English | cartref | gwybodaeth | hen rifynnau | erthyglau | galeri | fforwm | blog | cymryd rhan | hysbysebu
 

Diwrnod 9 o Ceryswatch efo Blodi yn Bandiau Cymreig Wythnosol:
Cerys Matthews ar I'm A Celebrity Get Me Out Of Here

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

Diwrnod 9 o Ceryswatch efo Blodi

Cerys a'r bwced o chwŷd

Cerys Matthews Cadwch Cerys mewn!

Blodi o Bandiau Cymreig Wythnosol

G'day Ceryswatchers!

Heddiw roedd Cerys Matthews yn cystadlu'n erbyn Marc Bannerman a Anna Ryder-Richardson yn y Bush Battle am immunity.

Yn sefyll o dan bwcedi o'r peth a ddisgrifodd Cerys fel "stinky blue cheese vomit stuff", roedd rhaid i'r triawd cadw cadwynau'n dyn er mwyn osgoi cael y bwcedi o faw yn cwympo ar eu bennau.

Ar ôl cwpwl o funudau roedd Cerys yng nghanol o ofyn "pa mor hir byddwn ni'n gallu neud hyn?" pan gollodd ei chraff yn sydyn, a chafodd ei hanhuddo gan rywbeth sydd yn bosib yn dod o waelod y bog of eternal stench.

"Mae'n drewi!" oernadodd. "Do'n i'm yn bwriadu i hynny ddigwydd!"

Yn hwyrach, yn siarad i'r Bush Telegraph, dywedodd Cerys bod hi'n drist i golli heb wneud digon o ymddrech ynddo fo. "Swn i'n licio mynd adre i weld fy mhlant," meddai, "ond dwi'm isho mynd allan efo whimper."

Mae'r pleidleisio 'di dechrau: gall gwylwyr pleidleisio am y person maen nhw isho cadw i mewn. I gadw Cerys yn y jyngl, ffoniwch 09011 32 32 02. Gallwch ffeindio manylion o faint mae'r galwadau'n costio ar wefan ITV .

Laters!

blodi