Lawrlwythwch hen rifynnau o Bandiau Cymreig Wythnosol

 

 

 

hysbysebwch yma

 

Roedd Bandiau Cymreig Wythnosol yn ffansîn dihafal.

Mewn cyfnod pan roedd lot o ffansîns yn cael eu cyhoeddi mewn dull DIY (lluniau 'cut 'n' paste', erthyglau handwritten, popeth wedi'i photocopio), naethon ni benderfynnu y byddai Bandiau Cymreig Wythnsol yn cael ei argraffu'n broffesiynol - er roedd rhai o'r erthyglau cynnar heb eu ysgrifennu'n broffesiynol iawn!

Yn bellach, roedd pob rhifyn 100% yn ddwyieithog; gellid ddarllen y cylchgrawn llwyr yn Saesneg, troi o drosodd a'i ddarllen eto yn y Gymraeg. Tra roedd hyn yn drysu lot o bobol - roedd trio esbonio fo mewn gigs Stereophonics i Saeson meddw yn her - roedd llawer o ddysgwyr yr iaith Gymraeg yn ystyried Bandiau Cymreig Wythnosol yn ddefnyddiol i'w dysg.

Gwerthodd y rhifynnau cyntaf allan yn gyflym. Heddiw, dim ond rhifyn 9 sydd ar ôl, a hynny achos o'n ni 'di stopio mynd â bagiau o gylchgronnau i gigs i werthu i bobol meddw. Efo cyllideb mor fach ar gyfer argraffu (y mwyafrif o hyn yn dod o sêls cist car a gwystlo ein gemwaith), roedd rhaid i'n print runs fod yn fach; heblaw Rhifyn 2, efo print run o 500, cafodd pob rhifyn print run o ddim ond 300 copi. Wrth gwrs, pe taswn ni 'di anghofio ein egwyddorion gan photocopio pob rhifyn, gallen ni 'di safio ffortiwn ac argraffu copïau ychwanegol. Ond, o'n ni 'di addo ein darllenwyr fydd ein cylchgronnau wedi'u argraffu'n iawn, felly dyna be' cafon nhw.

Mae'r rhifynnau cynnar o Bandiau Cymreig Wythnosol yn brin a braidd yn amhosib i'w ffeindio, er bod ni 'di weld cwpwl o gopïau o rhifyn 6 ar werth mewn siopau arlein. Yn bellach, heblaw cyfweliad neu ddau, doedd hen rifynnau o Bandiau Cymreig Wythnosol ddim ar gael arlein.

Tan rŵan...

Am y tro cyntaf erioed, gallwch lawrlwytho pob hen rifyn o Bandiau Cymreig Wythnosol fel pdf.

Sut i lawrlwytho eich hen rifynnau o Bandiau Cymreig Wythnosol

'Da ni 'di rhannu pob hen rhifyn o Bandiau Cymreig Wythnosol i fewn i'w hanerau Saesneg a Chymraeg, 'di scanio nhw, ac wedi safio nhw fel pdfs ar gyfer lawrlwytho.

Ar y tudalen yma wnewch chi ffeindio dolennau i lawrlwytho'r hanerau Cymraeg o bob rhifyn; cliciwch y botymau i agor y pdfs mewn ffenestri newydd.

Pe hoffech lawrlwytho'r hanner Saesneg o bob rhifyn, cliciwch y dolen "English" ar ben y tudalen a byddwch yn darllen y cyfarwyddiadau 'ma yn Saesneg (on' tydi technoleg mor ffantastig?) - lawrlwythwch eich pdf o'r tudalen Saesneg yn lle'r tudalen Cymraeg a newch chi ffeindio'ch hun yn darllen hanner Saesneg y cylchgrawn.

I agor y pdfs yma 'da chi angen defnyddio Adobe Reader. Sylwch os gwelwch yn dda bod rhai o'r ffeils yn fawr iawn; os 'da chi'n defnyddio cysylltiad dialup efallai byddan nhw'n agor yn araf iawn. Ar ôl agor y ffeil, gallwch ddarllen y cylchgrawn yn eich browser neu cliciwch y botwm 'save a copy' i safio copi i'ch cyfrifiadur i ddarllen rhywbryd arall.

 

Lawrlwythwch Rhifyn 1 o Bandiau Cymreig Wythnosol

 

Lawrlwythwch Rhifyn 2 o Bandiau Cymreig Wythnosol

 

Lawrlwythwch Rhifyn 3 o Bandiau Cymreig Wythnosol

 

Lawrlwythwch Rhifyn 4 o Bandiau Cymreig Wythnosol

 

Lawrlwythwch Rhifyn 5 o Bandiau Cymreig Wythnosol

 

Lawrlwythwch Rhifyn 6 o Bandiau Cymreig Wythnosol

 

Lawrlwythwch Rhifyn 7 o Bandiau Cymreig Wythnosol

 

Lawrlwythwch Rhifyn 8 o Bandiau Cymreig Wythnosol

 

Lawrlwythwch Rhifyn 9 o Bandiau Cymreig Wythnosol