|
|
|
Sefydlwyd Bandiau Cymreig wythnosol yn Llundain ym mis Ebrill 1997. Cylchgrawn wythnosol dwyieithog am ddiwylliant a cherddoriaeth Cymreig. Cylchgrawn ‘wythnosol’ oedd ddim yn cael ei gyhoeddi’n wythnosol! Cychwynais BCW oherwydd bod y cylchgronau cerddoriaeth sefydledig – oedd a’u sylfaen yn Llundain – yn tueddu i ganolbwyntio yn benodol ar fandiau Saeseng ac yn anghrediniol y gall unrhyw fand gwerth eu halen hannu o du allan i Camden. Ar yr adegau prin pan oedd band o Gymru yn cael sylw yn y wasg, roedd yn amhosib i’r awdur sgwennu amdanynt heb hefyd son am ddefaid, cenin, a’r diffyg llafariaid yn yr wyddor Gymraeg. Roeddwn yn ffendio’r sterioteipio nawddoglyd ‘ma yn rwystredig a phenderfynnais y buaswn yn gallu gwneud yn well a rhoi sylw teilwng i’r bandiau yr oeddwn yn ei garu. Felly, hefo fy ngyfneither Uncle Emma (y picsi gwallgo) a’n cyfaill da Vickki, cychwynnais Bandiau Cymreig Wythnosol. Roedd yr enw “Welsh Bands Weekly” wedi bodoli am oddeudu chwe mis cyn i ni gysidro cyhoeddi cylchgrawn. Cafodd yr enw ei greu gennym pan oedd ein hoff fand, Super Furry Animals yn cefnogi Manic Street Preachers ar daith yn ystod mis Rhagfyr 1996. Roedda ni’n awchu isio cael mynediad i’r parti aftershow, felly yn ystod mis Tachwedd dyma ni’n sgwennu wyth llythyr i label recordio SFA yn llawn rhesymau gwallgo pam y dyliwn i gael tocyn i’r parti. Roedd un o’r llythyrau yn dweud “We have started a new magazine called Welsh Bands Weekly, and need aftershow party passes in order to interview the bands…” Roedd yn enw eitha chwerthinllyd i roi ar gylchgrawn a dweud y gwir ond erbyn i ni fod yn barod i lawnsio’r cylchgrawn ar Ebrill 1af 1997 (credai rhai mai joc Ffwl Ebrill oedd o!) roeddem yn credu y byddai’n syniad da cadw’r enw, gweld ei fod wedi creu argraff ar griw y Super Furries. Yn dilyn rhywfaint o alwadau ffôn i gysylltiadau oedd gennym yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru, roedd gennym sawl cyfweliad i wneud. A chwe wythnos yn ddiweddarach, roedd y rhifyn cyntaf ar werth, cylchgrawn o safon uchel wedi ei brintio drwy’r broses litho ar papur gloyw a cylgrawn oedd yn 100% dwyieithog! Roedd y fformat yn llwyddianus ac o’r herwydd ni fu newid newid mawr yn y fformat dros y blynyddoedd. Roedd yn bosib darllen un hanner y cylchgrawn yn Gymraeg a’i fflipio drosodd i ddarllen yr un peth eto yn Saesneg. Cyhoeddwyd Rhifyn 2 yn fuan wedyn, roedd y rhifyn cyntaf wedi cyflawni ei bwrpas, sef bod yn gylchgrawn o safon uchel a digon credadwy i sichrau mwy o gyfweliadau diddorol ar gyfer yr ail rifyn gan gynnwys cyfweliad hefo’r Stereophonics a Feeder. Erbyn rhifyn 3 roedd WBW wedi cydio yn nychymyg y cyhoedd a’r cyfryngau a cafodd y cylchgrawn sylw ar nifer o raglenni teledu a radio yn ogystal a’r wasg yng Ngymru. Erbyn mis Tachwedd 1997, cawsom wahoddiad gan reolwyr ‘The Borderline’ yn Llundain i drefnu gig WBW. Dyddiad y gig cyntaf oedd Rhagfyr 11eg, a phenderfynwyd gwneud y gig yma yn barti ‘dolig hefo gwisgoedd gwirion, mins peis a raffl gyda gwobreuon gan gwmniau recordio. Cafwyd adolygiad o’r gig yn rhifyn 4 o Bandiau Cymreig Wythnosol. Yn ystod tymor yr hydref 1998 cyhoeddwyd rhifyn 6. Roedd y tudalennau newyddion yn edrych yn fwyfwy fel cylgrawn proffesiynol ac safon yr ysgrifennu yn gwella gyda phrofiad. Roedd y cylchgrawn yn gorfoledddu yn ei glawr porffor hyfryd. Symudais i fyw i Gymru yn ystod yr haf 2000 ac oherwydd yr amgylchiadau, setlo i mewn i gynefin a swydd newydd, bu cryn oedi cyn cyhoeddi rhifyn nesaf o WBW. Ond ymhen hir a hwyr cyhoeddwyd rhifyn 9, y rhifyn olaf yn anffodus. Yn 2001 fe wnaethom hefyd drefnu gig ym mhrifysgol Bangor, gig o dan yr enw ‘Woofstock’. Roedd elw’r gig yn mynd i SARDA (Search And Rescue Dogs Association). Y bandiau caredig wnaeth gymeryd rhan yn rhad ac am ddim ar y noson oedd Anweledig, Nar, Pep Le Pew DJ’s a 48F. Roedd yn gig hollol wych, er y bysa’r noson wedi elwa o gynulleidfa fwy. Ysgrifennwyd gyfweliadau ac erthyglau ar gyfer rhifyn 10 yn ystod 2001 ond oherwydd pwysa gwaith a diffyg arian, ni gafodd rhain eu cyhoeddi. Roedd gennym danysgrifwyr yn disgwyl yn eiddgar i’r dderbyn y cylchgrawn yn resymol o reolaidd, felly penderfynwyd lungopio’r erthyglau a’r cyfweliadau oedd gennym a’u danfon mewn rhifyn arbennig i’r tanysgrifwyr yn unig a’i alw yn ‘rhifyn 9½’. Yn anffodus ni ddigwyddodd hyn a dim ond rwan mae’r hyn a ysgrifennwyd yn yn gweld golau dydd. Er fy mod wedi cael chwe mlynedd o seibiant o WBW, mae’r cylchgrawn wedi bod yn rhan ohonof ac wedi aros yn fy ngwaed; dwy flynedd ar ol cyhoeddi rhifyn 9, roeddwn yn un o feirniaid gwobrau RAP (Roc a Phop) Radio Cymru. Rwy’n dal i dderbyn CD’s drwy’r post yn achlysurol gan artistiaid yn chwilio am adolygiad gan WBW er bod y cylchgrawn sydd wedi dod i ben ers blynyddoedd. Pan mae hyn yn digwydd, rwy’n difaru nad ydi WBW yn bodoli bellach; rwy’n ei fethu yn ofnadwy. Ond mae meddwl am brintio hen hanes, teithio i gyfweliadau ac ymdrin a chyllidebau, materion ariannol a phroblemau dosbarthu yn ddigon i ddiffodd unrhyw awydd i ail gychwyn WBW yn yr un hen drefn. Ond mae’r rhyngrwyd wedi gweddnewid pethau, wedi newid y ffordd mae pobl yn byw. Mae mwyafrif o bobl y wlad erbyn hyn yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd. Mae’n gyfrwng cyflym, hawdd ei ddefnyddio ac yn cynnig miliynau o raglenni cyfrifiadurol sydd ar gael yn rhad ac am ddim i’w defnyddio i greu tudalennau a chynnwys diddorol. Cyhoeddwn felly bod Bandiau Cymreig Wythnosol yn cael ei ail-lawnsio fel e-grawn. Mi fydd cylchgrawn ar-lein fel hyn yn ein galluogi ni i gyhoeddi’r newyddion diweddara yn gyflym a dosbarthu gwybodaeth i chi heb i ni orfod talu am gostau printio a phostio. Mi fydd yn galluogi pobl yn unrhywle yn y Byd i gysylltu a rhyngweithio hefo WBW yn gyflym, di-dâl a di-lol. A fi? – wel, Dwi’n lwcus, yn cael parhau i weithio ar rhywbeth sydd wedi bod yn lafur cariad am y ddeng mlynedd diwetha, ond erbyn hyn dwi’n gallu gwneud hynny o foethusrwydd fy nghadair esmwyth ger tanllwyth o dân yng ngogledd Cymru. Ymlaen a ni i’r deng mlynedd nesa… Debs Williams Cyfieithu gan Menai |
||