Proffeil: 'Loopy' Louise Ostrowska

 

 

 

hysbysebwch yma 

 

 

LooLoo

Roedd Louise wedi cael ei geni yn Watford yn 1985. O’r fana symudodd hi i rhywle oedd yn aml yn braf ond o hyd yn ddiflas wrth ymyl Portsmouth, yn fana canolbwyntiodd a churo ei ffrindiau dosbarth a perffomio ar yr llwyfan yn gwneud ballet a sioeau cerddorol, roedd rhieni yr plant eraill yn aml yn flin oherwydd hi oedd yn dwyn y rhannau orau o’r sioe o hyd.

Ar ôl gyrraedd dros y gyfnod 'Fi yw’r peth gorau erioed' penderfynodd i fynd i gweld gigs, mi oedd hwn yn lot llai o her i bobl eraill. Darganfododd cerddoriaeth Cymreig ac wedyn Bandiau Cymreig Wythnosol a thaflodd ei hun i fewn y byd bandiau Cymreig fel un fach swnllyd o’r dde sydd yn gwybod mwy amdan band ‘X’ na neb arall.

Ers 2005 mae hi wedi byw yn hapus iawn yng Nghaerdydd. Mae hi wrth ei bodd yn ddawnsio, cwcio prydau mawr, trafod ieithoedd a chenoldeb, mae hi’n ymchwilio bob dim i’r dim, yn enwedig bandiau, mae hi’n mynd yn drist dros anifeiliaid bach a phobol ac yn drio i fod yn rocabili lle bynnag mae’n bosib ac wrth gwrs i siarad Cymraeg yn ei breuddwydion… a weithiau yn y byd go iawn efo thipyn bach o lush. Yn ei bywyd delfrydol medrai wisgo fel Jackie Onassis (fel yr oedd hi!) bob dydd a fasai ei thraed ddim yn gael ei brifo gan sawdlau tal. Hefyd medrai hi eisiau canu fel PJ Harvey ac yfed seidr heb gael cur yn ei bola.

Henffych!

 

Ebostiwch LooLoo

 

Cyfieithu gan Pete Y Llais