English | cartref | gwybodaeth | hen rifynnau | erthyglau | galeri | fforwm | blog | cymryd rhan | hysbysebu
 

Diwrnod 4 o Ceryswatch efo Blodi yn Bandiau Cymreig Wythnosol:
Cerys Matthews ar I'm A Celebrity Get Me Out Of Here

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

Diwrnod 4 o Ceryswatch efo Blodi

Mae Cerys yn gweld sêr

Cerys Matthews: Ceryswatch with Blodi

 

 

 

 

 

 

 

 

Blodi at Welsh Bands Weekly

Parhaodd mating rituals y jyngl heddiw pan gafodd Cerys Matthews ei deffro yn gynnar yn y bore gan Marc Bannerman yn eistedd ar ochr ei gwely yn trafod y sêr.

"Tyrd i weld nhw o fy ngwely," dywedodd, yn llithro yng ngwely Cerys a rhoi ei fraich o gwmpas ei hysgwydd.

Penderfynnodd Cerys wedyn bod hi'n angen pis, so checiodd Marc ei hesgidiau, tra canmolodd Cerys o am fod yn foneddigaidd.

Wedyn cafon nhw sgwrs am ei oed, efo Marc yn awgrymu bod Cerys yn flynyddoedd yn iau na fo. Digwyddodd gêm o "conversation ping-pong" wedyn: dywedodd Cerys bod hi'n hŷn na Marc, dywedodd Marc bod Cerys yn edrych yn dda, a wedyn dyweddodd Cerysy tydi Marc ddim mor ddrwg ei hun.

Wedyn gofynodd Cerys wrth Marc os mae o'n gallu neud acen De Affrica; atebodd mewn acen argyhoeddiadol, wedyn gofynodd pam mae hi isho gwybod. "Achos mae'n rili neud rhywbeth i mi," gwenodd Cerys.

Cyfunodd y ddau tîm heddiw, yn achosi tynder yn y gwersyll. Roedd Cerys hyd yn oed yn crio amdano fo, yn deud "dwi 'di cael amser reit arbennig... dwi'm isho iddo fo newid." Rhoddodd Marc hyg iddi, yn deud "ond 'da ni dal yn cael o, yn dydan?"

Roedd hi'n hapusach yn hwyrach, ddo, pan ddechreuodd Lynne wneud ei dawns rhyfedd "earth goddess". Tra roedd Marc a Rodney yn trio dal eu giglau, ymunodd Cerys a Katie mewn cyfeillgarwch i chwerthin yn agorol efo'u gilydd.

Rhagor o anturiaethau Cerys yn y jyngl ar yr yn amser nos fory. Nos da-wch!

Blodi at Welsh Bands Weekly