Heno roedd noson olaf Cerys yn y jyngl, ar ôl dod yn bedwerydd sydd yn safle ardderchog.
Cyn i'r canlyniadau gael eu datganu, dywedodd Cerys wrth y Bush Telegraph: "Do'n i'm yn disgwyl dod mor bell. Dwi mor cyffrous amdano fo!"
Parhaodd: "Dwi 'di cael un o'r profiadau gorau o fy mywyd a dwisho deud diolch."
Yn ei chyfweliad ar ôl gadael, cafodd 'darnau gorau' Cerys eu arglwyddiaethau gan shots o'r amser a dreiliodd hi efo Marc Bannerman. Cyfaddefodd i Ant a Dec bod hi'n 'gyted' y doedd Marc ddim 'di dod 'nôl i'w gyfarfod a hi.
Ond cafodd unrhyw siom ei roi i un ochr yn gyflym pan sylweddolodd Cerys y byddai hi'n ymuno â'i phlant cyn hir. "Dwi mor cyffrous," meddai. "Galla i anfon diwrnod llwyr efo fy mhlant. Dwi'n hapus i fod allan."
Wel Cerys, 'da ni'n hapus os ti'n hapus, ond wrth gwrs bydden ni 'di caru i weld chdi'n ennill. Ond ti 'di neud yn dda iawn, a 'da ni i gyd yn falch iawn ohona ti.
O nos fory ymlaen, bydd Ceryswatch mewn fformat gwahanol. Yn lle reportio ar be' mae Cerys yn neud - achos, wrth gwrs, tydi hi ddim yn y gwersyll dim mwy - bydda i'n chwilio'r we i ffeindio dolennau i gyfweliadau mae Cerys 'di neud ers gadael y jyngl, a bydda i'n rhoi nhw i chi i chwarae efo nhw.
Diolch am gefnogi'r golofn 'ma a gobeithio 'da chi 'di mwynhau hi. Os 'da chi 'di licio hi digon i ffansio spoilio'ch hun efo marsiandïaeth efo fy ngwyneb wedi'i argraffu arno fo, plîs checiwch allan siop Bandiau Cymreig Wythnosol.
Wela i chi nos yfory efo'r round-up cyntaf o gyfweliadau. Tan wedyn... nos da-wch Ceryswatchwyr, a peidiwch â gadael i'r llygod mawr frathu (onibai Burnsalike wyt ti)!

|