English | cartref | gwybodaeth | hen rifynnau | erthyglau | galeri | fforwm | blog | cymryd rhan | hysbysebu
 

Diwrnod 3 o Ceryswatch efo Blodi yn Bandiau Cymreig Wythnosol:
Cerys Matthews ar I'm A Celebrity Get Me Out Of Here

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

Diwrnod 3 o Ceryswatch efo Blodi

Cerys ar gamera - o'r diwedd!

Cerys Matthews

Blodi o Bandiau Cymreig Wythnosol

G'day, Ceryswatcherau!

Roedd 'na gyffro yn Croc Creek heddiw pan ymddangosodd Cerys Matthews ar gamera am reswm arall na siarad â Marc Bannerman. Yay!

Ar ôl y cyffro o John yn ennill y bush tucker trial yn erbyn Burnsalike (diolch i weddïau Cerys, wrth gwrs), cymerodd Cerys rhan mewn trial yn erbyn J o dîm Snake Rock.

Triodd Cerys i beidio â bod yn rhy gyfeillgar tuag at J pan cwrddon nhw ar safle'r trial, gan gyfaddef i fod yn gystadleuol. "Dwi'n casau colli, timod; mae'n neud fi'n wyllt," dywedodd cyn llithro i lawr goledd llithrig a smacio agoriadau enfawr efo stick mawr.

Ond roedd gan Cerys gadofyddiaeth slei i sicrhau y fyddai hi ddim yn colli; pan syrthiodd agoriadau'r cist i'r llawr, cuddiodd hi nhw yn ei phoced er mwyn stopio J gweld faint roedd ganddi hi. "Roedd genai'r agoriadau ac o'n i rili isho'r cist 'na," gwenodd ar ôl y trial. "O'n i'n crynu 'chos nes i isho'r cist cymaint!"

Ar ôl sbel darganfyddon y gwersyllwyr hapus y byddai'r dau tîm yn ymuno gyda'i gilydd yn Croc Creek. Doedd neb yn ymddangos yn hapus efo hyn, gan gynnwys Cerys - dywedodd y fyddai hi ddim yn licio os byddai rhywun yn dechrau bod yn bossy, achos erbyn hyn does neb yn Croc Creek 'di bod yn bossy.

Roedd gan Lynne Franks syniadau ei hun am y tîm mawr newydd, gan ddeud y fyddai hi ddim yn cymryd unrhyw crap o unrhywun yn Croc Creek... o diar, mae'n edrych fel mae'r heddwch o Croc Creek ar fin cael ei chwalu!

Ond roedd rhaid i Lynne cyfadde - efo gweddill tîm Snake Rock - y fyddai byw efo Cerys ddim mor drwg; ar ôl dychwelodd J o golli'r chest trial gan ddweud wrth y tîm mae Cerys yn lyfli, cytunodd Lynne a gweddlill tîm Snake Rock.

Uchelbwynt y noswaith: tra mae Croc Creek yn mwynhau gwledd o suckling pig, mae Marc yn cerdded drosodd i Cerys pan mae hi'n cerfio'r cig. "Cymer y croen o gwmpas y tîn - bydd hynna'r darn mwyaf crunchy," mae o'n awgrymu'n gymorthgar.

Ooh, mae ganddo fo'r leins gorau, yn does?

Mwy o jollity'r jyngle nos 'fory - tan wedyn, paid â gadael i'r witchety grubs frathu!

blodi