Loo'll Fix It (o Rhifyn 9½ o Fandiau Cymreig Wythnosol)

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

Mi rhan fwya ohonoch yn siwr o fod wedi clywed am Jim’ll Fixit… ‘Now-then now-then now-then’.  Yr hen foi gwallt gwyn a sigar oedd yn gallu gwireddu breuddwydion - y boi hefo’r ateb i bopeth.  Wel anghofiwch o bobol, fi Loopy Loo ydi’r Fixit newydd – Loo Fixit.   Dwi yma i helpu ac i ateb eich cwestiynau.  Unrhyw beth da chi rhy stiwpid, diog neu hefo gormod o gywilydd ei ofyn.  Gofynnwch i Loopy Loo.  Loo will Fixit for U!  Danfonwch e-bost draw atai hefo cwestiwn – unrhyw gwestiwn looloo@welshbandsweekly.com mi wnai ymdrechu i ffendio’r ateb, ac mi fyddwn chyhoeddi’r cwestiynau ar y wefan, gan ddewis y rhai mwya diddorol a difyr i’w gyhoeddi yn y rhifyn nesa!  Dim gwobr am y cwestiynau gorau fodd bynnag, ond mi fyddwn yn gwella eich anwybodaeth. Anwybodaeth dyn o’i anwybodaeth ei hun yw anwybodaeth ar ei waethaf. 

Mae’r cwestiynau yn y rhifyn yma wedi cael ei ofyn gan rhai o awduron WBW ac am ryw reswm mae pawb wedi gofyn cwestiwn am anatomi anifeiliaid!  Da ni’n gwbod be sydd ar feddwl tîm WBW! 

Karen, perchen rhestr SFA ac awdur a benodwyd yn ddiweddar i weithio ar WBW, sydd yn gofyn:

‘Adar hynod bluog. Sut ma nhw’n ei ‘chael hi off’?’

Wel Karen. Yn syml: does dim pidlan gan aderyn gwryw a dim fajinsan gan aderyn benywaidd.  Beth sydd gan y mwyafrif o adar yw cloaca, twll, mae sberm yn symud i geg cloaca yr aderyn gwryw pan mae’n amser paru.   Yna mae’r ddau aderyn yn rhoi eu cloacau at ei gilydd mewn rhywbeth a elwir yn ‘sws cloacal’.  Fydd y sberm wedyn yn cael ei drosglwyddo et voilá.  Gall y sberm gael ei gadw yn yng nglamlas cloacal yr aderyn benywaidd am rhai cannoedd o ddyddiau – ych a fi!  Ffecin afiach!

Dyma oedd cwestiwn Debs :

‘Sut bod gwallt pen a barf yn gallu dal i dyfu lawr at dy draed ond bod blew ar weddill y corff yn cynnwys piwbs, cesail, eiliau ac ati yn aros fel y maent?  Be di’r ateb?  

Nid yw blew y pen a bafr yn tyfu am byth.  Mae na gylchred tyfiant gwallt sydd yn parhau am rhwng 2-6 mlynedd ac wedyn yn aros heb dyfiant o gwbwl am oddeudu 3 mis. Yna mae ffoligl blewyn newydd yn cychwyn yng ngwreiddyn y blewyn marw ac mae’r gwallt yn cychwyn tyfu eto.  Mae blew pen a bafr o ansawdd cryfach felly mae’r blewyn newydd yn gallu cydio yn yr blewyn marw a dal i dyfu.   Ar weddill y corff fodd bynnag, mae’r cylchred yn parhau ddim ond am ychydig wythnosau.  Sydd yn gyfleus iawn a deud y gwir neu fel arall mi fyddwn i gyd hefo mop o wallt cedor a blew corff fel Chewbacca.    … argh!

Holodd Lewis:

‘Â’i dim ond y Carp sydd ddim yn heneiddio neu ydi hynny’n wir am bob pysgodyn?’

Mae rhan fwya o bysgod yn heneiddio, - cyfrwch y rhigymau sydd ar cen y pysgodyn a defnyddiwch yr offeryn hi-tec brawychus yma – sydd yn tynnu cen oddiar y pysgodyn druan, cymeryd argraff ohono a rhoi’r argraff hwnnw o dan rhywbeth sydd yn edrych yn debyg i ‘microfiche’ mawr.

Felly dyma chi bobol annwyl, y cyfan fedrai ateb ar gyfer y rhifyn yma.   Dewch yn ol i ymweld a safle Welsh Bands Weekly yn fuan er mwyn cael y diweddara gan Loo Fixit.   A danfonwch ddigon o gwestiynau i mi.   Rhai gwirion a rhai gwallgo.   Dyma Loo Loo, Welsh Bands Weekly yn chwifio ei sigar a deud ta-ta!

 

Cyfieithu: Menai.

Loo'll Fix It