Dechreuodd diwrnod 6 efo John yn galw am "ddiwrnod o heddwch a chariad." Wrth ystyried roedd hyd yn oed Janice yn fodlon i rhoi 'go' iddo, mi feddylias am eiliad y byddai hynny'n bosib. Ie, reit.
Parhaodd y harmoni am gyfanswm o 12 munud. Aeth rapio John ddim i lawr yn dda iawn efo Rodney, a dywedodd: "Ti methu neud hynny. Ti'n colli pleidleisiau gan wneud hyn. Dyma be' mae pobol du yn neud."
Rodney Marsh yn fod yn ddadleuol - pwy byddai'n meddwl?
Yn hwyrach gadawodd Janice a Lynne i wneud y bushtucker trial ‘Nip, Pluck’. Gwastraffodd Janice dim amser yn penderfynu y byddai hi'n cymryd y controls a gostwng Lynne i'r gorlan o ostriches i gasglu'r ser. "Na i ddreifio, a cheith hi'i phlycio."
Ar ôl dechreuad araf a lot o ddadlau, yn y diwedd naethon nhw sortio fo allan a daethon nhw'n ôl efo saith pryd bwyd ar gyfer y gwersyllwyr.
Roedd hi'n ddiwrnod tawel i Cerys, ond cododd ei llais i gwyno am y bwyd. "O'n i'n meddwl, pan dywedon nhw reis a ffa, byddai hynny fel ffa wedi'u ail-ffrio a reis neis. Fel prydau bwyd wedi'i serfio." Oedd hi rili'n disgwyl gwasanaeth waiter?
Roedd llawer o dan gwyllt pan gollodd Lynne ei fleece coch a naeth hi'm gadael i neb orffwys tan iddi hi ffeindio fo. Pan ymddangosodd o yng ngwely Janice, Cerys oedd y cyntaf i amcanu, yn wir, roedd y bai efallai ar Rodney.
Ymddangosodd y fflyrtio rhwng Cerys a Marc i oeri, ond mae'n anhebyg fod y saga 'di gorffen eto. Gobeithio bydd Cerys yn parhau i atgoffa'i hun fod gan Marc gariad, achos mae ei gariad yn ymddangos i fod y peth diwethaf ar ei feddwl.
Diancodd Cerys bushtucker trial arall, achos mae Janice wedi cael ei phleidleisio i mewn unwaith eto. Mae hi'n ymuno Rodney ar ei chweched trial ‘Catch a Crawling Star’. Mae'n bosib bydd yfory'n ddiwrnod llwgus.
So dyna diwrnod 6 yn y jyngl. Dwi'm yn gwybod amdanoch chi, ond dwi methu aros i weld be' fydd yn dod efo diwrnod saith.
ar ran 
|