G'day Ceryswatchers!
Mae'n ddiwrnod 5 yn y jyngl ac mae Cerys Matthews dal yn cael ei tîsio gan Marc Bannerman.
Yn gynharach yn y dydd, dywedodd Marc wrth foi newydd Christopher Biggins fod o'n poeni am gamddealltwriaethau am ei berthynas efo Cerys. "Dwi'm isho rhoi'r syniad anghywir," meddai. "Dim ond ffrindiau da 'da ni."
Yn y cyfamser , tyfodd Lynne bidyn ar ôl defnyddio screwdriver.
Tra roedd hi'n perfformio'r orchest anhygoel 'ma, eisteddodd gweddill y gwersyllwyr o gwmpas yn chwerthin ar ei dawnsio rhyfedd. Cymerodd pawb y pis yn gryf, ond siociodd Cerys Rodney Marsh gan wybod enw pob dawns.
Yn y noswaith, dawnsiodd Marc a Cerys rownd tân y gwersyll. Wedyn, galwodd MarcCerys i'w wely am hyg.
"Ella pryna i dŷ fferm bach efo cwrt," myfyriodd Cerys o gysur breichiau Marc. "Ieir. 'Swn i'm yn meindio ceffyl. Ella prynaf alpaca, maen nhw'n anifeliaid neis. Tisho clywed dychymyg? Mae'n ddychymyg gân."
Wedyn canodd hi gân fach dlos am garreg ceiriosen. Doedd Marc ddim yn gallu amcanu ateb y dychymyg, a gofynodd Cerys iddo fo os roedd o 'di blino. "Tisho cysgu?" gofynodd, yn dechrau codi o'r gwely. "Gallwn i aros yn ddefro am sbel," atebodd Marc. "Mae'n dibynnu ar be' sy' yn dy bryd."
Yep. Frrrrrindiau da...
Dwi'n mynd allan ar y pis yng Nghaerdydd nos Sadwrn, so ni fydd Ceryswatch Diwrnod 6 arlein tan nos Sul. Ond os 'da chi'm yn gallu aros mor hir ag hynny heb siarad am anturiaethau diweddaraf Cerys yn y jyngl, triwch ymuno â'r fforum ar wefan Cerys.
Cewch penwythnos bonza!

|