Noswaith dda gwersyllwyr!
Diwrnod arall heb footage o Cerys heblaw pan mae hi efo Marc; mae'n ymddangos bod nhw'n un person: Cerarc.
Heddiw, chwaraeodd Cerarc slaps, syllodd tu mewn llygaid eu gilydd, a mwynhaodd hammock-based snuggling. Mae'n debyg y wnaethon nhw lots o bethau eraill hefyd, ond mae'n bosib y fyddwn ni byth yn gwybod amdanyn nhw. Bŵŵ!
Defnyddiodd Marc ei lein gorau ar Cerys heddiw, hefyd: "Be' wyt ti 'di neud i dy ael?" cyn smwddio fo 'nôl i'w lle. Mmm, slic!
Mae cariad Marc 'di cyrraedd Awstralia... tydi hi ddim yn happy bunny, yn ôl bob sôn. Oni, wrth gwrs, mae'r holl beth yn conspiracy rhwng y tri ohonyn nhw i wneud y sioe yn fwy diddorol...

|