlwg wrth ei modd i ganu a chwarae eto. A roedd ei chyd-gwersyllwyr wrth ei moddau hefyd, achos dywedon nhw i gyd wedyn bod ei llais yn "brydferth".
Wnaeth Cerys osgoi eviction eto heno - jyst - pan gafodd Gemma ei chicio allan. So mae hi i lawr i'r pedwar diwethaf. Fydd hi'n gyrraedd y tri uchaf? Mae hynny i fyny i chi... galwch 09011 32 32 02 os 'da chi isho CERYS I ENNILL!
Nos da-wch ,

*Os licioch chi'r caneuon 'ma a hoffech glywed nhw'n llawn, maen nhw ar gael ar albym Cerys Cockahoop .
|