Proffeil: Debs Williams

 

 

 

hysbysebwch yma

 

 

Debs

Debs ydy'r sylfaenwr, golygydd a webmaster Bandiau Cymreig Wythnosol.

Mae gan Debs dalent arbennig am nagging: "os ti'm yn gofyn, ti'm yn cael" yw ei harwyddair, a hyd yn hyn mae hwn 'di bod yn agwedd eitha dibynadwy mewn bywyd, yn enwedig ynglyn â Bandiau Cymreig Wythnosol.

Yn wreiddiol o Camden Town yn Llundain, mae Debs yn byw rwan mewn pentre bychan yng Ngogledd Cymru efo'i gwr, ei merch, ei chi a'i dwy gath. Mae hi'n aelod o'r Chartered Institute of Marketing ac yn gweithio fel Rheolwr Marchnata i gwmni gwasanaethau'r wê.

Hoff band Debs yn y byd yw Super Furry Animals. Ei hoff albym gan SFA yw Fuzzy Logic, achos mae'n atgoffa hi o amserau hapus a chyffrous a'r bobol arbennig a chwrddodd yn dyddiau cynnar Bandiau Cymreig Wythnosol.

Mae erthyglau, cyfweliadau ac adolygiadau Debs wedi cael eu cyhoeddi mewn cyhoeddiadau eraill Cymreig, gan gynnwys Barn, Golwg, Big Issue Cymru a Sound Nation.

Yn anffodus, mae cyfieithu Debs o Saesneg i Gymraeg y sobor. Ond mae hi'n ocê o Gymraeg i Saesneg.

Anfonwch ebost at Debs
Debs ar MySpace