Yowza!
Blodi dw i, dwi'n ôl o Gaerdydd, a does dim hangover gen i. Wŵŵ!
Yn y cyfamser, yn ôl yn y jyngl:
Mae effeithiau'r cynhesrwydd a diffyg bwyd yn dechrau cael effaith ar Cerys: dywedodd heddiw bod Lindsay Lohan yn atgoffa hi o Elizabeth Taylor. Eh?
Yn hwyrach, wrth y rheadr, canodd Cerys All My Trials* yn wirfoddol tra'n golchi'i dillad. Cwympodd Marc dan swyn ei llais prydferth, swynol (tydio'm y cyntaf a fydd o'im yr olaf), a phan aeth Cerys yn ôl i'r gwersyll dywedodd Marc wrth J: "Pa mor anhygoel i gael llais fel 'na - mae'n gwneud dy galon yn ddifalch."
Wedyn gwnaeth Marc gwpwl o'r groans 'na bod ni'r dynion yn gwneud pan 'da ni ar fin cael codiad, a dechreuodd canu'n dawel: "There may be trouble ahead... but while there's moonlight and music and love and romance, let's face the music and dance..." cyn awgrymu i J mae 'na rhywbeth ar ei feddwl i siarad amdano, ond mor bell o'r camerau â phosib.
Beth gallai hynny fod?
Tiwniwch mewn nos fory am ragor o newyddion Cerys, pobol. Yn y cyfamser... dwi'n ffycin' wrecked, dos â fi allan o 'ma!
T'ra.

* os liciwch chi fersiwn Cerys o All My Trials, mae'r gân ar ei halbwm Cockahoop - gwelwch y dolennau ar yr ochr dde o gyfweliad Cerys gan WBW am ragor o fanylion.
|