Tu Mewn i Emma: Y Ceilliau Coll - o rifyn 9½ o Fandiau Cymreig Wythnosol

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

Unwaith eto, mae’r Picsi gwallgo yn eich tywys ar daith ddirgel drwy felinau gwynt ei meddwl (beth bynnag mae hynny’n ei olygu!)

Inside Emma  

Beth sy’n siglo sana Picsi? Pwy a wyr ond dyma i chi farn Picsi am y ceilliau coll:

Darllenais erthygl ddifyr yn ddiweddar mewn taflen o’r enw DMI Health Screening, Roedd yr erthygl yn dweud “If one of your testicles is missing, consult your doctor as soon as possible.”

Wel ffyc me sideways de, ond faint o FFYCIN AMLWG ydi hunna?  Os fyswn i’n deffro un bore a ffendio bod un o nhits i ar goll neu sylweddoli bod gennai ddim twll yn fy fflewjan fyswn i ar y ffôn na i NHS Direct cyn i chi allu dweud ‘circumcision menwol’.

Dim ffonio’r heddlu ydi’r peth iawn i wneud os ydi rhywbeth wedi diflannu?  Mae’n debyg y byddai’n achos llawer mwy cymhleth na ‘person coll’ mwy fel “cŵd coll”.  Dychmygwch y llun ar ochr y carton llefrith.   “Yda chi wedi gweld Plwmsan?”  Y twmffat twp aeth ar goll ar y job!  Gwobr nyts ar gael am ddychwelyd pecyn yr hogyn yn saff: goolie massage gan Madame Plum’s Scrotal Sanctuary”.

Os yda chi wedi colli un o’ch testes yna mae na ddewis arall yn hytrach na mynd at yr heddlu.  Danfonwch lun i fi a caiff y llun ei gyhoeddi yn yr adran ‘peli coll’

Nad ar goll? Cysylltwch hefo ni ar gyfer ein erthygl nodwedd newydd , O Bollock Where Art Thou?

 

Cyfieithu gan Menai.