|
|
|
Gig cyntaf Angharad oedd Gorky's Zygotic Mynci yng nghanol y prynhawn yn neuadd ei ysgol yng Nghaerfyrddin pan oedd hi'n 12. Er doedd dim lysh yna, dydi hi dal ddim yn cofio lot o fe. Am ryw rheswm nath hi fynd i Lundain i astudio'r gyfraith, ond dath hi syth nôl i Gymru ar ôl i'r 3 mlynedd dod i ben. Ar ôl bymio o gwmpas Caerfyrddin am bach fe gafodd ei swydd cyntaf yn ITV Cymru yng Nghaerdydd. Chwech mlynedd mlaen a ma Angharad dal gyda'r un cwmni, ond nawr yn gweithio o swyddfa bach yng Nghaernarfon fel newyddiadurwraig i'r Byd ar Bedwar. Ei hoff Eisteddfod oedd un Meifod 2003 achos nath hi gwrdd a gymaint o ffrindiau da yna. Ar ôl meddwi, ma hi wastad yn rhoi mlaen Beganîfs ac yn neud i bawb dawnsio iddo fe. Ma Angharad wedi bod yn newyddiadurwraig llawrydd i Big Issue Cymru a ma hi newydd orffen ei ffilm fer cyntaf, Kentucky RIP, lle nath hi ddilyn Kentucky AFC ar ei daith olaf.
|
||